Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 9 Chwefror 2012

Pwy i gysylltu â nhw yn y Gwasanaeth Pensiwn - archebu taflenni hwylus

Mae nifer o’r taflenni y mae'r Gwasanaeth Pensiwn yn eu cynhyrchu ar gael mewn fformatau hwylus. Gallwch chi eu harchebu dros y ffôn neu ffôn testun, yn ogystal â’r fersiynau safonol o’r taflenni yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gallwch chi hefyd ofyn am daflenni mewn ieithoedd eraill.

Archebu taflenni hwylus dros y ffôn neu ffôn testun

Mae taflenni ar gael mewn fformatau hwylus, er enghraifft:

  • print bras
  • Braille
  • sain

Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn cynnig taflenni ar lawer o bynciau, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn. Gallwch chi archebu copïau o’r taflenni dros y ffôn neu ffôn testun.

Os byddwch chi’n archebu taflenni gwahanol, efallai na fyddan nhw'n cyrraedd ar yr un pryd.

Llinell Archebu Gwybodaeth am Bensiynau

Mae’r Llinell Archebu Gwybodaeth am Bensiynau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am a 5.00 pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

  • ffôn: 0845 7 31 32 33
  • ffôn testun: 0845 604 0210

Dyma rai o'r taflenni mae modd i chi eu cael:

  • Pensiynau contractio-allan (PM7W)
  • Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir (GL25W)
  • Taflen Credyd Pensiwn (PC1LW)
  • Y Gwasanaeth Pensiwn - ein safonau gwasanaeth (PSSOS)
  • Canllaw i bensiynwyr (PG1)
  • Canllaw i bensiynwyr ar gyfer Cymru (PG2W)
  • Canllaw i bensiynwyr ar gyfer yr Alban (PG3)
  • Cyfraddau budd-daliadau a phensiynau (DWP035W)
  • Eich datganiad pensiwn wedi’i esbonio (CPF5W)
  • Eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth (BR19LW)

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU