Nod yr ymgyrch Mae Pob Gwers yn Cyfri yw codi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd mynychu'r ysgol yn rheolaidd, gan helpu ysgolion, rhieni a phlant i roi arferion syml ar waith er mwyn diddymu absenoldeb.
Pan fydd eich plentyn yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd, byddant yn cymryd cam hollbwysig tuag at ddiwallu eu llawn botensial, a byddant yn cael y cyfle gorau i ddysgu pethau newydd a datblygu eu sgiliau.
Y mwyaf o amser y byddant yn ei dreulio o amgylch plant eraill, boed hynny yn yr ystafell ddosbarth neu fel rhan o dîm neu glwb yn yr ysgol, y mwyaf o siawns sydd ganddynt o wneud llawer o ffrindiau a theimlo'n rhan o rywbeth - bydd hyn yn rhoi hwb i'w sgiliau cymdeithasol, i'w hyder ac i'w hunan-barch.
Os yw plentyn yn absennol am ddim ond un diwrnod bob wythnos, byddant yn colli dwy flynedd o addysg yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.
Gall helpu eich plentyn i feithrin arferion da o oedran cynnar helpu i gadw'r rhinweddau hyn nes y byddant yn tyfu'n oedolion ac yn mentro i fyd gwaith.
Yn ôl Dr Raj Persaud, sy'n Seiciatrydd Ymgynghorol ac yn cefnogi Mae Pob Gwers yn Cyfri, “Nid yw gwneud newidiadau dramatig yn sicr o arwain at lwyddiant, y camau bach sy'n gwneud y mwyaf o wahaniaeth.”
Gall y camau bach hyn olygu siarad â phlant ynghylch pam nad ydynt eisiau mynd i'r ysgol, neu helpu eich plentyn i fod yn fwy trefnus fel nad yw'r boreau'n gymaint o straen.”
Gall y teulu cyfan gymryd rhan. “Gall plant hynaf y teulu helpu'r plant ieuengaf i fynd i'r ysgol, yn ogystal â gosod esiampl dda o ran mynychu'r ysgol yn rheolaidd,” meddai Dr Raj.
“Gall aelodau eraill o'r teulu, gan gynnwys aelodau o'r teulu estynedig fel perthnasau a ffrindiau chwarae rôl hanfodol hefyd.”
Yn y cartref, trefn reolaidd yw'r allwedd i wneud newidiadau syml er mwyn llwyddo, medd Dr Raj. Dyma ei gynllun chwe phwynt - gallwch roi cynnig arno gyda'r teulu:
Gall absenoldeb o'r ysgol, a allai fod yn digwydd yn anaml ar y dechrau, gynyddu'n gyflym. Ceisiwch fod yn llym hyd yn oed os na fydd eich plentyn yn absennol yn aml, a dangoswch i'ch plentyn fod mynychu'r ysgol yn flaenoriaeth ac yn allweddol os ydynt am lwyddo yn y dyfodol.
Os yw'ch plentyn yn cael problemau
Os yw'ch plentyn yn cael problemau â phresenoldeb, y lle gorau i ddechrau yw siarad â'u hysgol.
Peidiwch ag ofni dod i adnabod athro neu athrawes a phennaeth eich plentyn - siarad am broblemau yw'r cam cyntaf tuag at eu datrys.
Am fwy o wybodaeth, gweler 'Presenoldeb yn yr ysgol, triwantiaeth a'ch plentyn'
Yn yr ymgyrch Mae Pob Gwers yn Cyfri, mae'r Adran Addysg a Sgiliau yn gweithio'n agos â Chynghorwyr Presenoldeb Rhanbarthol a Swyddogion Lles Addysg awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar y materion lleol a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar ostwng lefelau absenoldeb.
Mwy o adnoddau i rieni gan Mae Pob Gwers yn Cyfri