Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Credyd Pensiwn a phrydau ysgol am ddim.

Mae gan blant y mae eu rhieni, eu gofalwyr neu’u gwarcheidwaid yn derbyn elfen credyd gwarant y Credyd Pensiwn hawl i laeth neu brydau ysgol am ddim, lle darperir hynny. Rhaid i adran addysg eich awdurdod lleol ddarparu prydau ysgol am ddim i fyfyrwyr sy'n gymwys, os gwneir cais.

Pwy sy’n gymwys?

Dim ond yng Nghymru a Lloegr y darperir prydau ysgol am ddim (er y gall y ddarpariaeth amrywio). Fel arfer, gweinyddir y cynllun prydau ysgol am ddim yng Nghymru a Lloegr gan adran addysg eich awdurdod lleol neu gan gyrff llywodraethu yn eich ardal leol.

Penderfynir pwy sy'n cael prydau ysgol am ddim yn yr Alban yn ôl disgresiwn Llywodraeth yr Alban. Gellir gweld y meini prawf ar gyfer cael prydau ysgol am ddim yn yr Alban ar wefan Llywodraeth yr Alban.

Os ydych chi'n byw yng Nghymru neu yn Lloegr gall eich plentyn gael prydau ysgol am ddim os ydych chi neu eich partner yn cael naill ai:

  • Credyd Gwarant Credyd Pensiwn (yr 'elfen credyd gwarant') - ddim yn yr Alban
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cysylltiedig ag Incwm
  • cymorth yn unol â Rhan VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • yr elfen Gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Treth Plant, ar yr amod nad ydynt yn gymwys am Gredyd Treth Gwaith ac nid yw’r incwm blynyddol (fel yr aseswyd gan Gyllid a Thollau EM) yn fwy na £16,040

Prydau ysgol am ddim a deiet iach

Rhaid i'r holl fwyd a ddarperir gan adran addysg eich awdurdod lleol gyrraedd y safonau maeth cenedlaethol. Mae'r safonau hyn yn sicrhau bod plant yn cael deiet iach a chytbwys.

Ar ba oed y mae plentyn yn cael prydau ysgol am ddim?

Mae prydau am ddim ar gael i unrhyw ddisgybl neu fyfyriwr amser llawn sy'n dal yn yr ysgol ac yn gymwys. Mae hyn yn cynnwys plant meithrin sy'n mynychu diwrnodau llawn a myfyrwyr chweched dosbarth hefyd. Nid yw prydau ar gael ar gyfer myfyrwyr ar lefel addysg bellach.

Sut i wneud cais

I wneud cais am brydau ysgol am ddim, bydd yn rhaid i chi fel arfer lenwi ffurflen gais gan adran addysg eich awdurdod lleol a'i dychwelyd gyda'r dystiolaeth berthnasol naill ai i un o'r ysgolion y mae eich plentyn/plant yn eu mynychu neu i'r cyfeiriad ar y ffurflen. Rhaid i awdurdodau lleol unigol fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn bodloni'r amodau cymhwyso.

Os ydych yn cael elfen credyd gwarant Credyd Pensiwn, gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl. Gallech ddefnyddio eich hysbysiad o'r 'Dyfarniad Credyd Pensiwn M1000', llythyr gan y Gwasanaeth Pensiwn neu lungopi o'r llythyr penderfyniad.

Gwneud cais am brydau ysgol am ddim

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Llaeth am ddim

Mae gan unrhyw blentyn dan bump oed hawl i docynnau llaeth am ddim os ydych yn derbyn elfen credyd gwarant Credyd Pensiwn.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU