Plant sy'n teithio ar eu pennau eu hunain
Ydy eich plentyn yn barod i fynd ar siwrnai hir ar ei ben ei hun? Tra bo rhai trefniadau ychwanegol y gallech chi neu'ch plentyn eu hystyried er mwyn sicrhau eu diogelwch, gweler isod rai o'r prif faterion a fydd angen sylw.
Llongau a threnau
Holwch gwmnïau fferi annibynnol am eu polisïau yn ymwneud â phlant yn teithio ar eu pennau eu hunain. Er mwyn cael gwybodaeth ynglŷn â phlant yn teithio ar eu pennau eu hunain ar Eurostar ymwelwch â'u gwefan a chliciwch ar y ddolen amodau cludiant ar waelod y sgrin.
Awyrennau
Cyn archebu sedd ar awyren, dylech holi'r cwmni hedfan beth yw eu polisi am blant yn teithio ar eu pennau eu hunain.
Ystyriaethau ar gyfer plant ifanc:
- ysgrifennwch eich rhif ffôn, eich cyfeiriad a manylion cyswllt y person y bydd eich plentyn yn ei gyfarfod
- rhowch deganau a gemau yn y bag a fydd ganddynt ar yr awyren fel y gallant chwarae â nhw
Ar gyfer pob plentyn:
- dim ond am 5 mlynedd y bydd pasportau i blant dan 16 yn ddilys, felly sicrhewch fod eu pasport yn ddilys cyn iddynt deithio a'ch bod wedi derbyn unrhyw deithebau (visas) angenrheidiol ar gyfer y daith (holwch lysgenhadaeth y wlad y maent yn teithio iddi neu drwyddi)
- sicrhewch fod ganddynt lungopi (neu ddau) o'u pasport sy'n cael ei gadw ar wahân i'w pasport iawn. Gallech chithau hefyd gadw copi fel y byddai modd ei ffacsio i unrhyw le o amgylch y byd pe bai rhaid
- rhowch gopi o'r trefniadau teithio i'ch plentyn (yn cynnwys manylion dychwelyd ar yr awyren)
- sicrhewch fod eich manylion cyswllt wedi eu hysgrifennu ar basport eich plentyn
- sicrhewch fod ganddynt enw, cyfeiriad a rhif ffôn y person maent i fod i'w gyfarfod yn y maes awyr. Cynghorwch nhw i beidio â mynd gyda neb arall
- sicrhewch fod gan eich plentyn gyfeiriad y Llysgenhadaeth neu Is-Genhadaeth Brydeinig agosaf rhag ofn y bydd arnynt angen cysylltu â rhywun ar frys
- rhowch rywfaint o arian i'ch plentyn fel y gall eich ffonio cyn gadael y maes awyr pe byddai angen. Sicrhewch eu bod yn gwybod beth yw cod y wlad
Sicrhewch fod y person sy'n gofalu am gasglu eich plentyn yn gwybod manylion yr amser hedfan.
Pwysig
Mae'n werth ymweld â gwefan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad er mwyn cael mwy o wybodaeth am bethau y dylid eu hystyried cyn teithio (nid yw pob gwlad yn cyhoeddi'r wybodaeth hon ar y wefan).