Ar ôl i rywun agos atoch farw, efallai y bydd angen i chi gysylltu â phobl a sefydliadau penodol, llenwi rhai dogfennau, trefnu angladd a delio â materion ariannol ac eiddo. Hefyd, os oeddech yn agos at y sawl sydd wedi marw, efallai y byddwch yn teimlo bod arnoch angen cefnogaeth neu rywun i siarad ag ef.
Pan fydd rhywun yn marw, rhaid rhoi gwybod i bobl a sefydliadau penodol, a rhaid llenwi rhai dogfennau. Gall ffrind neu berthynas agos wneud rhai o'r pethau hyn; rhaid i eraill gael eu gwneud gan ysgutor neu weinyddwr ystad yr ymadawedig.
Gydag angladd, gellir claddu neu amlosgi. Gallwch ei drefnu gyda chymorth trefnydd angladdau neu heb ei gymorth, a gellir ei gynnal yn unol â'ch dymuniadau personol chi. Mewn rhai achosion, efallai y bydd yr ymadawedig wedi trefnu ei angladd ei hun yn barod.
Fel arfer, mae angen i chi gofrestru marwolaeth rhywun o fewn pum niwrnod. Ar ôl gwneud hynny, byddwch yn cael tystysgrif marwolaeth, ac efallai y bydd ei hangen ar yr ysgutor neu'r gweinyddwr wrth iddynt roi trefn ar faterion yr ymadawedig. Hefyd, os caiff y farwolaeth ei chyfeirio at grwner, mae'n bosib y bydd oedi cyn cofrestru.
Yma ceir rhestr wirio o'r dogfennau a'r wybodaeth y bydd angen eu casglu ac i bwy y mae angen rhoi gwybod am y farwolaeth.
Bydd angen i chi weithredu'n gyflym os oedd y sawl sydd wedi marw, neu ei berthynas agosaf, yn dymuno rhoi ei organau i'w trawsblannu, neu roi'r corff i gyd er mwyn iddo gael ei ddefnyddio at ddibenion dysgu ym maes meddygaeth.
Mae'n werth gwneud yn siŵr bod digon o arian i dalu am gostau unrhyw angladd y bydd angen i chi, o bosib, fod yn gyfrifol am ei drefnu.
Pan fydd rhywun yn marw dramor, gall y farwolaeth beri mwy o drallod oherwydd y cymhlethdodau o fod oddi cartref a delio â dieithriaid, ond gallwch gael cymorth gan yr Awdurdodau Prydeinig yn y DU a thramor.
Ar wahân i gyngor cyffredinol a chefnogaeth gan feddygon, twrneiod a gwasanaethau cymdeithasol, er enghraifft, ceir llawer o fudiadau a all gynnig cymorth yn ôl eich amgylchiadau penodol chi.