Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Canllaw i fudd-daliadau ar ôl ymddeol    

Pan fyddwch yn ymddeol, fel arfer bydd eich incwm yn llai na phan yr oeddech yn gweithio. I'ch helpu i ymdopi, efallai y gallwch gael rhai budd-daliadau a chefnogaeth benodol yn ogystal â Phensiwn y Wladwriaeth. Mae rhai budd-daliadau'n gysylltiedig ag oed, ac eraill yn dibynnu ar eich prawf incwm.

Pensiynau a budd-daliadau cyn-filwyr

Gall unrhyw un sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU, gan gynnwys gwŷr a gwragedd gweddw a'u dibynyddion, fod â hawl i gael cymorth â phensiynau, iechyd, cyflogaeth a thaliadau eraill.

Deall y Credyd Pensiwn

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn mae'n bosib bod gennych hawl i Gredyd Pensiwn - arian ychwanegol ar ben eich incwm. Mae dwy ran i'r credyd pensiwn – yr elfen 'credyd gwarant' a'r elfen 'Credyd Cynilion' (a all fod ar gael pan fyddwch yn cyrraedd 65 oed).

O 6 Ebrill 2010 bydd yr oedran y gallwch dderbyn Credyd Pensiwn yn cynyddu’n raddol o 60, yn unol â newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Credyd Pensiwn a phrydau ysgol am ddim

Mae gan blant y mae eu rhieni, eu gofalwyr neu eu gwarcheidwaid yn derbyn elfen credyd gwarant y Credyd Pensiwn hawl i laeth neu brydau ysgol am ddim, lle darperir hynny. Rhaid i adran addysg eich awdurdod lleol roi cinio ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys ar gais.

Taliad Tywydd Oer

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn, fe allech gael Taliad Tanwydd Gaeaf i helpu gyda biliau tanwydd. Fel arfer, telir y budd-dal di-dreth hwn o fis Tachwedd ymlaen – a chaiff y rhan fwyaf o'r taliadau eu gwneud cyn y Nadolig.

Taliad Tanwydd Gaeaf

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn, fe allech gael Taliad Tanwydd Gaeaf i helpu gyda biliau tanwydd. Fel arfer, telir y budd-dal di-dreth hwn o fis Tachwedd ymlaen – a chaiff y rhan fwyaf o'r taliadau eu gwneud cyn y Nadolig.

Y Gronfa Gymdeithasol

Mae'r Gronfa Gymdeithasol yn darparu taliadau untro a benthyciadau di-log i helpu gyda threuliau mewn rhai sefyllfaoedd.

Benthyciadau Argyfwng

Benthyciadau di-log yw Benthyciadau Argyfwng os oes angen cymorth ariannol arnoch chi tuag at argyfwng neu drychineb.

Benthyciadau Cyllidebu

Gellir darparu Benthyciadau Cyllidebu i helpu pobl ar incwm isel i dalu am bethau fel dodrefn, dillad a theithio.

Grantiau Gofal yn y Gymuned

Os oes angen help ariannol arnoch i fyw'n annibynnol yn y gymuned neu i liniaru pwysau eithriadol arnoch chi neu eich teulu, fe allech chi fod yn gymwys i gael Grant Gofal yn y Gymuned. Does dim rhaid i chi ei dalu'n ôl.

Taliadau Angladd

Os oes angen help ariannol arnoch i dalu am angladd rydych chi'n ei drefnu, mae'n bosibl y gallwch gael Taliad Angladd untro. Mae'n bosibl y bydd rhaid i chi ad-dalu peth ohono neu'r cyfan ohono o ystâd y sawl a fu farw.

Cymorth i bobl sydd ar eu colled o ran eu pensiwn

Os ydych ar eich colled o ran eich pensiwn neu os bydd eich cwmni'n mynd yn ansolfent heb ddigon o gronfeydd yn ei gynllun pensiwn, efallai fod ffordd o gael gafael ar eich pensiwn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU