Pwrpas profion ac asesiadau athrawon y Cwricwlwm Cenedlaethol ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 1, 2 a 3 yw rhoi gwybodaeth i chi ac i'r ysgol ynghylch sut mae'ch plentyn yn dod yn ei flaen.
Ar ddiwedd pob cyfnod allweddol, bydd yr athro/athrawes yn asesu perfformiad eich plentyn yn ffurfiol. Defnyddir yr asesiad hwn ochr yn ochr â'r profion cenedlaethol i fesur cynnydd eich plentyn.
Wrth gwrs, bydd yr athro/athrawes yn asesu'r modd y mae eich plentyn yn dysgu yn anffurfiol ar adegau eraill, er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, mae'n bosib y byddan nhw'n gwrando ar eich plentyn yn darllen neu'n edrych ar waith mathemateg y mae wedi bod yn ei wneud. Bydd rhai ysgolion hefyd yn defnyddio profion dewisol i asesu cynnydd plant.
Yn ystod Cyfnod Allweddol 1, 2 a 3 asesir y cynnydd yn y mwyafrif o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn erbyn wyth lefel. Ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 1, 2 a 3 bydd yr ysgol yn anfon adroddiad atoch yn dweud wrthych ar ba lefel y mae eich plentyn yn gweithio.
Yng Nghyfnod Allweddol 1, seilir y lefel ar asesiad yr athro, gan ystyried perfformiad eich plentyn mewn amryw o dasgau a phrofion.
Yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3, bydd y lefel yn adlewyrchu asesiad yr athro a chanlyniadau'ch plentyn mewn profion cenedlaethol.
I gael gwybod mwy am lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol, edrychwch ar ‘Deall y Cwricwlwm Cenedlaethol’
Bydd eich plentyn yn cymryd profion cenedlaethol ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 2 a 3. Bwriad y profion yw dangos a yw'ch plentyn yn gweithio ar yr un lefel, ar lefel uwch neu ar lefel is na'r lefel darged ar gyfer eu hoed.
Mae hyn yn helpu'r plentyn i gynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Mae hefyd yn golygu bod ysgolion yn gallu gweld a ydyn nhw'n dysgu plant mewn ffordd effeithiol, drwy gymharu perfformiad eu disgyblion â'r canlyniadau cenedlaethol.
Bydd asesiad yr athro/athrawes ar gyfer plant saith oed yn cynnwys y canlynol:
Mae'r asesiadau hyn yn ystyried perfformiad eich plentyn yn nhasgau Cyfnod Allweddol 1 ac yn y profion ar gyfer plant saith oed. Mae'r tasgau a'r profion yn delio â:
Gellir cynnal y tasgau a'r profion unrhyw bryd, fel y dymuna'r ysgol. Ni fyddant yn para mwy na thair awr gyda'i gilydd. Ni cheir adroddiad ar y canlyniadau ar wahân ond fe'u defnyddir i helpu'r athrawon asesu gwaith eich plentyn. Erbyn iddynt gyrraedd saith oed, disgwylir i'r rhan fwyaf o blant gyrraedd lefel 2.
Bydd eich awdurdod lleol yn cysoni asesiadau athrawon. Pwrpas hyn yw sicrhau bod asesiadau'r athrawon o waith y plant yn gyson.
Ym Mhrofion Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer plant 11 oed, profir y canlynol:
Cynhelir y profion hyn ar ddiwrnodau penodol yng nghanol mis Mai, ac ni threulir mwy na phum awr a hanner i gyd ar y rhain.
Bydd asesiad yr athro/athrawes yn cynnwys:
Erbyn iddynt gyrraedd 11 oed, disgwylir i'r rhan fwyaf o blant gyrraedd lefel 4.
Ym Mhrofion Cyfnod Allweddol 3 ar gyfer plant 14 oed, profir y canlynol:
Cynhelir y profion ar ddiwrnodau penodol ddechrau mis Mai. Gyda'i gilydd, byddant yn para rhwng saith ac wyth awr.
Bydd asesiad yr athro/athrawes ar gyfer plant 14 oed yn cynnwys y canlynol:
Erbyn iddynt gyrraedd 14 oed, disgwylir i'r rhan fwyaf o blant gyrraedd lefel 5.
Mae'n bosib y bydd canlyniadau'r profion ac asesiadau'r athrawon yn wahanol, ac mae'n bwysig edrych ar y ddau er mwyn cael golwg gyflawn ar gynnydd eich plentyn. Er enghraifft, mae'n bosib bod athro/athrawes yn teimlo bod eich plentyn yn gwneud yn well mewn pwnc drwyddo draw nag y mae yng ngwahanol elfennau'r pwnc a brofir mewn prawf.
Ar ddiwedd pob cyfnod allweddol, byddwch yn cael adroddiad gan yr ysgol yn dweud wrthych: