Mae gennych swyddogaeth hollbwysig o ran cefnogi addysg eich plentyn. Dylid ystyried eich barn chi a dylid gwrando ar ddymuniadau eich plentyn. Hefyd, ceir sawl grŵp a mudiad a all roi cyngor i chi am anghenion addysgol arbennig (AAA).
Os nad ydych chi'n hapus â'r hyn y mae'r ysgol yn ei wneud dros eich plentyn, siaradwch yn y lle cyntaf â'r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig, neu ag athro/athrawes dosbarth eich plentyn neu â'r athrawon pwnc, neu â'r pennaeth. Fe all camddealltwriaeth godi felly mae'n bwysig eich bod yn cydweithredu gymaint ag y gallwch gydag ysgol eich plentyn.
Mae'n bosib hefyd y gwelwch fod sgwrsio â rhieni eraill drwy gyfrwng eich gwasanaeth partneriaeth â rhieni lleol yn help, neu gysylltu â mudiadau gwirfoddol lleol a chenedlaethol ac â grwpiau rhieni.
Mae gwasanaethau partneriaeth â rhieni'n cynnig cymorth a chyngor am AAA, gan ddarparu gwybodaeth gywir a diduedd am y dewisiadau sydd ar gael i chi. Mae'n bosib y byddan nhw'n cynnig hyfforddiant i chi i'ch tywys drwy drefniadau a phrosesau AAA neu'n eich rhoi mewn cysylltiad â mudiadau a grwpiau sy'n gallu bod o help.
Fe allwch gysylltu â'ch gwasanaeth partneriaeth â rhieni lleol drwy gyfrwng eich awdurdod lleol neu'r Rhwydwaith Partneriaeth â Rhieni Cenedlaethol.
Gall cynhalwyr annibynnol i rieni eich helpu drwy'r trefniadau sy'n codi wrth i chi ddelio ag anghenion addysgol arbennig eich plentyn. Maent yn gweithio dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth eich gwasanaeth partneriaeth â rhieni lleol, ac fel arfer, gwirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi yw'r rhain.
Er y bydd cynhalwyr annibynnol i rieni'n eich helpu chi i ddeall beth sy'n digwydd, wnân nhw ddim gwneud penderfyniadau am eich plentyn. Er y dylai eich gwasanaeth partneriaeth â rhieni lleol agor y drws i chi er mwyn i chi gael help gan gynhaliwr annibynnol, gallwch hefyd ddewis ffrind, rhiant neu rywun o fudiad gwirfoddol i'ch cefnogi.
Fe all cynhaliwr annibynnol i rieni eich helpu drwy wneud y canlynol:
Mae gan y Panel hwn arbenigwyr annibynnol a all roi cyngor am ddim i chi am anghenion addysgol arbennig eich plentyn.
Mae'r Panel yn gwneud y canlynol:
Elusen gofrestredig sy'n darparu cefnogaeth annibynnol i rieni yw Rhwydwaith 81.
Os ydych chi'n dal i anghytuno â'r ysgol neu'r awdurdod lleol ar ôl trafod anghenion eich plentyn gyda nhw, fe allwch gael help cychwynnol drwy'r Gwasanaeth Partneriaeth â Rhieni neu ddefnyddio'r trefniadau anffurfiol ar gyfer datrys anghydfod. Dylai'ch awdurdod lleol roi'r manylion i chi neu mae modd eu cael drwy'r Partneriaethau Rhanbarthol.
Yn ogystal â chymorth answyddogol ynglwn â datrys anghydfodau, efallai y gallech chi hefyd apelio at y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (SENDIST). Mae hwn yn gorff annibynnol sy'n gwrando ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol ynghylch asesiadau a datganiadau AAA.