Diogelwch ar y ffordd i blant dan chwech
Dilynwch yr awgrymiadau syml hyn er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn cadw'n ddiogel ac yn datblygu ymwybyddiaeth am ffyrdd a thraffig.
Croesi'r ffordd
- bydd angen cymorth oedolyn ar blant sy'n cychwyn mynychu'r ysgol gynradd gan na fyddant yn barod i groesi ffyrdd ar eu pen eu hunain nes eu bod oddeutu wyth oed
- gosodwch esiampl dda bob amser trwy ddewis llefydd diogel i groesi ac egluro'r hyn fyddwch yn ei wneud
- gadewch i'ch plentyn eich helpu i benderfynu lle a phryd mae'n ddiogel croesi
- dywedwch wrth eich plentyn mai'r llefydd mwyaf diogel i groesi yw ar groesfan i gerddwyr neu gyda rheolwr croesfan
- dywedwch wrth eich plentyn am beidio â chroesi lle nad ydynt yn medru gweld yn bell ar hyd y ffordd
- eglurwch na ddylen nhw geisio croesi ffordd rhwng ceir sydd wedi parcio: ni fydd gyrrwyr yn gallu eu gweld yn dda iawn ac y gallai'r ceir gychwyn symud
- defnyddiwch Reolau'r Groes Werdd gyda'ch plentyn; eglurwch fod rhaid stopio wrth ymyl y palmant, yna edrych bob ffordd a gwrando am draffig cyn croesi
- pan fydd hi'n ddiogel croesi, cerddwch yn syth ar draws y ffordd gan ddal ati i edrych a gwrando am draffig
- atgoffwch eich plant i ganolbwyntio - gallai pethau dynnu eu sylw, a hawdd iawn fyddai iddynt anghofio'r hyn a ddysgasant a rhedeg allan i'r ffordd
- sicrhewch fod unrhyw un arall sy'n gwarchod eich plentyn yn dilyn yr un rheolau diogelwch ar y ffordd a chi
Dysgu am ddiogelwch ar y ffordd: dyma ganllaw lliwgar i'ch helpu i ddysgu am ddiogelwch ar y ffordd, yn cynnwys gemau y gallwch eu chwarae gyda'ch plentyn. Ffoniwch 0870 1226 236 neu anfonwch ebost: dft@twoten.press.net gan ddyfynnu'r cyfeirnod T/INF/803 i archebu eich copi rhad ac am ddim.