Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Datblygu sgiliau darllen, ysgrifennu a sillafu plant rhwng pump ac 11 oed

Gall darllen gyda'ch plant a'u helpu gydag ysgrifennu a sillafu fod yn gymorth i roi hwb i'w dysgu. Mae rhai sgiliau, megis darllen a chyfri wir yn werth eu hymarfer gartref oherwydd eu bod yn hanfodol er mwyn i'ch plentyn wneud cynnydd yn nes ymlaen.

Darllen

Mae athrawon yn dweud mai helpu gyda darllen gartref yw'r ffordd bwysicaf y gall rhieni helpu eu plentyn. Cofiwch sicrhau bod eich plentyn yn cael ymarfer darllen rheolaidd a sicrhau eu bod yn deall yr hyn y maen nhw'n ei ddarllen. Dyma fwy o gyngor am sut i helpu'ch plentyn i ddarllen:

  • wrth i chi ddarllen i blant, cofiwch siarad â nhw a'u cael i ymateb - gofynnwch gwestiynau am y stori, y lluniau, a beth maen nhw'n ei feddwl o'r cymeriadau
  • wrth i'w sgiliau darllen wella, gadewch iddyn nhw newid y drefn yn raddol nes mai nhw sy'n darllen i chi
  • defnyddiwch eiriaduron gyda'ch gilydd ar gyfer geiriau anodd - gall geiriadur lluniau wneud archwilio iaith yn broses fwy diddorol
  • trefnwch i'ch plentyn ymuno â'r llyfrgell leol er mwyn rhoi cynnig ar lyfrau newydd yn rheolaidd
  • cadwch olwg ar y themâu sy'n tanio dychymyg eich plentyn yn yr ysgol - a cheisiwch ddilyn trywydd y rheini wrth ddarllen mwy amdanyn nhw
  • pan ddowch chi ar draws gair anghyffredin neu un sy'n swnio'n rhyfedd, helpwch eich plentyn i gael gwybod beth yw'r ystyr ac ysgrifennwch y gair ar ddrws eich oergell gyda llythrennau magnetig

Wrth i blant dyfu, ceisiwch eu hannog i godi llyfrau eraill o gwmpas y tŷ i'w gwneud yn fwy cyfarwydd ag iaith 'oedolion'. Awgrymwch restr ddarllen, a'u hannog i ysgrifennu syniadau am y llyfrau y maen nhw wedi'u darllen.

Ysgrifennu a sillafu

O ran llawysgrifen, mae dechrau ar y llwybr iawn yn haws na chywiro llawysgrifen wael yn ddiweddarach, pan fydd pwysau gwaith ysgol yn fwy. Mae'r un peth yn wir am sillafu. Helpwch eich plentyn i weld sgiliau ysgrifennu a sillafu'n bethau sydd nid yn unig yn hwyl ond yn rhywbeth pwysig a rhywbeth y dylai fod yn falch ohonyn nhw.

  • helpwch blant iau drwy ysgrifennu geiriau a brawddegau iddyn nhw'u copïo
  • pwysleisiwch y cysylltiadau rhwng tynnu llun ac ysgrifennu, a chofiwch sicrhau bod eich plentyn bob tro'n rhoi llofnod ar unrhyw waith celf
  • rhowch anogaeth i'ch plentyn gael ei h/ysbrydoli gan enghreifftiau o lawysgrifen gain mewn amgueddfeydd, orielau a llyfrau
  • gall plant hŷn ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu a chymdeithasol gyda'i gilydd drwy drefnu ffrind llythyru drwy'r ysgol neu glybiau, neu drwy gadw mewn cysylltiad â ffrindiau y daeth i'w adnabod ar wyliau

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU