Os hoffech gymryd rhan yn ein harolwg wefan ymwelydd, a wnewch chi ymweld â'r safle ac wedyn dod yn �l a dewis y ddolen hon i gymryd rhan yn yr arolwg.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cludiant ysgol

Mae cael plentyn i gyrraedd yr ysgol mewn pryd ac yn ddiogel yn dipyn o her. Mewn ambell achos, mae plant yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim, a allai fod o help.

Cludiant ysgol am ddim – gweld a yw'ch plentyn chi'n gymwys

Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cludiant pan fyddant yn meddwl bod angen hynny er mwyn sicrhau bod plentyn yn cyrraedd yr ysgol. Os oes angen cludiant, yna rhaid ei ddarparu'n ddi-dal.

Yn y rhan fwyaf o achosion, yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu pa gludiant sy'n angenrheidiol. Ond bydd gan eich plentyn hawl awtomatig i gael cludiant am ddim:

  • os yw rhwng pump ac 16 oed

ac:

  • os yw'n mynychu'r ysgol addas agosaf, a bod yr ysgol honno'n bellach na'r 'pellter cerdded statudol'

Y pellter cerdded statudol yw:

  • dwy filltir i blant hyd at wyth oed
  • tair milltir i blant wyth oed a hŷn

Mesurir y daith ar hyd y llwybr byrraf y byddai plentyn, gyda chyd-gerddwr os oes angen, yn gallu ei gerdded yn weddol ddiogel. Os nad oes llwybr o'r fath, rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu cludiant am ddim, waeth beth yw pellter eich cartref o'r ysgol.

Gwneud cais am gymorth i deithio o'r cartref i'r ysgol

Gallwch gael mwy o wybodaeth a/neu wneud cais am gymorth i deithio o'r cartref i'r ysgol ar-lein. Bydd y ddolen isod yn gadael i chi roi manylion ble'r ydych chi'n byw, ac yna'n mynd â chi i'r dudalen berthnasol ar wefan eich awdurdod lleol.

Plant gydag anghenion addysgol arbennig neu anableddau

Dylai awdurdodau lleol ystyried unrhyw anabledd neu anghenion addysgol arbennig wrth benderfynu a oes angen cludiant ar eich plentyn.

Os oes gan eich plentyn ddatganiad anghenion addysgol arbennig (AAA) a gofynion o ran cludiant wedi'u nodi arno, bydd rhaid i'ch awdurdod lleol ddiwallu'r gofynion hynny.

Gwneud cais am gludiant ysgol i blant gydag AAA neu anableddau

Bydd y ddolen isod yn mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ac i dudalen lle cewch mwy o wybodaeth am gludiant ysgol i blant gydag AAA neu anableddau.

Efallai y bydd cymorth ar gael, hyd yn oed os nad ydych yn gymwys yn awtomatig

Mewn ambell achos, fe all cludiant am ddim fod ar gael i ddisgyblion nad ydyn nhw'n gymwys yn awtomatig. Eich awdurdod lleol fydd yn penderfynu hyn - i gael gwybodaeth am eu polisi, dilynwch y ddolen isod 'Cael gwybod am gymorth i deithio o'r cartref i'r ysgol'.

Er enghraifft, efallai y bydd eich awdurdod lleol yn darparu cludiant i ddisgyblion sy'n byw yn nes na'r pellter cerdded statudol.

Efallai y bydd cludiant am ddim ar gael hefyd os bydd eich plentyn yn mynychu ysgol a ddewiswyd ar sail crefydd neu gred, ar yr amod bod yr ysgol yn bellach na phellter penodol o'ch cartref (sy'n golygu pellach na'r pellter cerdded statudol fel arfer).

Newydd ar gyfer 2007/2008: hawliau estynedig i gael cludiant am ddim

Disgyblion ysgolion cynradd

O fis 1 Medi 2007, caiff yr hawl i gael cludiant ysgol am ddim ei hymestyn i ddisgyblion:

  • sydd rhwng wyth ac un ar ddeg oed
  • sy'n dod o deuluoedd ar incwm isel
  • sy'n mynd i'w hysgol addas agosaf, ac yn byw mwy na dwy filltir i ffwrdd

Disgyblion ysgolion uwchradd

O fis 1 Medi 2008, caiff disgyblion ysgolion uwchradd hawl i gael cludiant ysgol am ddim os ydyn nhw'n dod o deuluoedd ar incwm isel a'u bod yn mynd i:

  • unrhyw un o'r tair ysgol addas agosaf atynt, a bod yr ysgolion rhwng dwy a chwe milltir i ffwrdd

neu:

  • yr ysgol agosaf yn ôl dewis eu rhieni ar sail crefydd neu gred, a bod yr ysgol rhwng dwy a 15 milltir i ffwrdd

Mae'r hawliau estynedig i gael cludiant am ddim yn rhan o newidiadau ehangach a gyflwynwyd dan Ddeddf Addysg ac Arolygon 2006.

Cymorth gyda chostau teithio i rai dros 16

Os yw eich plentyn dros 16 oed ac mewn Addysg Bellach neu yn y chweched dosbarth, mae'n bosib y gall eich awdurdod lleol helpu gyda chostau teithio. Mae gan bob awdurdod lleol ei bolisi ei hun ar gyfer helpu gyda chludiant i rai dros 16.

Cerdded a beicio'n ddiogel i'r ysgol

Mae 'bysiau cerdded' a 'threnau beicio' yn helpu plant i gerdded neu feicio i'r ysgol yn ddiogel dan oruchwyliaeth oedolion. Mae'r rhain yn ddewis arall cynaliadwy yn lle teithio mewn car, bws neu drên ac maen nhw'n helpu i gadw plant yn iach.

Teithio cynaliadwy i'r ysgol

Yn ogystal â helpu i hybu ffitrwydd a lefel canolbwyntio'r plant, mae cerdded a beicio yn helpu i leihau'r tagfeydd a achosir wrth gludo plant i'r ysgol - ynghyd â'r damweiniau a'r llygredd cysylltiedig, gan gynnwys allyriadau carbon.

Os nad yw cerdded neu feicio yn opsiwn, mae bysiau ysgol, cludiant cyhoeddus a rhannu ceir yn ddewis arall mwy cynaliadwy yn lle mynd â'r car.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU