Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymorth i astudio

Cynhelir gweithgareddau cymorth i astudio (dysgu gwirfoddol y tu allan i oriau ysgol) cyn neu ar ôl yr ysgol, amser cinio neu amser egwyl, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgolion. Gall gweithgareddau cymorth i astudio gynnwys clybiau brecwast, clybiau gwaith cartref, chwaraeon, cerddoriaeth a'r celfyddydau, a chyfleoedd i ddilyn diddordebau penodol.

Cymorth i astudio

Cefnogir cymorth i astudio neu ddysgu y tu allan i oriau ysgol gan awdurdodau lleol ac mae'n cynnig man diogel i'ch plentyn ddysgu a chael hwyl dan oruchwyliaeth, y tu allan i oriau ysgol. Gall hyn fod yn gymorth mawr os ydych chi'n rhiant sy'n gweithio.

Darperir cymorth i astudio mewn ysgolion, mewn llyfrgelloedd lleol, ar feysydd neu mewn clybiau chwarae ac mewn amgueddfeydd ac orielau.

Bydd rhai o'r gweithgareddau wedi'u hanelu'n benodol tuag at ddysgu. Nod y rhain yw gwella llythrennedd neu rifedd neu roi hwb ychwanegol i blant mewn pwnc penodol.

Bydd eraill yn canolbwyntio ar amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys cerddoriaeth, chwaraeon, ieithoedd, celf, dawns, drama, coginio neu wyddbwyll, i enwi ond ychydig. I gael gwybod pa weithgareddau sydd ar gael eich yn ardal chi, holwch eich awdurdod lleol neu ysgol eich plentyn.

Cael gwybod am fudiadau i fyfyrwyr yn eich ardal chi

Gallwch gael gwybodaeth am grwpiau ieuenctid, clybiau a mudiadau yn eich ardal chi gan eich awdurdod lleol. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Cymorth i astudio ar gyfer plant y mae angen eu hysgogi

Mae canolfannau cymorth i astudio ar gael hefyd yn rhai o'r clybiau pêl-droed mawr a'r lleoliadau chwaraeon pwysicaf, drwy gyfrwng y cynllun Chwarae i Lwyddo.

Nod y cynllun hwn yw rhoi hwb i blant y mae angen hwb arnynt gyda'u sgiliau llythrennedd, rhifedd a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

Fel rhan o'r cynllun hwn, defnyddir chwaraeon megis pêl-droed a rygbi - yn ogystal â'r lleoliad ei hun - yn ffordd i ysgogi disgyblion Cyfnod Allweddol 2 a 3.

Allweddumynediad llywodraeth y DU