Cyngor ar ddiogelwch tân ar gyfer rhieni a gofalwyr plant
Y ffordd orau o addysgu plant am ddiogelwch tân yw drwy esiampl. Gadewch i'ch plant eich gweld yn bod yn ddoeth ac yn ofalus gyda choginio, canhwyllau, ysmygu a pheryglon tân posib eraill.
Tân a phlant
Mae tanau mewn cartrefi yn lladd dwsinau o blant bob blwyddyn, sef bron i hanner yr holl farwolaethau plant sy'n digwydd yn ddamweiniol. Mae plant yn naturiol yn cael eu denu at olau a chynhesrwydd tân, ond heb arweiniad priodol gall hyn droi'n hudoliaeth beryglus. Mae plant dan 10 oed yn achosi 6,000 o danau bob blwyddyn.
Siarad â'ch plant am dân
Dylid rhoi cyfarwyddiadau clir i blant ieuengach ynghylch beth y dylent ei wneud a beth na ddylent ei wneud, ond mae'n well esbonio'r rhesymau i blant pump oed neu hŷn. Dylai pob plentyn wybod nad yw byth yn ddiogel chwarae â thân.
Bydd dysgu rheolau syml i'ch plentyn yn gymorth i'w diogelu rhag tân. Dywedwch wrthyn nhw:
- peidiwch byth â chwarae gyda matsis neu danwyr
- peidiwch byth â chwarae gyda channwyll sydd wedi ei goleuo
- peidiwch byth â chwarae'n agos at dân neu wresogydd, na gadael teganau wrth ymyl tân neu wresogydd
- peidiwch â thynnu ar geblau trydanol na ffidlan gydag offer trydanol neu socedi
- peidiwch byth â rhoi'r popty ymlaen
- peidiwch byth â rhoi dim byd ar ben y popty
- peidiwch â chyffwrdd ag unrhyw sosbenni sydd ar y popty
- peidiwch â rhoi pethau ar ben gwresogyddion neu oleuadau
- os ydych chi'n gweld matsis neu danwyr o gwmpas y lle - dywedwch wrth oedolyn
Cyfarwyddiadau tân i blant
Mae'n bwysig siarad â phlant ynglŷn â beth i'w wneud os bydd tân. Peidiwch ag osgoi'r mater oherwydd nad oes arnoch eisiau eu dychryn. Mae'n rhaid i blant wybod yn fras sut i ymateb, oherwydd mae'n bosib na fydd oedolyn o gwmpas i ddweud wrthyn nhw beth i'w wneud ar y pryd os ceir tân. Dyma'r cyfarwyddiadau sylfaenol i'w rhoi i'ch plant:
- os ydych chi'n gweld mwg neu fflamau, dylech ddweud wrth rywun yn syth - oedolyn os yn bosib
- ceisiwch fynd allan o'r adeilad cyn gynted ag sy'n bosib
- peidiwch byth â mynd yn ôl i mewn i'r adeilad i nôl dim - gall y diffoddwyr tân chwilio'r tŷ yn gynt ac yn fwy diogel am unrhyw beth a adawyd ar ôl
- os oes mwg, dylech gropian ar hyd y llawr, lle mae'r aer yn lanach
- os oes rhwystrau ar draws y llwybr dianc, ewch i ystafell â ffenestr ynddi, rhowch ddillad gwely neu dyweli wrth waelod y drws i rwystro'r mwg rhag dod i mewn i'r ystafell, agorwch y ffenestr a gweiddi am help
- peidiwch byth â chuddio mewn cwpwrdd neu o dan y gwely - ewch allan o'r tŷ a galw am help yn syth
- chwiliwch am ffôn a deialu 999, a gofyn am y Gwasanaeth Tân ac Achub - rhowch y cyfeiriad yn araf ac yn bwyllog (efallai y bydd yn rhaid mynd at y cymdogion i ofyn am ffôn)
Dylech sicrhau bod eich plant yn gwybod eu cyfeiriad bob amser, er mwyn iddynt allu galw am gymorth.
Sicrhewch eich bod yn gwybod eich llwybr dianc
Cynlluniwch lwybr dianc a sicrhau bod pawb yn y tŷ, gan gynnwys plant a gwarchodwyr, yn gyfarwydd ag ef. Cadwch bob allanfa'n glir, ac ewch dros y cynllun dianc gyda'r plant.
Gwneud eich cartref yn ddiogel i blant
Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud yn eich cartref fel nad yw eich plant yn dod i gysylltiad â pherygl:
- peidiwch â gadael plant ar eu pennau'u hunain mewn ystafell lle mae perygl tân
- cadwch fatsis, tanwyr, canhwyllau a chanhwyllau bach crwn mewn man lle na all plant eu gweld nac ymestyn atynt
- dylid rhoi gard tân atal plant o flaen gwresogyddion neu danau agored
- peidiwch â gadael i blant chwarae â theganau na'u gadael wrth ymyl tân neu wresogydd
- rhowch gloeon plant ar gypyrddau sy'n cynnwys unrhyw beth y gellid ei ddefnyddio i gynnau tân (er enghraifft, matsis, canhwyllau a hylifau fflamadwy)
- cadwch wresogyddion symudol mewn man diogel lle nad oes modd eu troi pan fyddant yn cael eu defnyddio neu eu storio
- sicrhewch nad oes teganau a rhwystrau eraill ar draws eich llwybr dianc
- peidiwch byth â gadael plant ar eu pennau'u hunain yn y gegin pan fyddwch yn coginio a pheidiwch byth â gadael iddynt chwarae wrth ymyl y popty a'r hob
- gwnewch yn siŵr bod offer trydanol yn ystafelloedd gwely'r plant wedi'u diffodd yn ystod y nos
Gorchuddio socedi trydan
Mae'n anodd iawn i blentyn gael sioc drydanol wrth chwarae gyda soced, felly ni ddylai fod angen gorchuddio socedi. Gall gorchudd weithiau rwystro plant ifanc rhag rhoi plwg gwresogydd neu offer trydanol arall a allai ddechrau tân neu arwain at losgiadau yn y soced - ond ni ddylech ddibynnu ar orchuddion gan nad ydynt yn cael eu rheoleiddio ar gyfer diogelwch. Mae'n well o lawer sicrhau bod offer trydanol yn cael eu cadw'n ddiogel.