Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Clefyd melyn

Gyda chlefyd melyn, mae gwyn llygaid y baban a chroen y baban yn ymddangos yn felyn. Mae'n gyffredin mewn babanod ac fel arfer yn gwbl ddiniwed.

Achosion

Mae clefyd melyn yn gyffredin mewn babanod newydd-anedig gan nad yw eu hiau yn aeddfed. Mae'r iau yn organ bwysig iawn. Un o'i swyddogaethau yw tynnu cemegyn melyn o'r enw bilirwbin o'r corff. Canfyddir bilirwbin mewn bustl, a chaiff ei wneud wrth i gelloedd coch y gwaed sy'n cario ocsigen o amgylch y corff ddadfeilio. Fel arfer, mae'r corff yn tynnu bilirwbin o lif y gwaed trwy ei basio trwy'r iau ac i'r arenau er mwyn ei waredu. Os oes gormod o filirwbin yn y gwaed neu os nad yw'r iau yn medru cael gwared ohono am ryw reswm, gall hyn arwain at glefyd melyn.

Mae llawer o fabanod, yn arbennig babanod a fwydir o'r fron, yn dangos symptomau clefyd melyn am hyd at bythefnos ar ôl yr enedigaeth. Mae hyn yn gyffredin fel arfer, ac nid yw'n gwneud niwed. Bydd eich bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd yn archwilio'ch baban am glefyd melyn, ac efallai'n argymell prawf gwaed. Cyhyd â bod y baban, fell arall, yn iach ac yn bwydo'n arferol, bod yr wrin yn ddi-liw ac nad yw'r carthion o liw golau, go brin bod gennych reswm i boeni.

Os yw'ch baban yn dangos symptomau clefyd melyn ar ôl pythefnos, neu os yw'r wrin yn dywyll neu'r carthion yn olau, ewch i weld eich meddyg yn syth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU