Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cadw plant yn ddiogel rhag llosgiadau a sgaldiadau

Offer cegin, coginio a bwyd a diod sy'n gyfrifol am dros hanner yr achosion o losgiadau a sgaldiadau. Dilynwch y cyngor diogelwch hwn er mwyn cadw eich plentyn yn ddiogel.

Yn y gegin

  • ceisiwch osgoi bod â phlentyn ifanc yn y gegin oni bai eu bod yn cael eu goruchwylio
  • peidiwch â gadael i blant fynd at flaen y popty - gall y drws fynd yn boeth iawn
  • defnyddiwch degell gyda fflecs byr neu gyrliog a chadwch ef ymhell oddi wrth ymyl wyneb gweithio'r gegin
  • trowch handlenni'r sosbenni tuag at gefn y popty, a defnyddiwch y cylchoedd cefn lle bo'n bosibl
  • peidiwch byth â llenwi mwy na thraean sosban sglodion gydag olew, a pheidiwch byth â gadael y sosban tra bo'r olew yn boeth
  • defnyddiwch sosban sglodion a reolir gan thermostat os yw'n bosibl, neu defnyddiwch sglodion popty yn hytrach
  • dysgwch blant dros saith oed i ddefnyddio teclynnau cegin yn ddiogel - fel tostiwr, a microdon
  • wrth i blant dyfu, gallant hefyd gael eu dysgu i arllwys dŵr yn ddiogel o'r tegell a defnyddio'r popty

Wrth i chi gynhesu poteli babanod, peidiwch â defnyddio'r microdon - gall y llaeth gynhesu'n anghyson, gan adael darnau o'r llaeth yn boeth iawn a allai losgi ceg babi. Y ffordd orau o gynhesu llaeth yw defnyddio cynhesydd poteli neu jwg o ddŵr poeth. Ar ôl ei gynhesu, dylech ysgwyd y botel yn dda a phrofi'r tymheredd drwy wasgu ychydig o ddafnau o lefrith ar du mewn eich arddwrn. Dylai fod yn gynnes, ond ddim yn rhy boeth.

Diodydd poeth

Gall diodydd poeth losgi plant ifanc 15 munud ar ôl iddynt gael eu gwneud. Er mwyn osgoi hyn:

  • peidiwch byth ag yfed te neu goffi tra'r ydych yn gafael mewn babi neu blentyn ifanc
  • peidiwch â gadael diodydd poeth o fewn cyrraedd babanod a phlant ifanc
  • peidiwch byth â phasio diodydd poeth dros ben babi neu blentyn

Yn yr ystafell ymolchi

  • peidiwch byth â gadael babi neu blentyn ifanc ar ei ben ei hun yn yr ystafell ymolchi, hyd yn oed am funud - gallant ddisgyn i mewn i faddon o ddŵr poeth neu chwarae gyda'r tap dŵr poeth
  • i osgoi sgaldiadau o'r tap dŵr poeth, gosodwch falf cymysgu thermostatig (TMV) arno
  • os nad oes gennych falf cymysgu thermostatig, dylech roi dŵr oer yn y baddon bob amser i ddechrau, ac yna ychwanegu dŵr poeth
  • p'un a oes gennych falf cymysgu thermostatig ai peidio, dylech bob amser brofi'r dŵr gyda'ch penelin cyn rhoi'ch plentyn ynddo - ni ddylai'r dŵr deimlo'n boeth nac yn oer

Y tu allan

  • peidiwch â gadael i blant fynd at farbiciws - hyd yn oed os ydych wedi gorffen eu defnyddio
  • peidiwch â gadael eich plant yn agos at goelcerthi, tân gwyllt neu ganhwyllau gardd

Os yw eich plentyn wedi llosgi neu wedi'i sgaldio

  • rhedwch ddŵr oer ar y llosg ar unwaith am 10 i 15 munud
  • unwaith y bydd y llosg wedi oeri, tynnwch y dillad oddi ar y rhan sydd wedi'i hanafu
  • os oes defnydd yn glynu wrth y croen, peidiwch â cheisio ei dynnu - bydd angen i weithiwr meddygol proffesiynol wneud hyn
  • os bydd y llosg neu'r sgald yn dechrau brifo eto - rhowch ddŵr oer arno eto
  • peidiwch â chyffwrdd yr anaf na byrstio unrhyw swigod - gall hyn achosi heintiad
  • os yw'n bosibl, tynnwch fodrwyau, oriawr ac ati o'r rhan sydd wedi'i hanafu gan y gallai chwyddo
  • gorchuddiwch y llosg neu'r sgald yn llac gyda deunydd di-fflwff i atal heintiad - mae haenen lynu (cling film) yn ddelfrydol ond peidiwch â'i lapio o amgylch yr anaf, gosodwch yr haen yn rhydd ar ei ben
  • peidiwch â rhoi unrhyw hufenau, elïau, saim, chwistrell antiseptig na phlastrau ar yr anaf
  • gallwch gael cyngor gan feddyg drwy ffonio NHS Direct (Cymru a Lloegr) ar 0845 4647, neu NHS 24 (yr Alban) ar 08454 242424, neu drwy fynd i adran damweiniau ac achosion brys eich ysbyty lleol.

Os bydd y llosg neu'r sgald ar yr wyneb, dwylo, traed, cymalau neu'r organau rhyw, dylai'r meddyg gael ei weld. Dylai'r meddyg hefyd gael gweld unrhyw losg neu sgald sy'n fwy na stamp.

Cyrsiau cymorth cyntaf

Mae'n syniad da i bob rhiant a gofalwr ddysgu cymorth cyntaf. I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau cymorth cyntaf, cliciwch ar y dolenni isod.

Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant

Darparwyd y wybodaeth ar y dudalen hon gan Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant

Allweddumynediad llywodraeth y DU