Gall iechyd, symudedd a sefyllfaoedd ariannol effeithio ar benderfyniadau a wnewch ynglŷn â'ch trefniadau tai. Efallai bod angen lefel o gefnogaeth arnoch nad yw'n bosibl ei darparu yn eich cartref. Unwaith i chi wneud y penderfyniad i symud i gartref gofal, bydd angen i chi ddechrau'r broses o ddewis yr un iawn i chi.
Mae gennych hawl dewis eich cartref gofal. Mae digon o ddewis, ond gallai gymryd amser i ddod o hyd i'r un sy'n iawn ar eich cyfer chi. Dylech wneud yn siŵr bod gan y cartref gofal a ddewiswch y cyfleusterau, yr offer a'r staff gyda'r hyfforddiant priodol i fodloni'ch anghenion.
Mae pob awdurdod lleol yn gosod symiau y byddant yn eu talu fel arfer ar gyfer rhywun gyda'ch anghenion asesedig. Os ydych eisiau symud i gartref gofal drutach, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am ofal preswyl lleol.
Ceir gwahanol fathau o gartrefi gofal. Mae rhai'n cynnig gofal nyrsio amser llawn, mae eraill yn cefnogi pobl gydag anabledd penodol neu angen meddygol.
Os ydych yn derbyn triniaeth reolaidd ar hyn o bryd gan nyrs gymwysedig, efallai y byddwch angen cartref gofal gyda nyrsio. Bydd eich nyrs ardal neu staff yr ysbyty yn gallu'ch helpu i benderfynu.
Mae ffioedd cartrefi gofal yn peri pryder i lawer o bobl. Weithiau, gall cartrefi gofal sy'n darparu gwasanaethau a chyfleusterau sy'n briodol ar gyfer anableddau penodol fod yn ddrud.
Bydd gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal yn asesu'ch anghenion ac yn eich helpu i ddod o hyd i gartref gofal a fydd yn diwallu'r anghenion hynny.
Byddant wedyn yn cynnal asesiad ariannol i ganfod faint y gallwch fforddio ei gyfrannu tuag atynt. Ar hyn o bryd, os oes gennych dros £22,250 o gyfalaf (£22,000 os ydych yn byw yng Nghymru), bydd yr asesiad yn nodi y byddwch yn gallu talu cost lawn eich gofal.
Bydd unrhyw un sy’n derbyn cefnogaeth ariannol gan wasanaethau cymdeithasol am ei gofal mewn cartref gofal sy’n darparu gofal nyrsio yn cael y gofal sydd angen arnynt gan nyrs cofrestredig ei dalu amdano gan yr NHS. Os ydych hefyd yn derbyn cefnogaeth gan wasanaethau cymdeithasol, byddant yn gyfrifol am y costau gofal eraill ac am asesu’r lefel o unrhyw gyfraniadau ariannol y mae’n bosib y bydd angen i chi ei wneud.
Mae pobl sy’n 65 a throsodd a gyda digon o arian i dalu am ei gofal ei hun ac wedi cael ei asesu fel angen gofal personol gan ei awdurdod lleol yn gymwys am daliadau wythnosol. Cysylltwch â’r llinell gymorth NHS 24 (yr Alban) ar 08454 24 24 24 am ragor o wybodaeth.
Os ydych chi’n credu bod arnoch angen gofal personol, dylech ofyn i’ch awdurdod lleol i gynnal asesiad anghenion gofal. Ni fydd rhaid i chi dalu am unrhyw ofal personol yr ydych yn cael eich asesu fel eich bod angen.
Mae’n bosibl y byddwch yn dewis cyfnod dros dro mewn cartref gofal i wella ar ôl fod yn sâl neu fel egwyl i chi a’ch gofalwr. Dylech hefyd gallu aros am gyfnod dros dro ar gyfnod prawf i weld os ydy’r cartref gofal yn addas i chi. Mae rhai pobl hefyd yn mynd i gartrefi gofal am ofal dydd.
Gall symud i gartref gofal effeithio ar y budd-daliadau rydych chi'n eu derbyn. Bydd y rhan fwyaf o'ch budd-daliadau'n ffurfio rhan o'ch cyfraniad tuag at ffioedd eich cartref gofal, ac felly mae'n bwysig eich bod yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Mae'n bosibl hefyd yr effeithir ar eich budd-daliadau gan gyfnod dros dro neu gyfnod prawf mewn cartref gofal.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn talu rhan o ffioedd eu cartref gofal, o leiaf, ond nid yw hyn yn golygu o reidrwydd y bydd rhaid i chi werthu eich cartref. Os ydych chi'n cynllunio ymlaen llaw, gallwch amddiffyn eich asedau a sicrhau bod gennych rywbeth i'w adael i'ch anwyliaid yn eich ewyllys.
Wrth ystyried symud i gartref gofal, efallai y byddwch yn poeni beth fydd yn digwydd i'ch anifeiliaid anwes, eich dodrefn ac eiddo personol arall. Mae'n bwysig gofyn am bolisi cartref gofal ar anifeiliaid anwes a chynnwys eich cartref cyn i chi symud i mewn.
Mae rhai pobl yn symud i gartref gofal yn uniongyrchol o'r ysbyty. Ni ellir eich rhyddhau o ysbyty i gartref gofal heb eich caniatâd ac mae gennych hawl dewis eich cartref gofal. Weithiau efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i ysbyty a chithau'n byw mewn cartref gofal.
Mae'r Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol yn rheoleiddio cartrefi gofal ac yn arolygu pob cartref gofal a gofrestrir ganddynt. Pan fyddwch yn symud i gartref gofal, dylech gael gwybod am y drefn gwyno. Os oes gennych unrhyw broblemau, gallwch gwyno'n uniongyrchol wrth y cartref gofal neu gwyno wrth y Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol.