Mae cerddoriaeth fel gweithgaredd neu fynegiant creadigol yn bleser ynddi'i hun. Gall helpu plant i ddatblygu eu lleferydd a'u deallusrwydd, a meithrin eu doniau creadigol. Mae clybiau cerdd yn ffordd rwydd o gynnwys eich plentyn mewn cerddoriaeth.
Yn aml iawn, bydd clybiau cerdd yn cael eu cynnwys yn y rhaglen cymorth i astudio neu mewn rhaglenni gweithgareddau ar ôl ysgol. Bydd gan eich ysgol fwy o wybodaeth am hyn.
Gall eich awdurdod lleol roi gwybodaeth i chi hefyd am raglenni a chlybiau ar ôl ysgol. Lle da i gael gwybod beth sydd ar gael yw gwefan yr awdurdod neu gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol.
Ceir nifer o gynlluniau rhad neu am ddim dan nawdd y llywodraeth i helpu plant i gymryd rhan mewn addysg a digwyddiadau cerddorol. Efallai y dowch o hyd hefyd i sefydliadau neu unigolion yn eich ardal sy'n cynnal dosbarthiadau a gweithdai cerddoriaeth i blant am ffi.
Elusen addysgiadol yw Cerddoriaeth i'r Ifanc. Mae'n cynnig llwybr am ddim at gyfleoedd i gael addysg gerddorol a pherfformio i blant rhwng pedair a 18 oed.
Mae Cerddoriaeth i'r Ifanc yn cynnig gweithgareddau cerdd am ddim sydd wedi'u hanelu'n benodol at blant na fyddent fel arall yn cael cyfle i gymryd rhan ynddynt.
Bydd plant talentog yn aml yn haeddu anogaeth wrth iddyn nhw astudio cerddoriaeth. Gall addysg gerddorol fod yn ddrud ond mae cynlluniau a mentrau ar gael i helpu gyda'r costau.
Os oes gan eich plentyn dalent neu ddawn arbennig, mae'n bosib y gallai fod yn gymwys i gael grant dan gynllun Cerdd a Dawns y llywodraeth a sefydlwyd i annog cerddorion ifanc.
Mae nifer o elusennau cerddorol yn cynnig grantiau a all helpu i dalu am wersi cerddoriaeth i blentyn talentog, neu helpu mewn ffyrdd eraill. Grantiau i Gerddorion Ifanc yw un o'r elusennau hyn ac ar ei gwefan, fe welwch gyfeiriad at sefydliadau eraill a all helpu.
Gallwch lenwi eich manylion am eich cartref yn y ddolen ganlynol, bydd hyn wedyn yn eich tywys i'r wefan am eich cyngor lleol ble gallwch gael gwybod am hyfforddiant cyfryngol yn eich ardal