Diogelwch ar gefn beic
Mae mwy o siawns i bobl ifanc rhwng 11 a 15 oed gael eu lladd neu ddioddef anafiadau difrifol wrth gerdded neu feicio nag unrhyw grŵp oedran arall. Ceisiwch annog eich plentyn i fwynhau beicio'n ddiogel drwy ddilyn yr awgrymiadau hyn.
Dal i siarad
Fel rhiant, y peth gorau y gallwch chi ei wneud i helpu eich plentyn i ddysgu am ddiogelwch ar y ffyrdd yw dal ati i siarad ag ef am y peth. Gallwch wneud y canlynol:
- tynnu sylw at bobl sy'n rhoi eu bywydau eu hunain mewn perygl
- pwysleisio'r angen i ganolbwyntio a chymryd gofal drwy'r amser
- rhybuddio am ddamweiniau a phethau a allai dynnu eu sylw
- ceisio ymarfer barnu cyflymder a phellter gyda'ch plentyn
- pwysleisio na ddylai eich plentyn ddilyn eraill heb feddwl - ar y ffordd nac mewn unrhyw sefyllfa arall
Y beic
Sicrhewch fod beic eich plentyn o'r maint cywir ac wedi ei gynnal a'i gadw'n dda:
- mae'n drosedd reidio beic yn y nos heb olau gwyn ar y tu blaen a golau ac adlewyrchydd coch ar y cefn
- os oes gan eich plentyn ddynamo ar ei feic, dylech ei atgoffa y bydd y golau yn diffodd pan fydd yn stopio
- nodwch eich cod post ar ffrâm y beic
- atgoffwch eich plentyn i ddefnyddio clo beic bob amser
Dillad
Gall eich plentyn ddefnyddio eitemau o ddillad a chyfarpar er mwyn ei helpu i fod yn ddiogel:
- gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwisgo dillad adlewyrchol - gallai hyn fod o fudd yng ngolau dydd hyd yn oed os yw'r tywydd yn ei gwneud yn anodd gweld
- anogwch eich plentyn i ddefnyddio helmed sy'n ffitio'n iawn
Pobl ifanc yn eu harddegau yw'r grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o beidio â gwisgo helmed. Ar gyfartaledd, mae hanner yr anafiadau y mae beicwyr yn eu cael yn anafiadau i'r wyneb a'r pen.
Allan ar grwydr
Pan fydd eich plentyn yn barod i ddechrau mynd ar feic byddai'n ddefnyddiol:
- holi a oes cwrs beicio ar gael yn ysgol eich plentyn neu drwy swyddog diogelwch ar y ffyrdd eich cyngor lleol
- eu hannog i ddefnyddio llwybrau a lonydd beicio neilltuol os ydynt ar gael
- eu cynghori i beidio â defnyddio ffonau symudol na stereos personol pan fyddant ar y beic – gall hynny dynnu eu sylw ac achosi damweiniau
- sôn wrthynt am raciau cadw beiciau, ac annog eich plentyn i'w defnyddio
Mynd i'r ysgol yn ddiogel
Gall eich cyngor lleol eich helpu i ddod o hyd i'r llwybrau mwyaf diogel i'ch plentyn gerdded neu feicio i'r ysgol. Cliciwch ar y ddolen isod i ddod o hyd i'ch cyngor lleol a chael cyngor ar ffyrdd diogel ac amgylcheddol gyfeillgar o deithio i'r ysgol.