Er mwyn paratoi eich plentyn ar gyfer yr ysgol, mae'n werth cael gwybod cymaint ag y gallwch chi am yr ysgol cyn eu diwrnod cyntaf. Mae'n bosib y byddwch am gael gwybod am ethos a pholisïau'r ysgol, beth fydd ei angen ar eich plentyn a sut y bydd yn dysgu.
Gallwch gael gwybod am eich ysgol leol drwy gael prosbectws gan adran addysg eich awdurdod lleol neu gan yr ysgol ei hun. Hefyd, fe allai fod yn werth sgwrsio â rhieni sydd eisoes â phlant yn yr ysgol.
Bydd llawer o ysgolion yn trefnu diwrnodau neu nosweithiau agored, a bydd y rhain yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a gweld y tu mewn i ysgol eich plentyn.
Yn ystod blwyddyn gyntaf eich ysgol gynradd, bydd y Cyfnod Sylfaenol yn parhau ac felly, dylai eich plentyn ddysgu mewn ffordd debyg a dilyn yr un math o weithgareddau ag yr oedden nhw'n gyfarwydd â nhw yn ystod y blynyddoedd cynnar. Gelwir dwy flynedd nesaf yr ysgol gynradd yn Gyfnod Allweddol 1 a'r pedair blynedd wedyn yn Gyfnod Allweddol 2. Yn ystod pob un o'r Cyfnodau hyn, mae'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn pennu pa bynciau gaiff eu dysgu.
Gall cael gwybod sut mae addysgu a dysgu'n digwydd fod yn help i chi gefnogi'ch plentyn er mwyn gwneud yn fawr o'u hamser yn yr ysgol.
Efallai yr hoffech holi:
Mae'n debygol y bydd mynd i'r ysgol yn golygu newid arferion beunyddiol eich plentyn.
Mae'n help cael gwybod: