Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc 11 i 16 oed

Pan fydd eich plentyn rhwng 11 ac 16 oed, bydd yn symud drwy Gyfnodau Allweddol 3 a 4. Ym Mlwyddyn 9 bydd yn sefyll profion cenedlaethol ac yn dewis beth i'w astudio yng Nghyfnod Allweddol 4. Yn ystod Cyfnod Allweddol 4 bydd y rhan fwyaf yn gweithio tuag at gymwysterau cenedlaethol - TGAU fel rheol.

Cyfnod Allweddol 3 a'r Cwricwlwm Cenedlaethol

Bydd plant sy'n mynychu un o ysgolion y wladwriaeth pan fyddant rhwng 11 ac 14 oed (rhwng Blynyddoedd 7 a 9), yn dilyn Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Pynciau gorfodol Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol yw:

  • Saesneg
  • Mathemateg
  • Gwyddoniaeth
  • Dylunio a thechnoleg
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
  • Hanes
  • Daearyddiaeth
  • Ieithoedd tramor modern
  • Celf a dylunio
  • Cerddoriaeth
  • Dinasyddiaeth
  • Addysg gorfforol

Rhaid i ysgolion hefyd ddarparu:

  • Addysg a chyfarwyddyd gyrfaoedd (yn ystod Blwyddyn 9)
  • Addysg Rhyw a Chydberthynas (ARhCh)
  • Addysg Grefyddol

Gall rhieni ddewis i'w plentyn beidio â bod yn rhan o'r cwricwlwm addysg grefyddol naill ai yn ei gyfanrwydd neu ran ohono, felly hefyd yr elfennau anstatudol o Addysg Rhyw a Chydberthynas – gweler yr adran ‘Addysg Rhyw a Chydberthynas’ isod.

Yn dibynnu ar yr ysgol, gallai eich plentyn hefyd gael gwersi addysg iechyd, bersonol a chymdeithasol (AIBCh).

Dewisiadau Blwyddyn 9

Yn 14 oed, bydd eich plentyn yn sefyll profion cenedlaethol mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, a fydd yn galluogi'r ysgol i ddysgu mwy am eu cynnydd. Anfonir canlyniadau eu profion atoch ynghyd ag asesiad eu hathro o'u cynnydd.

Yn ystod Blwyddyn 9, bydd eich plentyn hefyd yn dewis pa bynciau y bydd yn eu hastudio yng Nghyfnod Allweddol 4. Bydd eu hastudiaethau yn nifer o'r pynciau hyn yn arwain at gymwysterau cydnabyddedig cenedlaethol, megis TGAU.

Bydd angen iddynt ddewis pynciau y maent yn eu mwynhau ac yn gwneud yn dda ynddynt, ond dylent hefyd geisio cael cydbwysedd rhwng y pynciau - bydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau iddynt pan ddaw'n amser penderfynu ar gyrsiau a swyddi yn y dyfodol.

Bydd yr ysgol yn rhoi gwybodaeth i chi am ddewisiadau Blwyddyn 9. Efallai y bydd eich plentyn yn falch o drafod y dewisiadau hyn gyda chi.

Cyfnod Allweddol 4

Fel arfer bydd disgyblion ym Mlwyddyn 10 ac 11 rhwng 14 ac 16 oed. Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4, bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn sefyll arholiadau cenedlaethol - TGAU fel arfer. Bydd eich plentyn hefyd yn cael dewis o amrywiaeth gynyddol o gymwysterau galwedigaethol.

Yng Nghyfnod Allweddol 4, bydd eich plentyn yn astudio cyfuniad o bynciau gorfodol a dewisol. Dyma'r pynciau y bydd rhaid iddynt eu hastudio:

  • Saesneg
  • Mathemateg
  • Gwyddoniaeth
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
  • Addysg gorfforol
  • Dinasyddiaeth

Yn ogystal â hyn, mae'n rhaid i ddisgyblion ymgymryd â dysgu sy'n gysylltiedig â gwaith ac addysg gyrfaoedd. Rhaid i ysgolion hefyd gynnig addysg grefyddol, Addysg Rhyw a Chydberthynas ac o leiaf un pwnc o bob un o'r meysydd 'hawl a haeddiant'.

Dyma’r meysydd hawl a haeddiant:

  • Pynciau'r Celfyddydau
  • Dylunio a thechnoleg
  • Dyniaethau
  • Ieithoedd tramor modern

Addysg Rhyw a Chydberthynas (ARhCh) ac addysg grefyddol

Addysg Rhyw a Chydberthynas

Ac ystyried rhyw a chydberthnasau, rydych chi, fel rhiant neu ofalwr, yn ganolog i addysg eich plentyn. Nod Addysg Rhyw a Chydberthynas mewn ysgolion yw ategu'ch rôl chi yn hyn o beth. Bydd ysgolion yn datblygu eu rhaglenni Addysg Rhyw a Chydberthynas eu hunain, gan ystyried gofynion statudol a chanllawiau'r llywodraeth - a dylech chithau gael dweud eich barn hefyd. Anogir ysgolion i gysylltu â rhieni pan fyddant yn datblygu neu'n diweddaru eu rhaglen ARhCh.

Dylai bod copi o bolisi ARhCh yr ysgol ar gael i chi ei archwilio. Os oes gennych unrhyw amheuon yn ei gylch, trafodwch nhw ag aelod o staff. Os nad ydych yn fodlon, gallwch dynnu eich plentyn o'r rhaglen ARhCh naill ai yn ei chyfanrwydd neu rannau ohoni – ac eithrio'r elfennau statudol sy'n rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer gwyddoniaeth.

Addysg Grefyddol

Bydd cwricwlwm ysgol ar gyfer addysg grefyddol hefyd yn cael ei lunio'n lleol – naill ai gan yr ysgol ei hun, neu gan fwrdd â chynrychiolwyr o athrawon, grwpiau ffydd ac ysgolion cyfagos. Mae gan rieni hawl i dynnu eu plentyn o ran o'r cwricwlwm addysg grefyddol, neu'r cyfan ohono.

Adolygiad o'r cwricwlwm ar gyfer plant 11-16 oed

Ym mis Medi 2007, cyhoeddwyd cwricwlwm uwchradd newydd, gyda'r nod o roi mwy o hyblygrwydd i ysgolion. Nod y cwricwlwm newydd yw:

  • lleihau'r cynnwys pynciau gorfodol
  • rhoi mwy o le ac amser i athrawon bersonoli eu dull addysgu drwy gynnig gwersi dal-i-fyny mewn nodweddion sylfaenol, a chreu cyfleoedd i bob disgybl ddyfnhau ac ymestyn ei ddysgu
  • datblygu ffocws cryfach ar ddatblygu nodweddion personol a sgiliau byw ymarferol
  • helpu athrawon i wneud cysylltiadau rhwng y pynciau ac edrych ar y cwricwlwm yn ei gyfanrwydd

Cyflwynir y cwricwlwm Cyfnod Allweddol 3 newydd dros gyfnod o dair blynedd. Daw'n orfodol ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 ym mis Medi 2008. O fis Medi 2009 ymlaen, bydd yn berthnasol i bob disgybl Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8, ac o fis Medi 2010 ymlaen bydd yn berthnasol ar draws Blynyddoedd 7, 8 a 9. Cyflwynir newidiadau i gwricwlwm Cyfnod Allweddol 4 o fis Medi 2009 ymlaen.

I gael mwy o wybodaeth am y cwricwlwm uwchradd newydd, ewch i wefan yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm.

Newidiadau i addysg pobl ifanc 14 i 19 oed: Diplomâu newydd

Fel rhan o ddiwygio'r cwricwlwm i bobl ifanc 14 i 19 oed, o fis Medi 2008 ymlaen, cyflwynir cymhwyster Diploma newydd ochr yn ochr â TGAU a Safon Uwch mewn rhai ysgolion a cholegau dewisol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU