Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Os yw eich plentyn chi'n bwlio plant eraill

Os ydych newydd ganfod bod eich plentyn yn bwlio plant eraill efallai mai eich ymateb cyntaf fydd teimlo anghrediniaeth neu ddicter. Ond mae yna ddulliau tawelach a mwy effeithiol o atal eich plentyn rhag bwlio.

Rhesymau am fwlio

Os ydy'ch plentyn chi'n bwlio, mae'n bosib ei fod yn efelychu ymddygiadau pobl eraill yn y teulu; neu efallai nad yw wedi dysgu dulliau gwell o gymysgu gyda'i ffrindiau. Efallai bod ffrindiau yn annog bwlio, neu mae'n bosib bod eich plentyn yn mynd trwy gyfnod anodd ac oherwydd hynny yn arddangos teimladau ymosodol.

Er mwyn atal eich plentyn rhag bwlio:

  • eglurwch wrth eich plentyn bod yr hyn y mae'n ei wneud yn annerbyniol ac yn gwneud plant eraill yn anhapus
  • dylech berswadio aelodau eraill o'ch teulu i beidio ymddwyn yn ymosodol neu'n dreisgar er mwyn cael yr hyn a ddymunant
  • dangoswch i'ch plentyn sut mae ymuno heb fwlio
  • ewch i weld athro eich plentyn i siarad am sut y gallwch gyd-weithio er mwyn atal eich plentyn rhag bwlio
  • holwch eich plentyn yn rheolaidd sut mae pethau'n mynd yn yr ysgol
  • canmolwch eich plentyn pan fydd yn gydweithredol ac yn garedig tuag at bobl eraill

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU