Mae sawl gwahanol ffordd o droi eich cronfa bensiwn personol yn incwm rheolaidd ar gyfer eich ymddeoliad. Ers mis Ebrill 2006 bydd y rheolau yn gwneud eich opsiynau'n symlach ac yn fwy hyblyg nag o'r blaen.
Erbyn Ebrill 2010, bydd yr isafswm oed ar gyfer cymryd eich pensiwn cwmni neu bensiwn personol wedi codi o 50 i 55. Cewch hefyd ddewis peidio â'i gymryd hyd nes byddwch yn 75 oed.
Fodd bynnag, dan rai amgylchiadau, efallai y cewch eich pensiwn cyn ichi gyrraedd 55, er enghraifft os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd afiechyd. Bydd gweinyddwr eich pensiwn yn gallu dweud wrthych beth a ganiateir gan eich cynllun.
Ers Ebrill 2006 ymlaen mae mwy o ddewis am sut a phryd y cewch gymryd eich buddion pensiwn. Ond cofiwch fod yn rhaid i gynlluniau pensiwn gydymffurfio â rheolau cynlluniau unigol ac felly bydd angen ichi holi gweinyddwr eich pensiwn i weld beth a ganiateir gan eich cynllun penodol chi.
Pan fyddwch yn ymddeol, cewch gymryd hyd at 25 y cant o werth eich holl gynilion pensiwn o bob ffynhonnell fel taliad unswm di-dreth, hyd at uchafswm o 25 y cant o'r 'lwfans oes' am y flwyddyn dreth honno.
Ar gyfer blwyddyn dreth 2008-2009 £1.65 miliwn yw'r lwfans oes (wedi'i brofi yn erbyn cyfanswm eich cynilion personol), gan gynyddu'n raddol i £1.8 miliwn erbyn 2010-2011.
Os yw cyfanswm eich pensiynau yn uwch na'r lwfans oes bydd yn bosib i chi gymryd yr elw dros ben fel swm o arian o hyd, ond bydd rhaid talu treth o 55 y cant.
O fis Ebrill 2006 os yw cyfanswm eich cynilion pensiwn o bob ffynhonnell oedd £16,500 neu lai (un y cant o'r 'lwfans oes') gallwch gymryd y cyfanswm fel taliad unswm, gyda 25 y cant yn ddi-dreth.
Bydd yr uchafswm ar gyfer cael yr arian sydd yn y gronfa gyfan yn cynyddu'n raddol i £18,000 erbyn blwyddyn dreth 2010-2011.
Mae'r opsiynau canlynol gennych (ar ôl i chi gymryd unrhyw daliad unswm di-dreth):
Treth ar incwm pensiwn os ydych wedi mynd y tu hwnt i'ch lwfans oes
Os yw cyfanswm eich cynilion pensiwn wedi mynd y tu hwnt i'r lwfans oes, codir treth o 25 y cant ar t swm sy'n weddill; bydd yr incwm a dynnir o'ch pot pensiwn wedyn yn cael ei drethu ar eich cyfradd Treth Incwm arferol
I gael rhagor o wybodaeth am ffyrdd o dynnu'ch pensiwn ewch i wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA).
Bydd yr incwm a gewch o flwydd-dal yn dibynnu'n bennaf ar faint eich cronfa bensiwn ac am faint y disgwylir i'r blwydd-dal dalu. Mae hefyd yn dibynnu ar y darparwr pensiwn. Oherwydd nad oes rhaid ichi brynu blwydd-dal gan eich darparwr pensiwn chi, mae'n bwysig siopa o gwmpas i gael y fargen orau.
Dyma'r mathau cyffredin:
Onid ydych yn deall pensiynau personol yn iawn, dylech ystyried cael cyngor arbenigol ar yr opsiynau sydd ar gael. Cewch wybodaeth gyffredinol am ddim gan y rhan fwyaf o sefydliadau. Darllenwch 'Cael help a gwybodaeth am bensiynau' er mwyn cael gwybod rhagor.
Fodd bynnag, dim ond ymgynghorwyr wedi'u hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) gaiff gynnig cyngor i chi am bensiynau. Byddant yn edrych ar eich sefyllfa ac yn awgrymu pa gynnyrch yw'r mwyaf addas ar gyfer eich anghenion chi.
Cael help a gwybodaeth am bensiynau