Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cael help a gwybodaeth am bensiynau

Mae gwybodaeth am y gwahanol fathau o bensiynau ar gael am ddim gan sawl sefydliad. Mae gan rai ohonynt ymgynghorwyr a fydd yn eich helpu i ddeall opsiynau o ran pensiwn. Er mwyn cael cyngor sy'n benodol ar gyfer eich anghenion chi, dylech ystyried siarad ag ymgynghorydd ariannol awdurdodedig, ond efallai y bydd rhaid i chi dalu am eu cyngor.

Gwybodaeth gyffredinol

Mae gwybodaeth gyffredinol am bensiynau ar gael gan y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau Annibynnol, Gwasanaeth Pensiwn y Llywodraeth a'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) sy'n rheoleiddio'r farchnad gwasanaethau ariannol.

Y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau

Mae'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau'n darparu gwybodaeth am gynlluniau pensiwn cwmni a phensiynau personol. I gael cyngor di-dâl a chyfrinachol, gallwch ffonio'r llinell gymorth neu ymweld â'r gwefan. Mae'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau'n ddefnyddiol iawn os oes gennych guyn am eich trefniant pensiwn ac angen cymorth i ddelio â hwnnw.

Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA)

Yr FSA sy'n rheoleiddio gwasanaethau ariannol yn y DU. Mae hefyd yn cynhyrchu gwybodaeth ddi-dâl hawdd ei deall am ystod eang o destunau yn cynnwys pensiynau.

Rhaid i gwmnïau sy'n gwerthu ac yn darparu cyngor am bethau megis pensiynau gael eu hawdurdodi gan yr FSA. Gallwch ganfod a yw cwmni wedi'i awdurdodi drwy ddefnyddio gwasanaeth Gwirio Cwmnïau yr FSA.

Y Gwasanaeth Pensiwn

Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn darparu gwybodaeth ar bensiynau preifat a phensiynau’r Wladwriaeth a budd-daliadau eraill efallai y byddwch ag hawl iddynt yn ymddeoliad.

Elusennau

Bydd rhai elusennau hefyd yn darparu cymorth ar gyfer deall pensiynau megis:

  • Cyngor Ar Bopeth (CAB) - ffoniwch neu ymwelwch â'ch swyddfa CAB leol - mae ganddynt swyddfeydd mewn sawl tref
  • Age Concern a Help the Aged - maent yn darparu taflenni ffeithiau ar ymddeol, gan gynnwys gwybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth; gallwch hefyd ffonio’r llinellau cymorth

Cael gwybod am eich Pensiwn gan y Wladwriaeth

Bydd gwybodaeth am eich Pensiwn gan y Wladwriaeth yn dibynnu ar ba mor agos yr ydych at ymddeol:

Os nad ydych yn derbyn pensiwn y Wladwriaeth eto

Bydd rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn rhoi amcangyfrif ichi o faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallwch ei ddisgwyl ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth wedi'i seilio ar y wybodaeth gyfredol amdanoch chi

Os ydych yn aelod o gynllun pensiwn cwmni neu bersonol, gall gweinyddwyr y cynllun ddarparu'r wybodaeth hon ichi.

Os ydych ar fin dechrau hawlio Pensiwn y Wladwriaeth

Dylai'r Gwasanaeth Pensiwn anfon ffurflen hawlio atoch bedwar mis cyn ichi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Os na fyddwch wedi derbyn y ffurflen, neu os oes gennych gwestiynau yn ei chylch, ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn ar 0845 60 60 265 i gael gwahoddiad. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 8.00 pm.

Gwybodaeth am eich pensiwn cwmni neu eich pensiwn personol

Gweinyddwyr cynllun pensiwn eich cwmni

Bydd gan gynllun pensiwn eich cwmni weinyddwyr neu ymddiriedolwyr sy'n gallu rhoi cyngor penodol ichi am eich cynllun. Gallant hefyd roi rhagolwg ichi o'ch pensiwn, a fydd yn rhoi amcangyfrif ichi o werth eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol. Efallai y gallant roi amcangyfrif ichi o beth fydd eich Pensiwn gan y Wladwriaeth hefyd.

Darparwr eich cynllun pensiwn personol

Darperir cynlluniau pensiwn personol, gan gynnwys cynlluniau pensiwn cyfranddeiliaid, gan sefydliadau ariannol megis cwmnïau yswiriant, banciau a chymdeithasau adeiladu. Gallwch ofyn i ddarparwr eich cynllun pensiwn personol am wybodaeth benodol am eich pensiwn. Gallwch hefyd ofyn am ragolwg pensiwn, a fydd yn rhoi amcangyfrif ichi o faint eich cronfa bensiwn pan fyddwch yn ymddeol. Efallai y gallant hefyd rhoi amcangyfrif ichi o beth fydd eich Pensiwn gan y Wladwriaeth.

Problemau gyda'ch pensiwn personol neu'ch pensiwn cwmni

Os oes gennych broblem gyda'ch pensiwn personol, dylech ei thrafod gyda darparwr eich cynllun pensiwn. Os ydych mewn cynllun pensiwn cwmni, dylech ei thrafod gyda gweinyddwyr y cynllun.

Os na fyddwch yn gallu datrys y broblem, neu os bydd angen rhagor o gyngor arnoch, dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau. Mae eu llinellau cymorth yn cael eu staffio gan weithwyr proffesiynol annibynnol ym maes pensiynau ac mae eu gwasanaeth am ddim.

Gall y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau eich cynghori petaech yn mynd â'ch achos at yr Ombwdsmon Pensiynau sy'n ystyried cwynion ac anghydfodau ynghylch y ffordd y cynhelir cynlluniau pensiwn a gallant ddatrys anghydfodau.

Gwasanaeth Olrhain Pensiynau

Os ydych wedi colli trywydd hen gynllun pensiwn personol neu gwmni ac yn ansicr o'r manylion, fel arfer gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau helpu i'w olrhain.

Os hoffech i'r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau olrhain pensiwn ichi, gallwch eu ffonio ar 0845 6002 537 (mae’r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener), drwy ffôn testun ar 0845 3000 169; rhif rhyngwladol +44 191 215 4491, neu drwy lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar wefan y Gwasanaeth Pensiwn.

Ymgynghorwyr pensiynau awdurdodedig

Er mwyn cael cyngor sy'n benodol ar gyfer eich anghenion chi, dylech ystyried siarad ag ymgynghorydd ariannol awdurdodedig. Mae rhai ymgynghorwyr yn codi ffi; mae eraill yn derbyn comisiwn gan ddarparwr y pensiwn.

Sicrhewch fod yr ymgynghorydd wedi'i awdurdodi gan yr FSA. Os byddwch yn cymryd pensiwn heb gael cyngor gan ymgynghorydd awdurdodedig, mae gennych lai o hawliau os canfyddwch fod y pensiwn yn anaddas.

Allweddumynediad llywodraeth y DU