Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Amddiffyn eich plentyn rhag cael ei gam-drin : rôl eich ysgol

Mae gan bawb yn y gwasanaeth addysg ran i'w chwarae i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel. Mae creu amgylchedd dysgu diogel, gweld pa ddisgyblion sy'n dioddef neu'n debygol o ddioddef niwed ac yna gweithredu'n briodol yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod plant yn ddiogel gartref ac yn yr ysgol.

Swyddogaeth yr ysgol o ran amddiffyn eich plentyn rhag cael ei gam-drin

Dylai fod gan ysgol eich plentyn drefniadau i helpu i'w hamddiffyn, gan gynnwys:

  • staff sydd wedi cael eu hyfforddi i fod yn effro i arwyddion o gam-drin
  • uwch aelod o staff â chyfrifoldeb dros amddiffyn plant
  • trefniadau ar gyfer archwilio cefndir staff cyn gadael iddyn nhw weithio gyda phlant
  • polisi amddiffyn plant sy'n cynnwys camau i'w dilyn os bydd athro/athrawes neu aelod arall o'r staff yn cael eu cyhuddo o niweidio plentyn

Gallwch ddysgu mwy am drefn amddiffyn plant mewn ysgolion drwy glicio ar y ddolen isod - 'Canllawiau i ysgolion ar amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin'.

Yn ogystal â gweithredu trefn amddiffyn plant, gall ysgolion helpu plant i'w hamddiffyn eu hunain. Gall gwersi Addysg Iechyd, Bersonol a Chymdeithasol (AIBCh) edrych ar faterion megis:

  • ymddygiad sy'n creu risg
  • cyswllt corfforol priodol ac amhriodol
  • delio â phwysau gan gyfoedion

Archwilio cefndir staff sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc

Mae'n rhaid i ysgol eich plentyn gynnal archwiliadau penodol ar gefndir a chofnodion troseddol yr holl staff sy'n ymwneud â phlant.

Mesurau newydd er mwyn archwilio cefndir staff ysgolion yn fwy llym

Mae Deddf Diogelu Grwpiau Agored i Niwed 2006 wedi cyflwyno cynllun newydd o ran archwilio cefndir a gwahardd er mwyn atgyfnerthu'r camau a gymerir wrth archwilio cefndir staff sy'n gweithio â phlant (neu ag oedolion agored i niwed).

Disgwylir y bydd y cynllun newydd yn cael ei gyflwyno'n raddol o dymor yr hydref 2008 ymlaen. Cewch fwy o fanylion, a rhywfaint o wybodaeth gefndir ynghylch y cynllun, drwy ddilyn y ddolen isod.

Delio ag amheuon o gam-drin

Os ydych chi'n amau bod plentyn yn cael ei gam-drin, dylech roi gwybod i'r heddlu neu'ch gwasanaethau cymdeithasol lleol. Os ydych chi'n gweithio mewn ysgol, dylech ddweud wrth yr aelod o staff sy'n gyfrifol am amddiffyn plant. Byddant yn cymryd y camau priodol yn seiliedig ar y drefn a osodir gan yr awdurdod lleol a'r bwrdd diogelu plant lleol - gan roi gwybod i'r awdurdodau pan fo hynny'n ofynnol.

Unwaith yr hysbysir yr awdurdodau, byddant yn penderfynu beth yw'r dull gorau o fwrw 'mlaen â'r mater. Ar ôl hynny, bydd swyddogaeth yr ysgol yn gyfyngedig. Ni fydd staff yr ysgol yn cymryd rhan mewn ymchwiliad, er y gellid galw arnynt i roi gwybodaeth. Mae'n bosib y gofynnir iddyn nhw hefyd ddarparu cefnogaeth ychwanegol ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc.

Rhwystro perthynas amhriodol yn yr ysgol

Mae cael perthynas rywiol gyda rhai sydd o dan 16 oed yn erbyn y gyfraith, ond mae hi hefyd yn drosedd i oedolyn gael perthynas rywiol gyda rhywun sydd o dan 18 oed os yw'r oedolyn mewn 'sefyllfa o ymddiriedaeth' o ran eu perthynas â'r person ifanc.

Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, perthynas rhwng aelodau o staff a myfyrwyr ysgol neu goleg. Mae hyn yn berthnasol cyn belled â bod y person ifanc o dan 18 oed, hyd yn oed os ydynt yn hŷn na'r oed cydsynio cyfreithiol - er bod yna ambell i amddiffyniad a all fod yn berthnasol mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU