Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Plant a phwysau iach

Mae pwysau eich plentyn yn bwysig, ac mae pethau y gallwch eu gwneud os ydych yn poeni yn ei gylch. Gallwch hefyd fesur taldra a phwysau eich plentyn i weld a ydynt o fewn amrediad iach.

Pam fod pwysau eich plentyn yn bwysig

Mae plant yn mynd yn drymach ac yn drymach y dyddiau hyn, ac mae hynny'n newyddion drwg i'w hiechyd, yn enwedig wrth iddynt fynd yn hŷn.

Mae plant sydd dros eu pwysau yn fwy tebygol o gael diabetes neu glefyd y galon pan fyddant yn hŷn, ac yn fwy tebygol o fod yn ordew pan fyddant yn oedolion. Ond gall hyn effeithio ar fwy na dim ond iechyd eich plentyn. Gallai plant sydd dros eu pwysau gael eu heffeithio gan y pethau hyn hefyd:

  • bwlio neu bryfocio
  • diffyg hunanhyder
  • teimlo cywilydd wrth chwarae gemau neu gymryd rhan mewn chwaraeon
  • anhawster wrth gadw'n heini (er enghraifft, mynd yn fyr o wynt yn sydyn)

Hyd yn oed os nad yw eich plentyn dros ei bwysau neu'n ordew, mae'n bwysig eu bod yn bwyta'n iach ac yn gwneud ymarfer corff. Mae'r awgrymiadau a nodir ar y dudalen hon yn berthnasol i bob plentyn, waeth beth yw eu pwysau.

Ydy pwysau eich plentyn yn iach?

Gan fod plant a phobl ifanc yn eu harddegau'n dal i dyfu, a chan fod bechgyn a merched yn tyfu mewn ffordd wahanol, rhaid ystyried rhyw ac oed plentyn wrth ganfod a ydy eu pwysau o fewn amrediad iach. Am y rheswm hwn, ni cheir defnyddio categorïau taldra a phwysau oedolion ar gyfer neb dan 18 oed.

Mae cyfrifiannell ar-lein wedi cael ei ddatblygu i'ch helpu i ddeall mesuriadau taldra a phwysau eich plentyn ac i gyfrifo a ydy pwysau eich plentyn o fewn amrediad iach. Mae'r gyfrifiannell yn cael ei phrofi ar hyn o bryd, ac mae modd rhoi cynnig ar ei defnyddio. Cliciwch ar y ddolen isod i fynd at y gyfrifiannell.

Mae'n bwysig cofio mai dim ond amcangyfrif o lefel braster y corff y bydd canlyniadau'r gyfrifiannell yn eu dangos. Gall ffactorau eraill, fel pa mor heini yw person, eu tarddiad ethnig, neu hyd yn oed gyfnod blaenlencyndod, effeithio ar y canlyniadau, felly dylid ystyried y rhain hefyd. Hyd yn oed os yw'r plentyn yn iach o ran ei bwysau, gallai ei iechyd fod mewn perygl o hyd os nad yw'n heini o gwbl neu os nad yw ei ddeiet yn iach. Os yw eich plentyn dros ei bwysau, dylech bob amser siarad â'ch meddyg cyn ei roi ar ddeiet i golli pwysau.

Beth i'w wneud os ydych chi'n poeni am bwysau eich plentyn

Y peth gorau y gallwch ei wneud yw helpu'ch plentyn i feithrin arferion bwyta iach ac i wneud mwy o weithgareddau corfforol. Mae plant sy'n gweld eu rhieni, eu neiniau a'u teidiau a'u gofalwyr yn byw'n iach yn tueddu i ddysgu drwy esiampl a bydd hynny'n help iddyn nhw feithrin arferion da. Bydd yr arferion hyn yn dod yn rhan o fywyd bob dydd.

Does dim angen i'r rhan fwyaf o blant sydd dros eu pwysau fynd ar ddeiet. Mae'n bosib nad oes angen iddyn nhw golli pwysau hyd yn oed. Wrth iddyn nhw dyfu, ceisiwch gadw'u pwysau tua'r un lefel. Bydd hynny'n golygu y byddan nhw'n cyrraedd eu pwysau delfrydol wrth iddyn nhw fynd yn dalach.

Bwyta’n iach i blant

Nid yw'n syniad da cyfri calorïau neu gyfyngu gormod ar y bwyd y mae plant yn ei gael. Bydd eistedd o amgylch y bwrdd i gael pryd o fwyd fel teulu yn rheolaidd, cyfyngu ar ddiodydd sy'n llawn siwgr a byrbrydau sydd â llawer o galorïau ynddynt, a cheisio osgoi bwyta ar frys yn helpu i feithrin arferion bwyta da i'ch plentyn am oes. Peidiwch ag ildio i'r temtasiwn o roi melysion a siocled i'ch plentyn fel gwobr neu gysur.

Dylai pob plentyn anelu at fwyta'r canlynol bob dydd:

  • pum dogn neu fwy o amrywiaeth o ffrwythau a llysiau (i gael cyngor ynghylch sut i gyflawni hyn, ewch i'r ddolen isod)
  • prydau sy'n seiliedig ar fwydydd starts, fel tatws, pasta, reis, bara, grawnfwydydd brecwast a grawnfwydydd eraill
  • cynnyrch llaeth sy'n is mewn braster, fel llefrith, iogwrt, fromage frais neu gaws (i blant dros bump oed)

Gall rhoi dim ond ychydig o fenyn braster isel ar fara neu dost, a defnyddio llai o olew gyda salad ac mewn sawsiau helpu plant i fwynhau prydau bwyd blasus ac iach. Dylid bwyta cyn lleied â phosib o fyrbrydau sawrus a melys (fel creision, bisgedi a siocled) ac yfed cyn lleied o ddiodydd melys ag y bo modd. Beth am fwynhau ffrwythau wedi'u torri yn lle'r pethau hyn?

Arferion iach yn y cartref ac yn yr ysgol

I helpu'ch plentyn i feithrin arferion bwyta iach, dylech eu hannog i fwyta'n iach pan maent yn ifanc iawn.

Erbyn hyn, mae'n ofynnol i ysgolion fodloni safonau newydd o ran maeth mewn bwyd ysgol, fel mai dim ond dewisiadau iach a gynigir i blant pan fyddant yn yr ysgol. Bydd ceisio eu cael i fwyta bwydydd iach gartref yn cyd-fynd â'r hyn a gânt yn yr ysgol, ac yn eu cynorthwyo i feithrin arferion bwyta iachach. Ceisiwch wneud cymaint o'r rhain ag y gallwch:

  • eistedd gyda'ch gilydd fel teulu i fwyta'ch pryd bwyd os gallwch
  • diffodd y teledu pan rydych yn bwyta
  • bwyta dewis cytbwys o fwydydd iach eich hun a bod yn gadarnhaol yn eu cylch
  • ceisio annog y teulu i flasu bwydydd newydd
  • annog a chanmol ‘bwyta'n dda’ yn hytrach na swnian
  • mynd ati i gynnwys y plant wrth baratoi bwyd

I gael gwybod rhagor am sut mae ysgol eich plentyn yn helpu'ch plentyn i gadw'n iach ac yn heini, cliciwch ar y ddolen isod.

Plant llawn bywyd

Dylai pob plentyn anelu at wneud rhywbeth i gadw'n heini am o leiaf awr bob dydd. Peidiwch â chaniatáu iddynt fod o flaen sgrin cyfrifiadur neu o flaen y teledu am fwy na dwy awr bob dydd - llai os yw'n bosib - yn enwedig i blant ifanc.

Helpwch eich plentyn i ddod o hyd i weithgareddau y maent yn eu mwynhau. Mae'r rhan fwyaf o blant yn mwynhau chwarae yn y parc neu yn y cae chwarae, a rhedeg yn yr awyr agored - beth bynnag yw'r tywydd. Ceisiwch wneud gweithgarwch corfforol yn rhan o fywyd eich teulu bob dydd – dylai hyn gynnwys cerdded, mynd am dro ar gefn beic a chwarae yn yr awyr agored.

Mae gwahanol fathau o ymarfer corff yn bwysig i helpu plant i ddatblygu esgyrn cryf, cryfder yn y cyhyrau a hyblygrwydd. Gall gweithgareddau corfforol fod yn naturiol ac yn ddigymell (yn y parc, wrth chwarae yn yr awyr agored), gallant fod wedi'u trefnu (cerdded, mynd i'r ysgol ar gefn beic) neu'n chwaraeon yn yr ysgol.

Cofiwch ganmol eich plant pan fyddant yn cymryd rhan neu'n gwneud rhywbeth i gadw'n heini, a pheidiwch â'u beirniadu os nad ydynt yn gallu gwneud rhywbeth mor dda â phlant eraill.

Drwy gyfrwng rhaglen Ymarfer Corff a Chwaraeon Ysgolion, mae dros 80 y cant o blant erbyn hyn yn gwneud dwy awr o Ymarfer Corff a Chwaraeon o safon uchel yn yr ysgol. Y nod yw ehangu hyn i o leiaf bedair awr yr wythnos (yn ystod diwrnod ysgol a'r tu allan iddo) erbyn 2010.

I gael gwybod mwy am raglen Ymarfer Corff a Chwaraeon Ysgolion, cliciwch ar y ddolen isod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU