Bydd newidiadau mewn addysg a hyfforddiant yn arwain at ddewis ehangach o gyrsiau i bobl ifanc 14 i 19 oed - cyrsiau a fydd yn anelu at roi cyfle iddynt ddysgu mewn ffordd sy'n addas iddyn nhw a meithrin y sgiliau angenrheidiol ar gyfer astudiaeth bellach a gwaith.
Yn ogystal â'r cymhwyster Diploma newydd, bydd newidiadau mewn cymwysterau TGAU a Lefel A, mwy o gyfleoedd i ddilyn Prentisiaeth a rhaglen newydd i gefnogi pobl ifanc nad ydynt yn cyflawni eu potensial.
Mae'r Diploma'n gymhwyster newydd ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed. Fe'i cynlluniwyd i bontio'r bwlch rhwng dysgu academaidd a dysgu galwedigaethol. Mae'n cynnig ffordd fwy ymarferol o ennill y sgiliau a'r wybodaeth hanfodol y bydd cyflogwyr a phrifysgolion yn chwilio amdanynt.
O fis Medi 2008 ymlaen, bydd rhai ysgolion a phrifysgolion o amgylch y wlad yn cynnig y Diploma newydd fel cymhwyster ochr yn ochr â TGAU a Lefel A.
Bydd newidiadau i'r modd yr asesir TGAU o fis Medi 2009 ymlaen:
O fis Medi 2008 ymlaen, bydd gan fyfyrwyr lai o amser i'w dreulio ar asesiadau. Bydd y rheini sy'n cyflawni i safon uwch yn cael mwy o gyfleoedd i ddangos eu gallu – gan ei gwneud yn haws i brifysgolion a cholegau eu canfod. Bydd:
Disgwylir i fwy o golegau ac ysgolion gynnig cyfleoedd i bobl ifanc astudio modylau addysg uwch wrth iddynt astudio ar gyfer Lefel A.
Nid yw cwricwlwm y brif ffrwd yn apelio at rai pobl ifanc, ac nid ydynt yn teimlo ei fod yn berthnasol iddyn nhw.
Mae'r rhaglen newydd ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed wedi'i hanelu at y rheini nad ydynt yn debygol o ennill Lefel 1 – gan gynnwys y rheini y mae'r gallu ganddynt i wneud yn dda, ond heb gymhelliant. Mae'n dangos i bobl ifanc sut y gall dysgu greu cyfleoedd gyrfa a'u helpu i feithrin sgiliau sylfaenol fel llythrennedd a rhifedd, yn ogystal â'r agwedd a'r sgiliau personol a chymdeithasol sy'n bwysig wrth ddysgu ac ym myd gwaith.
Bydd fframwaith newydd o gymwysterau ar Lefel Mynediad a Lefel 1 yn cefnogi hyn, gan helpu dysgwyr i ddatblygu at Lefel 2 (sy'n gyfystyr â phumpTGAU da). Bydd cymwysterau a gydnabyddir dan y fframwaith yn cynnwys sgiliau ar gyfer bywyd a gweithio, dysgu galwedigaethol ac ar sail pwnc, a datblygiad personol a chymdeithasol.