Os hoffech gymryd rhan yn ein harolwg wefan ymwelydd, a wnewch chi ymweld â'r safle ac wedyn dod yn �l a dewis y ddolen hon i gymryd rhan yn yr arolwg.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwneud cais am le mewn ysgol: meini prawf derbyn

Nid yw mynediad i ysgolion cynradd ac uwchradd yn awtomatig. Mae gan bob ysgol 'feini prawf derbyn' a ddefnyddir gan awdurdod derbyn yr ysgol i ddyrannu llefydd os byddant yn derbyn mwy o geisiadau na nifer y llefydd sydd ar gael.

Sut mae ysgolion yn dyrannu llefydd

Mae gan bob plentyn rhwng pump ac 16 oed hawl, yn ôl y gyfraith, i gael lle yn un o ysgolion y wladwriaeth. Lle bo'n bosib, cynigir lle i chi yn un o'r ysgolion sydd orau gennych, ond does dim modd gwarantu hynny.

Mae llawer o ysgolion yn derbyn mwy o geisiadau na'r nifer o lefydd sydd ganddynt i'w cynnig. Mae terfyn ar faint o blant y gall pob ysgol gynnig lle iddynt a hwn sy'n pennu nifer yr ymgeiswyr y byddant yn eu derbyn.

Meini prawf derbyn

Mae gan bob ysgol set o reolau, a elwir yn feini prawf 'derbyn' neu feini prawf 'gordanysgrifio'. Bydd ysgolion sydd wedi'u gordanysgrifio yn dilyn y rheolau hyn wrth ddyrannu llefydd. Awdurdod derbyn yr ysgol sy'n pennu'r meini prawf derbyn.

Ysgolion y wladwriaeth

  • yr awdurdod lleol (ar gyfer ysgolion 'cymuned' neu ysgolion 'gwirfoddol a reolir'); neu
  • corff llywodraethu'r ysgol (ar gyfer ysgolion 'sefydledig' neu ysgolion 'gwirfoddol a gynorthwyir')

Ysgolion annibynnol

Mae'r ysgolion annibynnol yn penderfynu ar eu meini prawf derbyn eu hunain.

Edrychwch dan 'Mathau o ysgolion' i gael mwy o wybodaeth am y gwahanol fathau o ysgol.

Holwch am y meini prawf cyn gwneud cais

Mae'n bwysig iawn cael gwybod pa feini prawf derbyn y bydd ysgolion lleol yn eu defnyddio cyn dewis pa ysgolion i wneud cais amdanynt.

Rhestrir manylion y meini prawf derbyn, ynghyd â ffigurau'n dangos faint o geisiadau a dderbyniodd yr ysgolion y flwyddyn cynt mewn prosbectysau ysgol. Mae'r wybodaeth hefyd ar gael yn y llyfryn 'Gwybodaeth i Rieni' a gynhyrchir gan eich awdurdod lleol.

Bydd y meini prawf derbyn yn amrywio o ardal i ardal ac o ysgol i ysgol, ond mae'n ofynnol gan y Cod Ymddygiad ar gyfer Derbyn i Ysgolion bod y meini prawf yn eglur, yn deg ac yn wrthrychol. Mae'r cod hefyd yn cynnwys rhestr o feini prawf derbyn nad yw ysgolion a noddir gan y wladwriaeth yn cael eu defnyddio.

Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod am feini prawf derbyn i ysgolion ar wefan eich awdurdod lleol, neu gofynnwch i'ch awdurdod lleol anfon copi o'u llyfryn atoch.

Gwrthwynebu trefniadau derbyn anghyfreithlon

Os ydych chi'n credu bod gan awdurdod derbyn drefniadau derbyn anghyfreithlon, gallwch gwyno wrth Ddyfarnwr yr Ysgolion. Gallwch wneud hyn o fewn cyfnod penodedig o amser, felly gwnewch yn siŵr o'r union ddyddiad gydag awdurdod lleol yr ysgol.

Gallwch wneud y gwrthwynebiad eich hun, neu gallwch gysylltu â Thîm Derbyniadau Ysgolion eich awdurdod lleol er mwyn iddyn wrthwynebu ar eich rhan. Mae gwybodaeth ynghylch beth gallwch ei wrthwynebu a'r ffurflen y bydd angen i chi ei llenwi ar gael ar wefan Swyddfa Dyfarnwr yr Ysgolion.

Ydy'ch plentyn yn bodloni'r meini prawf?

Os ydych yn gwneud cais am le mewn ysgol boblogaidd, edrychwch pa mor agos y mae eich plentyn yn bodloni'r meini prawf. Byddwch yn realistig: mae’n bosib na fydd pawb sy'n gwneud cais yn cael cynnig lle.

Dywed y Cod Ymddygiad ar gyfer Derbyn i Ysgolion y dylid rhoi blaenoriaeth i blant mewn gofal cyhoeddus. Dyma enghreifftiau o feini prawf eraill y gellid eu defnyddio:

  • a oes gan eich plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol yn barod
  • a ydych chi'n byw yn yr ardal a wasanaethir gan yr ysgol
  • (ar gyfer ysgolion crefyddol neu ffydd) a yw eich plentyn neu eich teulu yn arddel ffydd neu grefydd penodol yr ysgol
  • (ar gyfer ysgolion uwchradd) a yw eich plentyn yn mynychu ysgol gynradd sydd â chyswllt â'r ysgol uwchradd
  • a yw eich cartref yn agos at yr ysgol

Efallai y bydd awdurdodau derbyn yn defnyddio system o ddyrannu ar hap neu ‘bandio’. Mae dyrannu ar hap yn helpu i sicrhau bod gan ysgol ddisgyblion ag ystod o lefelau gallu gwahanol.

Gall mathau penodol o ysgolion ddefnyddio meini prawf derbyn eraill:

  • gall ysgolion eglwys neu ysgolion ffydd ofyn am gadarnhad eich bod yn mynychu man addoli perthnasol
  • mae ysgolion gramadeg, a rhai ysgolion eraill sy'n dewis cyfran o'u disgyblion ar sail gallu academaidd, yn dyrannu llefydd ar sail arholiad derbyn neu brawf dethol
  • gall ysgolion sy'n dyfarnu canran o'u llefydd yn ôl dawn disgyblion mewn pynciau penodol ddefnyddio rhyw fath o asesiad neu glyweliad lle bo hynny'n briodol
  • efallai y bydd ysgolion preswyl yn cyfweld eich plentyn er mwyn asesu pa mor addas ydynt i breswylio ynddynt (ni chaniateir cynnal cyfweliadau ar gyfer derbyn i unrhyw fath arall o ysgol a noddir gan y wladwriaeth)

Os bydd lle i'ch plentyn mewn mwy nag un o'r ysgolion o'ch dewis, cynigir lle i chi yn yr ysgol a oedd ar frig eich rhestr ar y cais. Os na fydd unrhyw un o'r ysgolion o'ch dewis yn gallu cynnig lle i'ch plentyn oherwydd bod ymgeiswyr eraill yn bodloni'r meini prawf yn well, bydd eich awdurdod lleol yn cynnig lle i chi mewn ysgol arall.

Cyflwyno'ch cais

I gael gwybodaeth ynghylch sut i gyflwyno'ch cais am le mewn ysgol, ynghyd â manylion am ddyddiadau cau allweddol, gweler 'Gwneud cais am le mewn ysgol'.

Additional links

Ysgolion: y llun cyflawn

Dod o hyd i ysgolion, adroddiadau Ofsted a llawer mwy: yr adnodd ar-lein mwyaf cyflawn i ysgolion

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU