Diogelwch ar y ffordd i bobl ifanc yn eu harddegau
Nid yw pobl ifanc yn eu harddegau yn sylweddoli cymaint o berygl sydd ar y ffyrdd. Nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn sylweddoli eu bod yn fwy tebygol o gael eu lladd neu'u hanafu mewn damwain ffordd nag unrhyw grŵp oedran arall.
Amddiffyn eich plentyn
Gallech siarad â'ch plentyn ac atgyfnerthu negeseuon diogelwch ar y ffyrdd er mwyn helpu i'w diogelu:
- pwysleisiwch yr angen i ganolbwyntio a bod yn ofalus drwy'r amser
- rhybuddiwch am beryglon pan fydd rhywbeth yn mynd â sylw rhywun; mae gwrando ar stereos personol, defnyddio ffôn neu anfon negeseuon testun wrth gerdded yn bethau drwg am dynnu sylw
- daliwch ati i siarad am beryglon traffig
- tynnwch sylw at bobl sy'n rhoi eu bywydau eu hunain mewn perygl
- anogwch y person ifanc i ymarfer barnu cyflymder a phellter cerbydau sy'n dynesu ar lonydd prysur ac adnabod bylchau diogel yn y traffig
- pwysleisiwch wrth eich plentyn y dylai ganolbwyntio trwy'r amser a pheidio â dilyn eraill heb feddwl i sefyllfaoedd peryglus
Tawelwch meddwl
Fel eich bod chi'n cael tawelwch meddwl, dilynwch arferion y gallwch chi'ch dau gadw atynt. Gallech geisio trafod y pwyntiau canlynol a chanfod ateb i bob un ohonynt:
- beth fydden nhw'n ei wneud pe byddent yn colli'r bws olaf gartref?
- oes ganddyn nhw ffôn symudol (gyda digon o fatri), cerdyn ffôn, arian neu a fydden nhw'n gwybod sut i wrth-droi'r taliad pe byddent eich angen chi?
- beth ddylai person ifanc ei wneud os oes raid iddynt aros ar ôl ysgol?