Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mae Pob Rhiant yn Cyfri: eich system ysgolion leol

Mae'r rhan fwyaf o rieni'n hoff o gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yn ysgol eu plentyn, a rhaid i ysgolion wrando ar yr hyn sydd gan rieni i'w ddweud. Gallai chwarae mwy o ran fod yn brofiad boddhaus i chi, a rhoi budd i'r ysgol hefyd.

Darganfod sut mae pethau'n mynd yn ysgol eich plentyn

Fel rhiant, byddwch yn gwybod bod sawl ffordd o gael gwybod am yr hyn sy'n digwydd yn ysgol eich plentyn. Mae nifer o ysgolion yn anfon cylchlythyrau i gartrefi, a chewch adroddiadau am gynnydd eich plentyn a gwahoddiadau i nosweithiau rhieni.

Yn awr, bydd Ofsted yn arolygu ysgolion ac yn llunio adroddiadau ar eu cyfer unwaith bob tair blynedd o leiaf. Fe'ch hysbysir am yr arolygiad ymlaen llaw er mwyn i chi gael cyfle i roi eich barn i'r arolygwyr, a chewch gopi o'r adroddiad.

Un o'r meysydd y bydd Ofsted yn edrych arnynt yw sut mae ysgolion yn annog rhieni i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar ddyfodol yr ysgol.

O 2008 ymlaen, bydd y Comisiynydd Ysgolion yn cyhoeddi adroddiad blynyddol am foddhad rhieni gydag ysgolion.

Cymryd mwy o ran

Gallai chwarae mwy o ran fod yn brofiad boddhaus i chi, a dylanwadu'n ffafriol ar yr ysgol.

Nid oes angen i hyn gymryd llawer iawn o'ch amser – er enghraifft, gallech helpu ar ambell i wibdaith ysgol. Os gallwch wneud ymrwymiad mwy, efallai yr hoffech ystyried ymuno â'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon neu ddod yn un o lywodraethwyr yr ysgol.

Mae nifer o ysgolion hefyd yn ystyried sefydlu Cynghorau Rhieni. Mae'r rhain yn ffordd arall, lai ffurfiol o roi llais i rieni yn null rhedeg yr ysgol – a'r cyfle i gyfarfod â rhieni eraill ac athrawon.

Erbyn 2010, bydd pob ysgol yn darparu gwasanaethau 'estynedig' i'r gymuned leol. Dylai fod ysgol eich plentyn yn siarad â chi am y gwasanaethau yr hoffech iddynt eu cynnig.

Cael yr addysg sy'n gywir i'ch plentyn chi

Mae dod o hyd i'r ysgol iawn yn bwysig i bob teulu, ac mae nifer o awdurdodau lleol yn dechrau penodi Cynghorwyr Detholedig i ddarparu cefnogaeth ychwanegol, ymarferol i'r rhai hynny y mae ei hangen fwyaf arnynt.

Mae'r Cynghorwyr Detholedig yno i helpu rhieni i wneud synnwyr o'r wybodaeth sydd ar gael, eu galluogi i ystyried eu dewisiadau a gwneud cais i'r ysgol gywir i'w plentyn.

Nod Cod Ymddygiad ar gyfer Derbyn i Ysgolion 2007 yw sicrhau bod y broses dderbyn yn deg i bob teulu. Os teimlwch nad yw trefniadau derbyn unrhyw ysgol leol yn dilyn y gyfraith, efallai y gallech gwyno gerbron Swyddfa Dyfarnwr yr Ysgolion. Os ydych chi'n gwneud cais i ysgol a'ch bod yn credu y cafodd eich plentyn ei wrthod yn annheg, yna mae gennych yr hawl i apelio i banel annibynnol.

Os bydd problem yn ysgol eich plentyn

Os bydd problem, fel arfer y peth gorau i'w wneud yw mynd at yr athro neu'r prifathro'n uniongyrchol ac yna, os bydd angen, at gorff llywodraethu'r ysgol neu eich awdurdod lleol. Os nad yw hynny'n datrys y broblem, efallai y gall Ofsted helpu. Bydd pwerau newydd Ofsted yn golygu y gallant ystyried rhai cwynion gan rieni.

Os bydd arolygiad yn canfod nad yw safonau ysgol yn ddigon uchel, gall rhieni ddisgwyl i'r ysgol ofyn iddynt am eu barn o ran sut i wella pethau. Gallai hyn fod drwy arolygon, ymgynghoriad wedi'i redeg gan gorff llywodraethu'r ysgol, neu drwy Gyngor Rhieni.

Os bydd ysgol yn peri pryder – neu os oes cynlluniau i wneud newidiadau sylweddol i ddull rhedeg ysgol – gall yr awdurdod lleol benodi Cynrychiolydd Rhieni i sicrhau y caiff barn y rhieni ei chlywed.

Helpu i siapio'r system ysgolion

Dylid ymgynghori gyda chi am gynigion ar gyfer sefydlu ysgol newydd yn eich ardal, neu wneud newidiadau sylweddol i ddull rhedeg ysgol eich plentyn.

Os oes gennych chi blentyn oedran ysgol neu iau, mae gennych hawl i fynegi eich barn am sut y dylai'r system ysgolion leol ddatblygu.

Er enghraifft, efallai y dymunech ofyn i'ch awdurdod lleol helpu ysgol boblogaidd i ehangu – neu dynnu sylw at ddiffyg ysgolion un rhyw, neu ysgolion sy'n gysylltiedig â chred neu athroniaeth addysgol benodol. Mae gan nifer o wefannau awdurdodau lleol gyfarwyddyd am sut i wneud hyn.

Sefydlu ysgol a'i rhedeg

Gallai grŵp o rieni ddod at ei gilydd i fynegi eu cynigion eu hunain ar gyfer sefydlu a rhedeg ysgol newydd.

Hefyd, o 25 Mai 2007 ymlaen, bydd awdurdodau lleol yn defnyddio gweithdrefn newydd ar gyfer agor ysgolion a'u disodli. Fel arfer, byddant yn gwahodd cynigion i sefydlu ysgol gan amrywiaeth o wahanol ddarparwyr, a bydd rhieni'n gallu mynegu eu barn am y gwahanol ddewisiadau.

Gall agor a rhedeg ysgol ymddangos yn dasg anodd – ond bydd cymorth ar gael gan y Comisiynydd Ysgolion newydd. Rhan o'i swydd fydd darparu gwybodaeth i unrhyw grŵp rhieni sy'n dymuno cyflwyno cynigion i'w hawdurdod lleol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU