Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Diogelwch ar y ffordd i blant rhwng 7 ac 11 oed

Bydd yr awgrymiadau hyn yn helpu i gadw’ch plentyn yn ddiogel pan maent allan ac i ddatblygu synwyr dda ar y ffordd.

Yn saith mlwydd oed efallai bydd eich plentyn yn dal i afael yn eich llaw wrth i chi gerdded gydag ef tua'r ysgol - tair blynedd yn ddiweddarach gallai'ch plentyn fod yn mynd i'r ysgol heboch chi. Mae'r canllaw hwn yn awgrymu ffyrdd y gall eich plentyn fod yn annibynnol ac yn ddiogel ar yr un pryd, ond cofiwch, bydd ambell blentyn angen cwmni pan fydd yn mynd allan ar y ffordd nes ei fod o gwmpas wyth oed.

Pan fyddwch yn cerdded ar hyd y ffordd

Mae cerdded yn iachach na mynd yn y car. Ond ni fydd eich plentyn yn gallu gweld yr hyn y byddwch chi'n ei weld bob amser, ac ni fydd gyrrwyr bob amser yn gallu gweld eich plentyn, hyd yn oed os fyddant yn gallu'ch gweld chi. Dylech ddysgu'ch plentyn i wneud y canlynol:

  • cerdded ar y palmant, neu ar lwybr os oes un, bob amser - peidio byth â chrwydro tua'r ffordd
  • cerdded mor bell oddi wrth ochr y palmant â phosib
  • ble nad oes palmant, dylid cerdded un ar ôl y llall mewn rhes ar ochr dde'r ffordd, gan wynebu'r traffig

Pan fyddwch yn mynd am dro

  • eglurwch reolau diogelwch ar y ffyrdd
  • defnyddiwch Reolau'r Groes Werdd
  • siaradwch am yr hyn sy'n mynd ymlaen yn y stryd
  • anogwch eich plentyn i siarad am yr hyn y maent yn ei weld ar y ffyrdd ac ydy'r pethau hyn yn ddiogel ai peidio
  • gadewch i'ch plentyn wneud penderfyniadau gyda chi, fel eu bod yn dysgu trwy weithgaredd
  • helpwch eich plentyn i gynllunio'r daith fwyaf diogel i'r siopau/tŷ nain ayb

Defnyddio croesfannau

Dysgwch eich plentyn i:

  • ddefnyddio Rheolau'r Groes Werdd bob amser
  • aros ar ymyl y palmant ger y groesfan er mwyn i yrwyr wybod eich bod eisiau croesi
  • wrth groesfan sy'n rhoi arwydd i groesi, pwyswch y botwm ac aros nes bydd y dyn gwyrdd yn goleuo, peidiwch byth â cherdded allan i'r ffordd pan fydd y dyn coch yn cael ei arddangos, hyd yn oed os bydd y ceir wedi stopio a phobl eraill yn croesi
  • gerdded ar y streipiau du a gwyn sydd ar groesfan - mae llawer o ddamweiniau yn digwydd o gwmpas croesfannau
  • lle mae ynys yng nghanol y ffordd, eglurwch wrth eich plentyn y dylai edrych ar ddau hanner y groesfan fel petaent yn groesfannau unigol
  • byddwch yn effro drwy'r amser: cofiwch fod beicwyr a beicwyr modur yn defnyddio'r ffyrdd yn ogystal â gyrrwyr
  • lle mae ynys yng nghanol y ffordd, eglurwch wrth eich plentyn y dylai edrych ar ddau hanner y groesfan fel petaent yn groesfannau unigol

Cyrraedd yr ysgol yn ddiogel

Mae eich cyngor lleol yn gallu eich helpu i ddod o hyd i’r teithiau mwyaf diogel i’ch plentyn gerdded neu seiclo i’r ysgol.  Cliciwch ar y ddolen isod i ddod o hyd i’ch cyngor lleol a chael cyngor ar deithio diogel ac eco-gyfeillgar yn eich ardal.

Additional links

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Defnyddio cyfrifiannell LLEIHAU'CH CO2 a chael gwybod sut y gallwch helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU