Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Apelio yn erbyn penderfyniad yn gwrthod lle mewn ysgol

Os na chaiff eich plentyn le mewn ysgol o'ch dewis, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad at banel apêl annibynnol.

Os na chaiff eich plentyn le yn yr ysgol o’ch dewis

Bydd manylion ynghylch sut i apelio i'w gweld yn y llythyr derbyn a geir gan yr awdurdod lleol sy'n amlinellu ei gynnig. Yn y llythyr hefyd, nodir dyddiad cau ac mae'n rhaid i chi apelio erbyn y dyddiad hwnnw. Mewn rhai ardaloedd, efallai y cewch gyflwyno'ch apêl ar-lein.

Os nad yw'r plentyn wedi cael lle mewn ysgol bydd angen i chi gysylltu â'r tîm derbyn yn eich awdurdod lleol er mwyn iddyn nhw allu rhoi gwybod i chi pa ysgolion sydd â lleoedd ar gael.

Proses apelio

Mae pob apêl yn cael ei ystyried gan banel apêl annibynnol sy'n cynnwys rhwng tri a phum aelod o'r cyhoedd. Dim ond un apêl y gallwch ei wneud ar gyfer pob ysgol nad yw'n cynnig lle. Os oes mwy nag un ysgol yn gwrthod derbyn eich plentyn, gallwch wneud apêl ar wahân.

Dosbarthiadau babanod

Yn ôl y gyfraith, 30 o ddisgyblion ar y mwyaf a ganiateir fel arfer mewn dosbarthiadau babanod ac ynddynt blant pump, chwech a saith oed.

Gellir gwrthod ceisiadau am le oherwydd bod dosbarthiadau babanod mewn ysgol wedi cyrraedd eu llawn faint yn ôl y gyfraith. Yn y math hwn o apêl, dim ond y canlynol y caiff y panel ei ystyried:

  • a yw'r awdurdod derbyn wedi glynu wrth ei drefniadau derbyn cyhoeddedig wrth ddyrannu llefydd - dim ond pe bai'ch plentyn wedi cael ei dderbyn pe bai'r trefniadau derbyn wedi'u cymhwyso'n iawn y gall eich apêl lwyddo
  • a oedd y penderfyniad yn 'afresymol' - penderfyniad na fyddai awdurdod derbyn rhesymol wedi'i wneud dan yr amgylchiadau

Pryd bydd eich apêl yn cael ei gynnal?

Apeliadau ysgol uwchradd

  • dylai'r gwrandawiad ddigwydd cyn 6 Gorffennaf (neu'r diwrnod gwaith nesaf os yw'r dyddiad hwn ar benwythnos)

Apeliadau ysgolion cynradd

  • ni ddylai'r gwrandawiad ddigwydd yn hwyrach na 30 diwrnod ysgol yn dilyn y dyddiad cau am apeliadau

Apeliadau y tu allan i'r cylch derbyn arferol

  • ni ddylai'r gwrandawiad ddigwydd yn hwyrach na 30 diwrnod ysgol ar ôl i chi wneud apêl

Rhaid i'r awdurdod derbyn ysgrifennu atoch o leiaf 10 diwrnod ysgol cyn y gwrandawiad i gadarnhau'r dyddiad. Gall mudiadau megis y Ganolfan Cyngor am Addysg (ACE) gynnig cyngor wrth i chi baratoi eich achos.

Y gwrandawiad

Cam un

Bydd cynrychiolydd yr awdurdod derbyn yn esbonio i'r panel apêl y rhesymau dros wrthod eich cais.

Bydd y panel yn edrych a weithredodd yr awdurdod derbyn ei drefniadau cyhoeddedig yn gywir, ac yn penderfynu a oedd penderfyniad da dros wrthod eich cais (er enghraifft, gan fod y llefydd i gyd wedi cael eu rhoi i ymgeiswyr eraill â blaenoriaeth uwch yn unol â'r meini prawf derbyn).

Cam dau

Os bydd y panel yn penderfynu bod rheswm da dros wrthod eich cais, byddwch yn dal i gael cyfle i ddatgan pam eich bod yn apelio yn erbyn y penderfyniad. Byddwch yn gallu:

  • esbonio pam eich bod yn credu mai'r ysgol honno fyddai'r lle gorau i'ch plentyn
  • dweud wrth y panel am unrhyw amgylchiadau arbennig a allai gyfiawnhau rhoi lle i'ch plentyn
  • cyflwyno tystiolaeth neu ddogfennau ychwanegol a all fod yn berthnasol i'ch apêl

Cam tri

Yna, bydd y panel yn pwyso a mesur eich dadleuon ynghylch y manteision i'ch plentyn o fynd i'r ysgol o'ch dewis yn erbyn dadleuon yr awdurdod derbyn, megis yr effaith ar yr ysgol a'r plant eraill o dderbyn disgybl ychwanegol. Dyletswydd y panel yw dod i'w gasgliad annibynnol ei hun ynghylch a ddylai eich plentyn gael ei dderbyn neu beidio.

Os bydd y panel yn penderfynu bod eich achos yn gryfach, bydd yn derbyn eich apêl ac fe gaiff eich plentyn le yn yr ysgol. Os bydd yn gweld bod achos yr awdurdod derbyn yn gryfach, bydd yn cadw at y penderfyniad i beidio â chynnig lle i'ch plentyn.

Rhaid i chi ac awdurdod derbyn yr ysgol blygu i benderfyniad y panel apêl - a dim ond y llysoedd all ei wyrdroi. Fodd bynnag, gallwch gwyno wrth yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol os ydych chi'n teimlo bod “camweinyddu” wedi digwydd – gweler yr adran 'Beth sy'n digwydd nesaf' isod.

Bydd gan eich awdurdod lleol wybodaeth ar-lein am sut i apelio yn erbyn trefn derbyn ysgolion yn eich ardal. Edrychwch ar 'Apelio yn erbyn penderfyniad trefn derbyn ysgol' i gael gwybod mwy.

Y penderfyniad

Rhaid i chi ac awdurdod derbyn yr ysgol blygu i benderfyniad y panel apêl - a dim ond y llysoedd all ei wyrdroi.

Bydd y panel yn anfon llythyr atoch chi a'r awdurdod derbyn o fewn saith niwrnod. Os bydd eich apêl yn llwyddo, cynigir lle yn yr ysgol i'ch plentyn. Os na fyddwch yn llwyddiannus, gallwch roi enw'ch plentyn ar restr aros.

Cwyno am y broses apelio

Os ydych yn anhapus ynghylch y modd y gweithredwyd y broses apelio, gallwch gwyno wrth yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol. Er y gall argymell apêl o'r newydd, nid oes gan yr Ombwdsmon hawl i adolygu neu wyrdroi penderfyniad y panel apêl.

Os bydd newid yn eich amgylchiadau, efallai y gallwch wneud cais am apelio eto, os yw'r awdurdod derbyn yn ystyried bod y newid yn berthnasol i'ch cais.

Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Blant, Ysgolion a Theuluoedd

Cyrff annibynnol yw'r paneli apêl, felly ni all yr Ysgrifennydd Gwladol dros Blant, Ysgolion a Theuluoedd adolygu na gwyrdroi penderfyniadau paneli unigol. Y cyfan y gallant ei wneud yw ystyried cwynion ynghylch a sefydlwyd y panel apêl yn gywir neu beidio gan yr awdurdod derbyn.

Additional links

Ysgolion: y llun cyflawn

Dod o hyd i ysgolion, adroddiadau Ofsted a llawer mwy: yr adnodd ar-lein mwyaf cyflawn i ysgolion

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU