Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Alcohol, eich plentyn a'r gyfraith

Yn y DU, mae'r gyfraith sy'n ymwneud ag yfed alcohol yn llym, ac mae'n bwysig gwneud yn siŵr nad ydych yn torri'r gyfraith wrth adael i'ch plentyn yfed.

Dan bump oed

Mae'n anghyfreithlon rhoi diod alcoholig i blentyn dan bump oed ac eithrio dan oruchwyliaeth feddygol mewn argyfwng.

Dan 16 oed

Caiff plant dan 16 oed fynd i unrhyw le mewn tafarn cyn belled â'u bod yn cael eu goruchwylio gan oedolyn, ond ni chânt unrhyw ddiodydd alcoholig.

Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd gan ambell dafarn amodau trwyddedu a fydd yn golygu na chaiff plant fynd i mewn iddynt, fel tafarndai sydd wedi cael problemau ag yfed dan oed.

Pobl ifanc 16 neu 17 oed

Gall pobl ifanc 16 i 17 oed yfed cwrw, gwin neu seidr gyda phryd o fwyd os caiff ei brynu gan oedolyn, a'u bod gydag oedolyn. Mae'n anghyfreithlon i'r grŵp oed hwn yfed gwirodydd mewn tafarndai, hyd yn oed gyda phryd o fwyd.

Yn yr Alban, caiff pobl ifanc 16 ac 17 oed brynu cwrw, gwin neu seidr cyn belled â'i fod yn cael ei weini â phryd o fwyd ac yn cael ei yfed mewn man sy'n cael ei ddefnyddio dim ond ar gyfer bwyta prydau bwyd.

Dan 18 oed

Mae'n anghyfreithlon i unrhyw un o dan 18 oed brynu alcohol mewn tafarn, siop gwerthu alcohol, archfarchnad neu fan arall, neu i rywun brynu alcohol i berson dan 18 oed i'w yfed mewn tafarn neu fan cyhoeddus.

Mae gan rai trefi a dinasoedd is-ddeddfau lleol sy'n gwahardd pobl rhag yfed alcohol yn gyhoeddus.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU