Amddiffyn eich plant rhag troseddau
Gallwch helpu i amddiffyn eich plant ifanc a phlant sydd yn eu harddegau rhag troseddau drwy ddilyn y rhagofalon synnwyr cyffredin hyn.
Amddiffyn plant ifanc
Mae ystadegau'n dangos fod troseddau yn erbyn plant ifanc yn brin. Serch hynny, gall y saith awgrym canlynol helpu i amddiffyn eich plentyn:
- dywedwch wrth eich plentyn am osgoi siarad â phobl ddieithr pan na fyddwch chi o gwmpas
- gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod na ddylai gerdded i ffwrdd ag unrhyw un heb ddweud wrth y person sy'n gyfrifol yn gyntaf
- gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn deall y dylai bob amser ddweud wrthych os bydd dieithryn yn mynd ato, ac i beidio byth â chadw hyn yn gyfrinach
- os yw eich plentyn yn mynd ar goll, dylai ofyn am help gan aelod o'r heddlu, oedolyn arall gyda phlant neu rywun yn gweithio mewn siop gyfagos
- mynnwch fod eich plant yn rhoi eu cyfeiriad a'u rhif ffôn ar gof a chadw
- ceisiwch gadw'ch plant lle gallwch eu gweld neu yng ngolwg oedolyn arall yr ydych yn ymddiried ynddo
- defnyddiwch harnais ar gyfer eich plentyn bach - bydd y rhain yn cadw'ch plentyn gerllaw hyd yn oed os oes rhywbeth arall yn tynnu'ch sylw
Cadw plant hŷn yn ddiogel
Cyflawnir mwy o droseddau yn erbyn plant hŷn nag unrhyw grŵp oed arall, ond mae rhai pethau y gall eich pobl ifanc yn eu harddegau eu gwneud er mwyn bod yn ddiogel ar y strydoedd:
- bod yn wyliadwrus, a sicrhau bod stereos personol/chwaraewyr MP3 wedi'u diffodd, fel y gallant glywed yr hyn sy'n digwydd o'u cwmpas
- cadw at strydoedd wedi eu goleuo'n dda, ac osgoi cymryd llwybr tarw drwy strydoedd bach
- os ydy eich plentyn yn meddwl fod rhywun yn ei ddilyn, dylai groesi'r ffordd neu fynd i rywle lle mae llawer o bobl, fel arosfan bws neu siop
- dylai eich plentyn wisgo chwiban neu larwm gwichlyd am ei wddf neu ar gadwyn er mwyn atal dieithriaid amheus
- wrth deithio ar fws, dylai eich plentyn ddefnyddio safleoedd bysiau sydd ar lonydd prysur
- os bydd rhywun yn ceisio cymryd rhywbeth gan eich plentyn, ddylen nhw ddim ceisio ymladd
- dylid cadw ffonau symudol a phethau eraill gwerthfawr o'r golwg, a dylid diffodd y sŵn er mwyn osgoi tynnu sylw
- peidiwch a gadael i'ch plentyn gario arfau oherwydd mae'n fwy tebygol iddynt gael eu defnyddio yn erbyn eich plentyn. Mae cario arfau hefyd yn anghyfreithlon.
- anogwch eich plentyn i siarad am y peth os byddant yn cael eu bwlio neu'n teimlo y gallant fod mewn perygl