Gallwch wneud llawer o bethau i gadw'n symudol ac i gadw'ch annibyniaeth wrth ichi heneiddio. Atal cwympiadau yw'r opsiwn gorau, ond os byddwch chi, neu'r sawl yr ydych yn gofalu amdano yn cael cyfres o gwympiadau, mae camau y gallwch eu cymryd i wella diogelwch.
Mae tua thraean o bobl dros 65 yn disgyn bob blwyddyn, gyda'r niferoedd yn uwch ar gyfer pobl dros 75.
Mae hyd at 20 y cant o'r cwympiadau angen triniaeth feddygol. Cwympiadau sy'n gyfrifol am hanner y bobl a dderbynnir i ysbyty gydag anafiadau damweiniol, yn enwedig torri'r glun.
Baglu neu ddamwain yw'r rheswm am dros hanner y cwympiadau a gofnodir gan bobl hŷn. Bydd oddeutu 90 y cant o bobl sy'n torri clun yn gwneud hynny wrth gwympo.
Yn ffodus, gellir rhwystro oddeutu 50 y cant o gwympiadau.
Mae 'na bethau i chwilio amdanynt a fydd yn gallu'ch helpu chi a'ch teulu neu ofalwr wybod a ydych mewn perygl o gwympo. I ganfod y risgiau, gallwch ofyn am asesiad risg cwympo naill yn eich meddygfa leol neu mewn clinig arbenigol. Gall yr asesiad gael ei wneud gan weithwyr gofal cymdeithasol, staff yr ysbyty neu dîm gofal iechyd gynradd.
Nod yr asesiad risg yw nodi unrhyw beth a allai wneud ichi ddisgyn ac yn pennu pethau penodol y gellir eu gwneud i helpu.
Yn dilyn yr asesiad, bydd y meddyg neu'r nyrs yn llunio cynllun ar eich cyfer i helpu i leihau'r risg i chi o gwympo yn y dyfodol.
Gallwch gael gwybod am asesiadau iechyd a gofal cymdeithasol yn eich ardal ac mae'n bosib y byddwch chi'n gallu gwneud cais am un ar-lein. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi deipio ble'r ydych chi'n byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol.
Gallwch wneud rhai newidiadau syml i'ch cartref a fydd yn helpu i atal cwympiadau, megis gosod canllaw yn yr ystafell ymolchi neu yn yr ardd.
Mae rhai awdurdodau lleol yn darparu gwasanaeth larwm cymunedol 24 awr. Mae'r gwasanaeth yn darparu cymorth a sicrwydd mewn argyfwng i bobl oedrannus a phobl sydd mewn perygl o ddisgyn. Gallwch gadw'r larwm gyda chi bob amser fel pendant o gwmpas eich gwddf neu ar eich arddwrn. Os cewch godwm, rydych yn gwasgu'r botwm ar y pendant a fydd yn ysgogi uned larwm ar wahân sy'n cynnwys uchelseinydd a microffon pwerus, gan adael i chi siarad gydag aelod o staff a fydd yn galw am gymorth.
Bydd yr adrannau tai a gwasanaethau cymdeithasol lleol yn asesu beth fydd ei angen arnoch i fyw'n fwy annibynnol. Gallant hefyd ddarparu cymorth ymarferol i addasu'ch cartref.
Efallai hefyd yr hoffech ystyried tai gwarchod fel opsiwn, lle rydych yn cadw'ch annibyniaeth ond bod cymorth wrth law pan fyddwch ei angen.
Er mwyn aros yn gadarn ar eich traed, gall ychydig o newidiadau syml - fel sicrhau nad oes dim ar y grisiau a'u bod wedi'u goleuo'n dda - wneud byd o wahaniaeth a sicrhau eich bod yn dal i allu symud o gwmpas.
Cewch fudd o wneud y canlynol:
Ymarfer yw un o'r ffyrdd gorau o atal cwympiadau yn ogystal â'ch gwneud yn fwy hyderus ac yn abl i fwynhau bywyd. Mae fideo Help the Aged 'Be Strong, Be Steady' yn cynnwys ymarferion cryfder a chydbwysedd i helpu i leihau'r risg o gwympo.
Ceisiwch beidio â mynd i banig ond ceisiwch gymorth drwy wneud sun, defnyddio'ch larwm personol neu ffonio 999.
Sicrhewch eich bod yn cadw'n gynnes, hyd yn oed dim ond trwy wneud pethau syml megis tynhau cyhyrau'ch breichiau a'ch coesau. Lapiwch eich hun mewn unrhyw beth cynnes sydd wrth law.
Wedyn, mae'n bwysig dweud wrth y meddyg beth ddigwyddodd. Trwy wneud hynny, gallwch dderbyn cymorth effeithiol.
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE) yn cyhoeddi llyfryn, 'Falls: the assessment and prevention of falls in older people'. I archebu copi, gallwch ffonio llinell ymateb y GIG ar 0870 1555 455 neu gallwch ei lwytho o’r wefan NICE.
Mae'r wefan Balance Training yn eich helpu i nodi'r risg i chi o gwympo ac i gynllunio rhaglen ymarfer ar gyfer eich anghenion a'ch gofynion.