Os oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig, bydd pawb sy'n ymwneud ag addysg y plentyn hwnnw'n dilyn cynllun cam-wrth-gam gyda'u haddysg, gan ddilyn y Cod Ymarfer ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig yn ganllaw.
Mae ysgolion a lleoliadau addysg gynnar yn rhoi pwys mawr ar adnabod anghenion addysgol arbennig er mwyn helpu'ch plentyn cyn gynted ag y bo modd. Gellir diwallu anghenion y rhan fwyaf o blant sydd ag anghenion addysg arbennig mewn ysgol brif ffrwd.
Unwaith i'r penderfyniad gael ei wneud bod gan eich plentyn AAA, bydd yr athrawon yn cynllunio addysg y plentyn yn unol â'r canllawiau a geir mewn dogfen a elwir yn God Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig.
Canllaw ar gyfer darpariaeth addysg gynnar megis meithrinfeydd a chylchoedd chwarae, ysgolion y wladwriaeth ac awdurdodau lleol yw'r Cod Ymarfer, ar sut y dylent fynd ati i adnabod plant sydd ag anghenion addysgol arbennig, eu hasesu a darparu help ar eu cyfer.
Gallwch ddarllen crynodeb o'r cod yn y daflen 'AAA: canllaw i rieni a gofalwyr'
Bydd plant yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd, ac fe all fod ganddyn nhw wahanol lefelau neu wahanol fathau o anghenion addysgol arbennig. Felly, os oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig, bydd yr ysgol yn dod â mwy a mwy o help arbenigol i mewn, gam wrth gam, i'w helpu gyda'r anawsterau a all godi. Mae'r cynllun wedi ei gosod allan cam-wrth-gam ('wedi'i raddoli') hwn yn y Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig.
Rhaid i ysgol roi gwybod i chi os bydd yn dechrau rhoi help ychwanegol neu help gwahanol i'ch plentyn ar gyfer anghenion addysgol arbennig. Gelwir help ychwanegol ar y lefel sylfaenol yn Weithredu gan yr Ysgol, ac fe all hyn fod:
Mae'n bosib y bydd angen help ar eich plentyn gan y cynllun cam-wrth-gam am gyfnod byr, neu am flynyddoedd lawer. Cofiwch y dylai'r ysgol ymgynghori â chi ar hyd pob cam o'r ffordd, ac fe ddylech gael gwybod am y cynnydd y mae'ch plentyn yn ei wneud.
Athro/athrawes eich plentyn sy'n gyfrifol am weithio gyda'ch plentyn o ddydd i ddydd, ond mae'n bosib y bydd yn penderfynu cofnodi'r camau gweithredu a gymerir i helpu'ch plentyn ar ffurf Cynllun Addysg Unigol.
Gallai'r Cynllun hwn gynnwys:
Weithiau, bydd yr ysgol yn dewis peidio ag ysgrifennu Cynllun fel hyn ond yn cofnodi sut mae hi'n diwallu anghenion eich plentyn mewn ffordd arall, fel rhan o'u cynlluniau gwersi o bosib. Ond dylent bob amser fod yn gallu dweud wrthych chi sut maen nhw'n helpu'ch plentyn a pha gynnydd mae'r plentyn yn ei wneud.
Os nad yw eich plentyn yn gwneud cynnydd digon da drwy gyfrwng cynllun Gweithredu gan yr Ysgol, fe ddylai'r athro/athrawes neu'r Cydlynydd AAA siarad â chi ynghylch gofyn am gyngor gan bobl eraill y tu allan i'r ysgol. Gallai'r rhain gynnwys athro/athrawes arbenigol, neu therapydd lleferydd neu iaith. Gelwir y math hwn o help ychwanegol yn Weithredu a Mwy gan yr Ysgol.
Os yw'r ysgol y mae'ch plentyn yn ei mynychu'n dal i fod yn methu rhoi'r holl help angenrheidiol i'ch plentyn, gallwch chi neu berson proffesiynol sydd wedi bod yn ymwneud â'ch plentyn ofyn am 'asesiad statudol' - ymchwiliad manwl i gael gwybod beth yw anghenion addysgol arbennig eich plentyn a pha help arbennig sydd ei angen.