Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Taliad Tanwydd Gaeaf – newid mewn amgylchiadau

Os ydych yn hawlio Taliad Tanwydd Gaeaf a bod eich amgylchiadau’n newid (er enghraifft, os byddwch yn symud dramor) yna mae angen i chi wybod gyda phwy y dylech gysylltu â nhw. Os na wnewch chi hyn, efallai na chewch eich taliadau.

Os ydych yn byw yn y DU

Os ydych yn byw yn y DU ac yn hawlio’r Taliad Tanwydd Gaeaf, mae’n bwysig eich bod yn ffonio llinell gymorth y Taliad Tanwydd Gaeaf os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • os byddwch yn symud tŷ
  • os byddwch chi'n newid manylion eich cyfrif banc
  • os byddwch yn stopio cael budd-daliadau (ac eithrio Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor a Budd-dal Plant)
  • os bydd rhywun yn symud i'ch cartref neu allan ohono
  • os bydd unrhyw newid arall yn eich amgylchiadau a allai effeithio ar eich taliad

Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn dal i gael y swm iawn

Hawlio Taliad Tanwydd Gaeaf a symud i fyw dramor

Os ydych yn byw dramor, efallai y gallwch barhau i gael Taliadau Tanwydd Gaeaf os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • roeddech yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf pan oeddech yn byw yn y DU
  • yna gwnaethoch symud i Ardal Economaidd Ewropeaidd arall neu i’r Swistir

Os ydych yn byw mewn gwlad Ardal Economaidd Ewropeaidd arall neu yn y Swistir, ni chewch Daliad Tanwydd Gaeaf os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • os ydych dan 60 oed
  • os nad oeddech yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf cyn gadael y DU
  • os gwnaethoch adael y DU yn barhaol cyn 5 Ionawr 1998
  • os ydych chi byw y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir fel arfer
  • os ydych yn byw yn y DU fel arfer (ond galwch gael taliadau fel preswylydd yn y DU o hyd)
  • os byddwch yn y ddalfa dan ddedfryd yn ystod yr wythnos gymhwyso (21 i 27 Medi 2009)

Cael gwybod mwy am y pynciau canlynol:

Os ydych yn byw mewn Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir a’ch bod am gysylltu â rhywun ynghylch eich Taliad Tanwydd Gaeaf

Mae’r Tîm Tanwydd Gaeaf yn y Ganolfan Bensiynau Ryngwladol yn gyfrifol am wneud Taliadau Tanwydd Gaeaf i bobl sy’n byw y tu allan i’r DU.

Dylech gyfeirio’ch holl sylwadau at y Tîm Tanwydd Gaeaf.

Newidiadau o aeaf 2010-11 ymlaen

Bydd yr oed cymhwyso ar gyfer Taliadau Tanwydd Gaeaf yn cynyddu’n raddol o 60 i 65 rhwng 2010 a 2020 er mwyn cyd-fynd â’r newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod.

Os byddwch yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf am y tro cyntaf yn 2010-11 neu ar ôl hynny, bydd hyn yn berthnasol i chi.

Os ydych eisoes wedi cael y Taliad Tanwydd Gaeaf mewn blwyddyn flaenorol ni fydd hyn yn effeithio arnoch chi. Ni fydd hyn yn effeithio ar daliadau 2009-10.

Allweddumynediad llywodraeth y DU