Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Anghenion addysgol arbennig: asesiadau

Os na all ysgol yn y brif ffrwd ddarparu'r holl help sydd ei angen ar eich plentyn, caiff eich awdurdod lleol wneud asesiad i gael gwybod beth yw anghenion addysgol arbennig eich plentyn a sut y gellid rhoi cymorth iddynt.

Cael help ar gyfer anghenion addysgol arbennig eich plentyn

Mae'r gyfraith yn dweud bod rhaid i bob un o ysgolion y wladwriaeth wneud ei gorau glas i ddiwallu anghenion addysgol arbennig, weithiau gyda help arbenigwyr o'r tu allan.

I gael rhagor o wybodaeth am y math hwn o help sylfaenol, a elwir yn Weithredu gan yr Ysgol a Gweithredu a Mwy gan yr Ysgol, gweler 'Anghenion Addysgol Arbennig: cynllun cam-wrth-gam'.

Asesiadau : os oes angen help ychwanegol ar eich plentyn

Os yw'ch plentyn i bob golwg yn dal i fethu â gwneud digon o gynnydd dan y cynllun Gweithredu gan yr Ysgol neu Weithredu a Mwy gan yr Ysgol, neu fod angen llawer o help ychwanegol arno/arni, mae'n bosib y bydd eich awdurdod addysg lleol (AALl) yn penderfynu gwneud asesiad mwy manwl o anghenion eich plentyn, ar sail cyngor arbenigol.

Bydd yr asesiad hwn (a elwir hefyd yn 'asesiad statudol') yn archwiliad manwl i gael gwybod beth yn union yw anghenion eich plentyn, a pha help ychwanegol sydd ei angen arnyn nhw. Dim ond os na all ysgol neu ddarpariaeth addysgu eich plentyn ddarparu'r holl help sydd ei angen arno neu arni y gwneir hyn. Ychydig iawn o blant sydd ag angen cael asesiad.

Fe ellir cynnal asesiad yn dilyn cais gennych chi i'r AALl, neu gan ysgol eich plentyn. Os bydd ysgol eich plentyn am ofyn i'r AALl gynnal asesiad, dylent bob amser siarad â chi gyntaf. Os hoffech siarad â'r AALl, y peth gorau yw cael sgwrs gydag athro/athrawes neu gydlynydd anghenion addysgol arbennig eich plentyn gyntaf.

GwnGwneud cais am asesiad anghenion addysgol arbennig

Bydd y ddolen isod yn gadael i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am sut i wneud cais am asesiad anghenion addysgol arbennig ar gyfer eich plentyn.

Y broses asesu

Mae awdurdodau lleol yn edrych ar geisiadau ac yn dweud wrthych chi (o fewn chwe wythnos, fel arfer) a fyddan nhw'n cynnal asesiad ai peidio. Byddan nhw hefyd yn esbonio'r broses asesu.

Os byddan nhw'n penderfynu bwrw ymlaen â'r asesiad, bydd yr awdurdod lleol yn gofyn i bobl roi eu barn am eich plentyn. Byddan nhw'n gofyn am gyngor gan:

  • ysgol eich plentyn
  • seicolegydd addysg
  • meddyg
  • y gwasanaethau cymdeithasol (ond dim ond os ydyn nhw'n adnabod eich plentyn y bydd y rhain yn rhoi unrhyw gyngor)
  • unrhyw un arall y mae'r awdurdod lleol yn tybio y dylai gael cyngor ganddynt er mwyn cael darlun clir o anghenion eich plentyn.

Cewch fod yn bresennol mewn unrhyw gyfweliad, prawf meddygol neu brawf arall yn ystod yr asesiad. Chi sy'n adnabod eich plentyn orau, felly mae'ch barn chi'n bwysig. Mae barn eich plentyn hefyd yn chwarae rhan bwysig yn yr asesiad.

Mae gennych hawl i awgrymu unrhyw grwpiau eraill yr ydych chi'n gwybod amdanynt y gallai eu barn fod o help. Dylai'r awdurdod lleol ystyried eu barn fel rhan o'r asesiad. Efallai yr hoffech feddwl am ofyn y canlynol:

  • eich gwasanaeth partneriaeth â rhieni lleol
  • mudiadau gwirfoddol sy'n gweithio gyda phlant
  • grwpiau eraill sy'n cefnogi rhieni

Ar ôl yr asesiad

Unwaith y bydd swyddogion AAA wedi cwblhau eu hasesiad, byddan nhw'n penderfynu a oes angen cofnodi'r holl wybodaeth y maen nhw wedi'i chasglu mewn datganiad anghenion addysgol arbennig (a elwir fel arfer yn 'ddatganiad'). Fel arfer, bydd eich awdurdod lleol yn dweud wrthych os yw'n bwriadu llunio datganiad o fewn 12 wythnos ar ôl dechrau'r asesiad.

Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â llunio datganiad, bydd yn esbonio'r rhesymau dros hynny ac yn dweud wrthych sut orau mae'n meddwl y dylid diwallu anghenion eich plentyn yn yr ysgol neu mewn ffyrdd eraill.

Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chynnal asesiad

Os bydd eich awdurdod lleol yn penderfynu peidio ag asesu'ch plentyn, rhaid iddo ysgrifennu atoch chi a'r ysgol i esbonio'r rhesymau. Os byddwch chi neu ysgol eich plentyn yn dal i deimlo bod angen gwneud mwy, siaradwch â'r ysgol. Gallai'r awdurdod lleol feddwl am ffyrdd eraill o helpu'ch plentyn, gan gynnwys cael help allanol.

Dylai'r awdurdod lleol ddweud wrthych am drefniadau lleol ar gyfer datrys unrhyw anghydfod yn anffurfiol. Bydd gennych chi hefyd yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd sy'n gorff annibynnol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU