Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Enwebu cynorthwy-ydd i gasglu budd-daliadau neu bensiwn ar eich rhan

Mae'n bosib y daw adeg yn eich bywyd pan fyddwch chi dal yn gallu cadw trefn ar eich sefyllfa ariannol ond ei bod hi'n anodd i chi fynd i'r banc i nôl eich pensiwn neu fudd-daliadau eraill, neu efallai y bydd arnoch angen rhywun arall i gael y taliadau ar eich rhan. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, gallwch enwebu cynorthwy-ydd, megis perthynas neu ffrind yr ydych yn ymddiried ynddo, i'ch cynorthwyo.

Sut mae sicrhau bod rhywun arall yn cael mynediad at eich cyfrif

Y ffordd arferol o dalu Pensiynau'r Wladwriaeth, budd-daliadau, lwfansau neu gredyd treth i'ch cyfrif mewn banc neu gymdeithas adeiladu, neu mewn cyfrif gan ddarparwr cyfrifon arall, yw drwy Daliad Uniongyrchol.

Bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr cyfrifon yn caniatáu i chi bennu cynorthwy-ydd i gael mynediad at eich cyfrif ar eich rhan, naill ai'n barhaol neu dros dro. Dylech gysylltu â'ch banc, eich cymdeithas adeiladu neu'ch darparwr cyfrif arall i gael manylion am sut mae gwneud hyn.

Nid yw Taliad Uniongyrchol yr un fath â thaliadau uniongyrchol gan eich cyngor lleol, sef y taliadau y gallwch eu cael os oes gennych hawl i gael help ariannol ar gyfer gwasanaethau gofal ond eich bod yn dymuno gwneud eich trefniadau gofal eich hun.

Os na allwch gael arian drwy Daliad Uniongyrchol

Os nad ydych yn gallu rheoli cyfrif banc - ac felly nad oes modd talu i chi drwy Daliad Uniongyrchol - efallai y gallwch gael taliad eich budd-dal neu'ch pensiwn gyda siec.

Sut mae cynorthwy-ydd yn cyfnewid siec am arian parod ar eich rhan?
Bydd y cynorthwy-ydd yr ydych wedi'i enwebu yn cyfnewid y siec am arian parod ar eich rhan.
Bydd angen i chi lofnodi cefn y siec i ddangos eich bod wedi gofyn i rywun ei chyfnewid am arian parod ar eich rhan. Bydd y cynorthwy-ydd hefyd yn llofnodi datganiad ac yn rhoi tystiolaeth o bwy ydyw ac o bwy ydych chi yn eich banc neu'ch cymdeithas adeiladu.

Gwneud trefniadau ar gyfer y dyfodol – Atwrneiaeth Arhosol

Efallai yr hoffech sefydlu eich Atwrneiaeth Arhosol eich hun, a fydd yn caniatáu i chi benodi ffrind, perthynas neu berson proffesiynol yr ydych yn ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau ar eich rhan am bethau megis eich eiddo, eich arian a'ch lles yn y dyfodol pan na fyddwch chi'n gallu gwneud y penderfyniadau hynny.

Mae'r opsiwn hwn yn addas os ydych yn dymuno ffurfioli trefniant lle mae'r berthynas neu'r ffrind y mae gennych ffydd ynddo yn cael mynediad ar eich cyfrif fel eich asiant.

Eto i gyd, bydd angen i chi drafod y trefniadau talu gyda'ch banc neu'ch cymdeithas adeiladu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU