Addysgu'ch plentyn gartref
Bydd y rhan fwyaf o rieni'n anfon eu plentyn i'r ysgol, ond mae gennych chi'r hawl i addysgu'ch plentyn gartref. Fel rhiant, rhaid i chi sicrhau bod eich plentyn yn derbyn addysg amser llawn o'r adeg pan fo'n bump oed ymlaen.
Beth mae'n rhaid i chi ei wneud?
Dyma'r ffeithiau am addysgu plentyn gartref:
- does dim rhaid i chi fod yn athro/athrawes cymwysedig i addysgu'ch plentyn gartref
- does dim rhaid i'ch plentyn ddilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol na sefyll profion cenedlaethol ond, yn ôl y gyfraith, rhaid i rieni sicrhau bod eu plant yn cael addysg amser llawn sy'n addas i'w hoedran, eu gallu a'u doniau
- rhaid rhoi sylw i unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd gan y plentyn
- does dim rhaid i chi gael caniatâd arbennig gan ysgol neu awdurdod lleol i addysgu'ch plentyn gartref, ond rhaid i chi roi gwybod i'r ysgol trwy lythyr os ydych chi'n bwriadu tynnu'ch plentyn o'r ysgol
- bydd angen i chi rhoi gwybod i’r awdurdod lleol os ydych yn tynnu’ch plentyn o ysgol arbennig
- does dim rhaid i chi gadw at oriau, diwrnodau na thymhorau'r ysgol
- does dim rhaid i chi gael amserlen benodol, na rhoi gwersi ffurfiol
- does dim arian ar gael yn uniongyrchol gan y llywodraeth ganolog i rieni sy'n penderfynu addysgu eu plant gartref
- bydd rhai awdurdodau lleol yn darparu canllawiau ar gyfer rhieni, gan gynnwys deunyddiau'r Cwricwlwm Cenedlaethol am ddim
Swyddogaeth eich awdurdod lleol
Gall awdurdodau lleol wneud ymholiadau anffurfiol i sicrhau bod rhieni sy'n addysgu eu plant gartref yn darparu addysg briodol ar eu cyfer. Os bydd eich awdurdod lleol yn gwneud ymholiad anffurfiol, gallwch ddarparu tystiolaeth bod eich plentyn yn derbyn addysg effeithlon a phriodol drwy wneud y canlynol:
- ysgrifennu adroddiad
- darparu samplau o waith eich plentyn
- gwahodd un o arolygwyr yr awdurdod lleol i'ch cartref, gyda'ch plentyn yn bresennol neu beidio
- cyfarfod ag un o arolygwyr yr awdurdod lleol y tu allan i'ch cartref, gyda'ch plentyn yn bresennol neu beidio (nid oes gan yr arolygwyr hawl awtomatig i ddod i'ch cartref)
Os yw'n ymddangos i'r awdurdod lleol nad yw plentyn yn cael addysg briodol, yna, fe allai gyflwyno gorchymyn mynychu'r ysgol.
Er nad oes rhaid i chi hysbysu'ch awdurdod lleol yn ôl y gyfraith pan benderfynwch chi addysgu eich plentyn gartref, mae'n help os byddwch chi'n gwneud hynny. Os byddwch chi'n tynnu'ch plentyn o'r ysgol i'w haddysgu gartref, rhaid i chi roi gwybod i'r ysgol trwy lythyr.
Mae'n beth doeth, ond nid yn orfodol, i chi roi gwybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw newid pwysig yn eich amgylchiadau sy'n berthnasol i addysg eich plentyn, megis newid cyfeiriad.
Cael gwybod mwy am addysgu’ch plentyn gartref
Mae gan nifer o awdurdodau lleol gwybodaeth ar-lein ynghylch addysgu’ch plentyn gartref. Bydd y ddolen isod yn eich gadael chi i roi manylion ble’r ydych chi’n byw ac yna’n mynd â chi i’r dudalen berthnasol ar wefan eich awdurdod lleol.