Pan fydd rhywun yn marw, mae'n bosib y bydd gennych lawer o bethau i feddwl amdanynt ar amser pan fyddwch yn debygol o fod yn galaru, ac felly mae'n werth gwybod pa daliadau sy'n ofynnol ac a oes gennych hawl i fudd-daliadau.
Er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid i chi gael trefn ar faterion ariannol megis ystâd y sawl a fu farw (eiddo, eiddo personol, arian a buddsoddiadau) a thalu treth. Neu efallai y bydd gennych hawl i daliad penodol megis y Lwfans Profedigaeth.
Pan fydd rhywun yn marw, yr 'ysgutor' (os oes ewyllys) neu'r 'gweinyddwr' (os nad oes ewyllys) fel arfer sy'n cael trefn ar faterion ariannol yr ymadawedig ac wedyn yn dosbarthu'r hyn sy'n weddill yn unol â'r ewyllys neu gyfreithiau diffyg ewyllys.
Mewn rhai achosion, megis pan fo'r ystâd yn fach, neu os yw'r unig eiddo yn yr ystâd mewn cyd-berchnogaeth a'r partner priod neu bartner sifil yn dal yn fyw, efallai na fydd yn rhaid penodi ysgutor neu weinyddwr.
Gall Taliadau Angladd helpu tuag at gost trefnu angladd. Mae'n bosibl y bydd rhaid ad-dalu peth ohono neu'r cyfan ohono o ystâd y sawl a fu farw.
Os yw eich gŵr neu'ch gwraig wedi marw, mae'n bosibl y gallwch chi hawlio Taliad Profedigaeth, taliad unswm untro gwerth £2,000 sy'n ddi-dreth.
Os ydych wedi cael eich gwneud yn weddw, gallech dderbyn Lwfans Profedigaeth. Dyma fudd-dal wythnosol trethadwy a delir i chi am hyd at 52 wythnos ar ôl i'ch gŵr, gwraig neu bartner farw.
Os ydych chi'n rhiant gweddw a bod gennych blant sy'n dibynnu arnoch (dan 16 neu dan 19 os ydynt yn dal i fod mewn addysg uwchradd amser llawn), mae'n bosibl y gallwch chi hawlio'r Lwfans Rhiant Gweddw.
Ar ôl i rywun farw, rhaid i rywun (sef 'ysgutor' neu 'weinyddwr' y person a fu farw) ddelio â'u harian a'u heiddo ('ystâd' yr ymadawedig). Bydd angen iddynt dalu trethi a dyledion y sawl a fu farw, a rhannu arian ac eiddo'r person hwnnw i'r bobl sydd â hawl iddo.
Pan fydd rhywun yn marw, mae'n bwysig cael trefn ar eu materion treth ac Yswiriant Gwladol cyn gynted ag y bo modd. Efallai bod treth i'w thalu neu ad-daliad yn ddyledus. Yr ysgutor neu'r gweinyddwr sy'n rhoi trefn ar faterion treth yr ymadawedig, yn ogystal â gweddill yr ystâd.
Pan fydd rhywun yn marw, mae unrhyw ddyledion sydd ganddynt yn cael eu talu o'u 'hystâd' (yr arian a'r eiddo y maent yn eu gadael ar ôl). Dim ond os oedd gennych gytundeb neu fenthyciad ar y cyd y byddwch yn gyfrifol am eu dyledion os byddwch wedi darparu gwarant benthyciad – nid ydych yn gyfrifol yn awtomatig am ddyledion gŵr, gwraig neu bartner sifil.
Pan fydd rhywun yn marw, bydd unrhyw arian sy'n ddyledus iddyn nhw'n cael ei gyfri'n rhan o'u 'hystâd' (popeth sy'n eiddo iddynt neu sy'n ddyledus iddynt ar ôl tynnu unrhyw ddyled sydd ganddyn nhw). Cyfrifoldeb yr ysgutor (os oes ewyllys) neu weinyddwr (os nad oes ewyllys) yw casglu dyledion sy'n ddyledus i'r sawl a fu farw.
Y Dreth Etifeddu yw'r dreth sy'n cael ei thalu ar eich 'ystad'. Yn gyffredinol, golyga hyn bopeth yr ydych yn berchen arno adeg eich marwolaeth, llai eich dyledion. Weithiau mae'n daladwy ar asedau yr ydych wedi'u rhoi i ffwrdd yn ystod eich bywyd. Mae asedau'n cynnwys pethau megis eiddo, eiddo personol, arian a buddsoddiadau.
Os ydych wedi cael eich enwebu yn gynrychiolydd personol i rywun, bydd angen ichi brisio'r holl asedau (eiddo, eiddo personol ac arian) yr oedd yr ymadawedig yn berchen arnynt, er mwyn cyfrifo faint o Dreth Etifeddu sy'n ddyledus. Mae Treth Etifeddu'n daladwy dim ond os yw gwerth ystâd person yn fwy na £312,000.
Wrth brisio ystâd rhywun sydd wedi marw, bydd angen ichi gynnwys yr asedau yr oedd yn eu meddiant (eiddo, eiddo personol ac arian) cyn eu marwolaeth a rhai asedau a roddwyd i ffwrdd ganddynt yn ystod y saith mlynedd cyn eu marwolaeth. Rhaid i'r prisiad adlewyrchu'n gywir y pris y byddai'n rhaid ei dalu o fewn rheswm am yr asedau hynny ar y farchnad agored adeg marwolaeth yr unigolyn.