Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gofal llygaid i blant

Gallwch ddechrau gofalu am olwg eich plentyn o oedran ifanc iawn.

Ar ba oedran y gall plentyn gael prawf llygad?

Mae llawer o awdurdodau iechyd yn profi plant pan fyddant oddeutu tair oed (bydd eich meddyg neu'ch ymwelydd iechyd yn cysylltu â chi). Fodd bynnag, os ydych yn bryderus, neu os oes gan rai o'ch teulu broblemau gyda'u llygaid, gallwch gael prawf llygaid ar gyfer eich plentyn yn gynt. Cofiwch: gorau po gyntaf y canfyddir problem, er mwyn iddi gael ei thrin yn fwy effeithiol.

Faint o amser ddylai prawf golwg ei gymryd?

Gall hyn amrywio. Bydd prawf ar gyfer person iach ac ifanc heb unrhyw broblemau yn cymryd oddeutu 20 munud.

Fydd y prawf yr un peth â phrawf llygad oedolyn?

Na. Mae profion arbennig wedi'u dyfeisio ar gyfer plant ifanc iawn ac fel gyda phob prawf llygad, nid ydynt yn brifo.

Beth os bydd angen sbectol ar fy mhlentyn?

Gall plant ddewis o amrywiaeth eang o fframiau, sy'n ymarferol ac yn ffasiynol. Mae gan sbectol ar gyfer plentyn nodweddion megis padiau trwyn a phontydd cyfrwy y gellir eu haddasu ar gyfer trwynau bychan nad ydynt wedi ffurfio, a cholfachau sbring i'w gwneud yn gyfforddus. Argymhellir lensys plastig ar gyfer plant, gan eu bod yn ysgafnach ac yn fwy diogel na gwydr, a gellir rhoi haen gwrth-grafu arnynt.

Ydy plant yn gallu gwisgo lensys cyffwrdd?

Fel arfer, rhoddir lensys cyffwrdd i blant ifanc ar gyfer cyflyrau arbennig yn unig. Gall optegydd eich plentyn ddweud mwy wrthych chi. Gall plant hŷn wisgo lensys cyffwrdd, ond rhaid i'r plentyn a'r rhiant sylweddoli'r gofal mawr sy'n ofynnol i gadw'r lensys cyffwrdd yn ddiogel ac yn lân, yn ogystal â'r angen i gael profion rheolaidd i gadw'u llygaid yn iach.

Beth sydd ar gael o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)?

O dan y GIG, mae prawf llygad ar gael am ddim i blant hyd at 16 oed, a hyd at 19 oed os ydynt mewn addysg amser llawn.

Ar ôl cael prawf llygad, mae gan rieni hawl i gael taleb tuag at gost sbectol neu lensys cyffwrdd y bydd eu plentyn yn gorfod eu cael. Mae gwerth y daleb yn dibynnu ar y math o bresgripsiwn y bydd ei angen ar eich plentyn. Gofynnwch i'ch optegydd am ragor o fanylion.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU