Trwy gadw'n gorfforol weithgar, bydd eich iechyd a'ch ansawdd bywyd yn gwella a hefyd gall eich helpu i fyw'n hirach. Nid yw hi byth yn rhy gynnar nac yn rhy hwyr i ddechrau.
Mae gweithgarwch corfforol yn cynnwys unrhyw beth o dasgau bob dydd megis glanhau'r tŷ, garddio caled neu fynd â'r ci am dro i ymarfer penodol megis nofio, golff, gweithgarwch yn y gampfa neu denis. Y math gorau o weithgarwch yw un sy’n gwneud i chi deimlo ychydig yn gynhesach ac anadlu ychydig yn drymach, ac sy’n gwneud i’ch calon a’ch pwls guro’n gyflymach nag arfer.
Dyma rai o fanteision cadw'n gorfforol weithgar:
Trwy aros yn gorfforol weithgar, rydych hefyd yn debygol o aros yn annibynnol yn hirach. Gall ymarfer eich gwneud yn gryfach. Byddwch yn teimlo'n fwy hyderus ac yn rhan o fywyd.
Cofiwch, cyn dechrau ar drefn ymarfer newydd, mae'n syniad da siarad â'ch meddyg i ddechrau. Mae eich meddyg lleol hefyd yn fan cychwyn da ar gyfer dysgu am ymarfer er lles eich iechyd.
Mae segurdod yn eich gadael yn fwy agored i'r canlynol:
Os nad ydych wedi ymarfer ers blynyddoedd - ac amcangyfrifir bod pedwar o bob deg person dros 50 yn gwneud dim neu braidd dim ymarfer - dechreuwch gan bwyll a gwneud mwy yn raddol. Os ydych chi’n ymarfer am y tro cyntaf, neu’n ansicr a ddylech roi cynnig ar weithgaredd penodol, siaradwch â’ch meddyg.
Mae'r arbenigwyr yn argymell hanner awr o ymarfer cymedrol o leiaf bum gwaith yr wythnos. Gall yr holl ymarfer gael ei wneud mewn un hanner awr, neu ei rannu'n gyfnodau byrrach o weithgarwch drwy gydol y diwrnod.
Gallai fod yn syniad da dechrau drwy gerdded yn sionc am bum munud yn eich parc lleol, gan gynyddu’n raddol i’r 30 munud llawn dros nifer o wythnosau. Mae cerdded yn dda iawn i'ch iechyd, ac mae cannoedd o grwpiau cerdded ar agor i bob oed ledled y wlad.
Does dim rheswm i roi’r gorau i chwaraeon neu ymarfer corff yr ydych yn eu mwynhau am eich bod yn mynd yn hŷn. Dylech anelu i wneud o leiaf 30 munud o weithgarwch corfforol cymedrol bum gwaith neu fwy yr wythnos. Hyd yn oed os na fuoch chi’n arbennig o heini yn iau, mae nifer o fuddiannau i wella eich ffitrwydd wrth i chi fynd yn hŷn. Cofiwch ddal i symud a chadw eich symudedd a’ch hyblygrwydd drwy weithgarwch dyddiol hefyd.
Os ydych yn eich 80au a'ch 90au, gall ymarfer rheolaidd ysgafn helpu i gynnal cryfder y cyhyrau a gwella'ch gallu i symud. Trwy weithgarwch dyddiol gallwch gadw eich symudedd a'ch hyblygrwydd
Mae'n hawdd gwneud mwy o weithgarwch corfforol heb orfod gwneud newidiadau mawr i'ch ffordd o fyw. Gallwch ddechrau trwy ei gynnwys yn eich bywyd bob dydd heb fawr ddim ymdrech na chynllunio. Gallwch:
Mae 'na lawer o ffyrdd eraill o gadw'n heini. Gallech fynd i ddosbarthiadau Tai Chi, chwarae bowls, mynd i nofio, cerdded neu seiclo.
Mewn rhai ardaloedd, mae'r cynghorau lleol yn cynnig dosbarthiadau ymarfer yn rhad neu am ddim yn eu canolfannau hamdden neu chwaraeon.
Mae'r Gymdeithas Cadw'n Heini'n cynnal dosbarthiadau Mature Movers ar draws y wlad.
Mae Extend yn darparu symud adloniannol i gerddoriaeth i bobl dros 60 oed. Am ragor o wybodaeth, gallwch ffonio 01582 832 760.
Efallai fod eich canolfan hamdden leol yn cynnig ‘Pasportau i hamdden’ neu docynnau mantais i bobl hŷn. Gallwch hefyd gael gwybod am weithgareddau chwaraeon a allai fod yn addas i chi drwy Sport England, sy’n hyrwyddo chwaraeon yn y gymuned.