Drwy gymryd yr amser i sicrhau eich bod yn defnyddio'r sedd car neu'r sedd hybu briodol, a gwneud yn siŵr eich bod yn ei defnyddio'n gywir, byddwch yn helpu i ddiogelu'ch plentyn. Gallech achub ei fywyd hyd yn oed.
Daeth deddfau newydd yn ymwneud â defnyddio seddi ar gyfer babanod, seddi car, seddi hybu neu glustogau hybu (addas ar gyfer pwysau'ch plentyn) yn y dull priodol - mewn ceir, mewn faniau neu mewn cerbydau cario nwyddau - i rym ar 18 Medi 2006.
Os mai chi yw'r gyrrwr, chi'n sy'n gyfrifol am sicrhau bod unrhyw un dan 14 oed yn gorfod gwisgo gwregys diogelwch ac (os yw hynny'n briodol) yn defnyddio'r sedd babi/plentyn neu'r sedd/clustog hybu cywir.
Defnyddiwch y ddolen isod i'ch helpu i ddeall y gyfraith a sicrhau eich bod yn defnyddio'r sedd car neu'r glustog hybu priodol ar gyfer eich plentyn chi.
Mae'r rheoliadau ar gyfer defnyddio gwregysau diogelwch mewn bysiau, bysiau mini a bysiau moethus hefyd wedi cael eu diwygio.
Pan fyddwch chi'n prynu sedd car neu glustog hybu ar gyfer plentyn, os yw'n bosib, rhowch gynnig ar ei rhoi yn y car cyn eu prynu. Siaradwch ag ymgynghorydd gwerthu yn y siop - gall roi cyngor i chi, a dangos i chi sut mae rhoi'r sedd yn ei lle yn gywir.
Cofiwch:
Mae canllaw ar sut i osod sedd car plentyn yn gywir ar gael mewn nifer o ieithoedd, mewn print bras, mewn Braille ac ar gasét. Ffoniwch 0870 1226 236 neu anfonwch e-bost at: dft@twoten.press.net, gan nodi'r cyfeirnod T/INF/803.