Os ydych yn poeni am ymddygiad eich plentyn neu os ydy'ch plentyn fel petai'n llawer mwy gofidus nag arfer, efallai y bydd angen i chi geisio dod o hyd i graidd y broblem.
Mae plant yn wynebu pwysau o sawl math yn ein cymdeithas fodern. Mae'r rhan fwyaf yn ymdopi'n iawn, ond mae rhai yn cael trafferth ymdopi neu ddim yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt i deimlo'n hapus, yn ddiogel ac yn hyderus. Os ydy'ch plentyn yn teimlo'n ofidus neu'n boenus, gall fynegi'r anhapusrwydd mewn sawl ffordd:
Yn yr un modd, efallai y bydd eich greddf yn dweud wrthych fod rhywbeth o'i le.
Os ydych yn poeni am eich plentyn, gallech chi:
Mae gwasanaeth gwybodaeth Young Minds i rieni ar 0800 018 2138 yn darparu cyngor cyfrinachol i unrhyw oedolyn sy'n pryderu am iechyd meddwl neu les emosiynol plentyn neu berson ifanc.
Mae llinell gymorth Parentline Plus ar 0808 800 2222 yn darparu cymorth a gwybodaeth i unrhyw un sy'n gofalu am blant.
Mae ChildLine ar 0800 1111 yn cynnig cymorth i bobl ifanc mewn trafferthion neu mewn perygl