Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Amddiffyn eich plentyn rhag troseddau gyda chyllyll

Gallwch chwarae rhan bwysig yn y broses o atal troseddu gyda chyllyll rhag dod yn rhan o fywyd eich plentyn. Gall gwybod yr hyn sy'n gyfreithlon a siarad gyda'ch plentyn am y peryglon eu helpu i'w cadw'n ddiogel.

Gwybod am y gyfraith

Cyn siarad â'ch plentyn am gyllyll, bydd angen i chi wybod y ffeithiau:

  • mae'n anghyfreithlon cario cyllell os ydynt yn bwriadu ei defnyddio fel arf - hyd yn oed mewn hunan amddiffyniad
  • gall yr heddlu chwilio unrhyw un y maent yn amau eu bod yn cario cyllell
  • gallai cario cyllell olygu cael eich arestio, mynd i'r llys a chael cofnod troseddol, neu hyd yn oed ddedfryd carchar

Cyllyll yn yr ysgol

Mae'n drosedd bod â chyllell neu arf arall ar dir yr ysgol.

Mae ysgolion yn gallu 'sgrinio' pob disgybl am gyllyll ar unrhyw adeg, heb ganiatâd, hyd yn oed os nad oes rheswm amlwg dros eu hamau (ystyr sgrinio yw defnyddio 'gwialen' electronig neu fwa sgrinio i ddod o hyd i wrthrychau metel). Gallant hefyd chwilio unrhyw ddisgybl am gyllell heb ganiatâd os oes ganddynt seiliau rhesymol dros eu hamau, neu ffonio'r heddlu i gynnal chwiliad.

Os bydd disgybl yn gwrthod cael ei chwilio neu'i sgrinio, gall yr ysgol wrthod cael y disgybl ar y safle. Os bydd hyn yn digwydd, fe'i ystyrir yn 'absenoldeb heb awdurdod'. Gall hyn effeithio arnoch chi, gan fod gan bob rhiant gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod eu plentyn yn mynd i'r ysgol.

Os canfyddir bod gan ddisgybl gyllell neu arf arall, gelwir yr heddlu ac mae'n debygol y caiff y disgybl ei arestio.

Eich cyfrifoldebau chi

Mae pob rhiant yn gyfrifol am ymddygiad eu plant. Os caiff plentyn ei ddiarddel o'r ysgol am ymddygiad drwg cyson, neu ymddygiad troseddol fel cario cyllell, yna gall y llysoedd roi Gorchymyn Magu Plant i'r rheini. Mae hwn wedi'i gynllunio i wella ymddygiad y plentyn a gorfodi'r rhieni i gymryd cyfrifoldeb dros ymddygiad eu plentyn.

Siarad â'ch plant am gyllyll

Y ffordd orau o atal eich plentyn rhag dod i gysylltiad â chyllyll yw siarad â hwy am y peryglon. Efallai na fydd hyn yn hawdd, gan na fyddant am siarad am y peth o bosibl, ond dylech barhau i roi cynnig arni gan mai dyma'r cam cyntaf i gadw eich plentyn yn ddiogel.

Cadw golwg

Weithiau efallai y bydd rhesymau amlwg dros wneud i chi gredu bod eich plentyn yn cario cyllell - os bydd cyllell yn diflannu o'r gegin er enghraifft. Fodd bynnag ceir arwyddion eraill llai amlwg y gallwch chi a rhieni ffrindiau eich plentyn gadw llygaid arnynt - gallwch wybod sut drwy glicio ar y dolenni isod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU