Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cadw plant yn ddiogel ar-lein

Nid peryglon newydd yw cam-drin a phornograffi plant, ond mae'r rhyngrwyd yn cyflwyno ffordd haws i gamdrinwyr allu ecsbloetio plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, mae'r rhyngrwyd yn gallu bod yn gwbl ddiogel os byddwch yn cymryd rhagofalon penodol.

Meithrin perthynas amhriodol

Meithrin perthynas amhriodol yw'r enw a roddir ar ymdrechion rhywun sy'n cam-drin plant i ddechrau perthynas ar-lein gyda phlentyn. Mae rhwystro mynediad i ystafelloedd sgwrsio, blogiau a fforymau sydd heb oruchwyliaeth yn ffordd dda o helpu i stopio hyn.

Weithiau, fodd bynnag, mae pobl sy'n meithrin perthynas amhriodol yn esgus mai plant ydyn nhw mewn ystafelloedd sgwrsio sydd dan oruchwyliaeth - ac yna'n parhau â'r berthynas mewn sgyrsiau personol (gelwir hyn yn sibrwd). Ar ôl ennyn ymddiriedaeth y plentyn, mae'n bosib y bydd y camdriniwr yn ceisio trefnu i'w gyfarfod, neu geisio'i ecsbloetio drwy anfon delweddau pornograffig ato (neu drwy ddefnyddio gwe-gamera). Efallai y bydd hyd yn oed yn defnyddio blacmel er mwyn perswadio'r plentyn i wneud rhywbeth yn groes i'w ddymuniad. Mae'n hanfodol bod plant yn gwybod nad yw pawb ar y rhyngrwyd yn dweud y gwir am bwy ydyn nhw.

Yr hyn y gallwch chi ei wneud

Dylech wneud yn siwr bod eich plant yn gwybod na ddylent fyth rannu eu manylion personol gyda phobl maent yn cwrdd â nhw ar-lein, na gadael iddynt gysylltu â nhw dros y ffôn na drwy negesydd gwib. Dylech hefyd wneud y pethau canlynol:

  • cyfyngu'r defnydd o'r rhyngrwyd i ystafelloedd sgwrsio dan oruchwyliaeth sydd wedi'u cynllunio'n bwrpasol ar gyfer plant.
  • ceisiwch beidio â bod yn rhy llym gyda'ch plant os byddant yn rhannu eu cyfeiriad e-bost gyda pherson dieithr, neu efallai bydd gormod o ofn arnynt i siarad â chi am faterion tebyg yn y dyfodol
  • dysgwch iaith yr ystafelloedd sgwrsio er mwyn i chi ddeall yr hyn mae'ch plentyn yn sgwrsio amdano (ceir tueddiad ymysg plant i ddefnyddio byrfoddau wrth sgwrsio ar-lein)
  • ymunwch ag ystafell sgwrsio, fforwm, blog neu Negesydd Gwib er mwyn gweld sut maent yn gweithio ac er mwyn dysgu'r gwahanol ffyrdd y gall plant sgwrsio
  • gosodwch y cyfrifiadur mewn ystafell i'r teulu er mwyn gallu monitro gweithgarwch ar-lein eich plentyn
  • dangoswch gymaint o ddiddordeb yn y ffrindiau sydd gan eich plant ar-lein ag y dangoswch yn eu ffrindiau go iawn
  • ewch gyda'ch plentyn os byddant wedi trefnu i gyfarfod ffrind ar-lein yn y cnawd
  • chwiliwch am wefannau addas i chi a'ch plant allu syrffio'r we gyda'ch gilydd
  • defnyddiwch chwilotwr sy'n garedig at blant ond byddwch yn ymwybodol nad yw pob un ohonynt yn ddiogel 100 y cant - cafwyd achosion lle'r oedd rhai ohonynt yn hysbysebu gwefannau pornograffig
  • edrychwch ar ffolder hanes eich porwr gwe am ei fod yn cynnwys rhestr o wefannau yr ymwelwyd â hwy - os dewch o hyd i wefan anaddas yn yr hanes, dilëwch hi

Beth i'w wneud os ydych chi'n amau bod yna broblem

Waeth pa gamau diogelwch y byddwch yn eu cymryd, mae unrhyw blentyn sy'n defnyddio'r rhyngrwyd mewn perygl o ddod i gysylltiad â phobl a all geisio cymryd mantais ohonynt. Os ydych chi'n meddwl bod hyn yn digwydd, dyma beth y dylech ei wneud:

  • dywedwch wrth eich plentyn y gallant ddweud wrthych os bydd unrhyw sgwrs ar-lein yn gwneud iddynt deimlo'n anghyfforddus, yn bryderus neu'n ofnus - dywedwch wrthynt na fydd bai arnyn nhw
  • ceisiwch beidio â bod yn rhy llym gyda'ch plant os byddant yn rhannu eu cyfeiriad e-bost gyda pherson dieithr, neu efallai bydd gormod o ofn arnynt i siarad â chi am faterion tebyg yn y dyfodol
  • os ydych chi'n amau bod camdriniwr yn ceisio meithrin perthynas amhriodol gyda'ch plentyn, neu bod rhywun yn ei stelcio neu'n ei boeni, dylech gysylltu â'r heddlu neu'r Ganolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein leol.

Rhwystro gwefannau anaddas

Gallwch brynu meddalwedd amddiffyn cyfrifiadur sy'n rhwystro mynediad at wefannau pornograffig. Mae'r rhain yn gallu bod yn effeithiol, ond nid ydynt yn berffaith.

Gallwch reoli'r gosodiadau gyda chyfrinair na ddylid ei rannu gyda'ch plant. Diweddarwch y feddalwedd yn rheolaidd er mwyn hidlo'r gwefannau diweddaraf sydd wedi ymddangos, ond cofiwch addasu'r gosodiadau fel eu bod ar lefel sy'n briodol ar gyfer eich plentyn.

Amddiffyn e-bost eich plentyn

Cofiwch mai negeseuon e-bost a anfonir ar hap yw sbam - nid yw'ch plentyn wedi gwneud dim o'i le os yw'n derbyn sbam pornograffig. Dyma sut y gallwch wneud e-bost yn fwy diogel:

  • defnyddio darparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) sy'n hidlo
  • prynu meddalwedd hidlo sbam
  • gwneud yn siwr nad yw'ch plentyn yn defnyddio'i gyfeiriad e-bost personol i gofrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein oherwydd dyna sut mae sbamwyr yn cael gafael ar gyfeiriadau e-bost
  • sefydlu cyfeiriad e-bost ar wahân ar gyfer y teulu a'i ddefnyddio i gofrestru ar gyfer gwasanaethau neu gystadlaethau - y cyfeiriad hwn fydd wedyn yn cael mwyafrif eich sbam

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU