Mae cam-drin yr henoed yn cynnwys sawl math gwahanol o niwed i bobl hŷn. Gall gynnwys niweidio bwriadol, niweidio heb fwriad ac esgeulustod sy’n arwain at niwed. Os ydych yn teimlo y gallech fod mewn perygl, neu os ydych yn poeni am ffrind, perthynas neu gleient, mae ffyrdd o helpu.
Y bobl oedrannus sydd fwyaf agored i gael eu cam-drin yw'r rhai sy'n fregus yn gorfforol, yn emosiynol neu'n seicolegol ac yn ddibynnol ar eraill am eu gofal.
Gall cam-drin ac esgeulustod ddigwydd yn y cartref yn ogystal ag mewn cartrefi gofal, cartrefi nyrsio ac ysbytai. Gall fod yn gysylltiedig â gweithwyr gofal, teulu, cymdogion, ffrindiau neu ddieithriaid.
Mae'r bobl sy'n fwyaf tebygol o gael eu cam-drin gartref yn cynnwys:
Os ydych yn profi niwed drwy gam-drin neu esgeulustod, neu'n poeni am ffrind, perthynas neu gleient, mae ffyrdd o helpu. Gallwch fynd at weithiwr cymdeithasol, meddyg teulu neu heddwas yn gwbl gyfrinachol. Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth gyfrinachol a di-dâl Gweithredu ar Gam-drin yr Henoed ar 0808 808 8141.
Gall cam-drin yr henoed ddigwydd unwaith neu'n gyson dros gyfnodau byr neu hir o amser.
Gall y gamdriniaeth fod yn un o'r canlynol:
Mae rhai arwyddion amlwg i chwilio amdanynt:
Mae rhai mathau o gamdriniaeth – gan gynnwys ymosod (rhywiol neu gorfforol), dwyn a thwyll – yn droseddau, a dylid rhoi gwybod i'r heddlu amdanynt, a all arwain at erlyn yn dilyn ymchwiliad troseddol.
Efallai bod gormod o ofn rhoi gwybod am y gamdriniaeth arnoch, yn enwedig os eich gofalwr sy'n gyfrifol, ond mae gennych hawl i gael eich diogelu gan y gyfraith a hawl i barch ac urddas. Dylai unrhyw un sy'n pryderu bod ffrind, perthynas neu ofalwr yn cael eu cam-drin gymryd camau i atal rhagor o gamdriniaeth a diogelu eraill.
Mae gan gynghorau lleol weithwyr cymdeithasol penodol i ddelio â cham-drin neu berygl o gam-drin. Os hoffech siarad â rhywun, gallwch ffonio eich cyngor lleol a gofyn am y Cydlynydd Amddiffyn neu Ddiogelu Oedolion.
Bydd y Cydlynydd Amddiffyn Oedolion yn eich helpu gyda chyngor a gwybodaeth, a bydd yn cymryd camau i sicrhau y caiff pobl sydd mewn perygl o gamdriniaeth eu diogelu a’u cefnogi’n briodol. Gallant wneud gwaith cydlynu ac ymchwilio’r hyn yr ydych yn pryderu amdano, gan drafod gyda’r heddlu lleol a’r GIG.
Gallwch gwyno hefyd. Mae'r Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol yn rheoleiddio cartrefi gofal ac yn arolygu pob cartref gofal a gofrestrir ganddynt. Mae’r Comisiwn hefyd yn cofrestru gwasanaethau gofal mewn cartrefi neu ofal cartref. Dan y gyfraith, rhaid i bob darparwr gofal cofrestredig feddu ar drefn gwyno. Mae gan y gwasanaethau cymdeithasol reolau am y staff a gyflogir ganddynt a safonau'r gofal a ddarparant.
I gwyno, ffoniwch linell gymorth y Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol ar 0845 015 0120.
Gallwch gwyno wrth eich cyngor lleol am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob cyngor ymchwilio cwynion ac ymateb iddynt.
Os ydych chi neu berthynas yn yr ysbyty a ddim yn cael y gofal priodol, gallwch gwyno wrth y GIG.
I gael rhagor o gymorth a chefnogaeth emosiynol, ffoniwch Linell Gymorth ddi-dâl Cam-drin yr Henoed, sy'n cael ei rhedeg gan elusen Gweithredu ar Gam-drin yr Henoed, ar 080 8808 8141. Mae'r llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.00 am a 5.00 pm.
Neu trafodwch unrhyw bryderon ariannol gyda'ch cyfreithiwr neu Gyngor Ar Bopeth.
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynnig gwarchodaeth ariannol i bobl nad ydynt yn gallu delio gyda’u materion ariannol a’r rheini sy’n pryderu am gamdriniaeth ariannol.