Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rhestr atgoffa wrth ymddeol: rhoi gwybod i bwy, pryd a pham

Wrth nesáu at oed Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch gymryd camau syml i sicrhau eich bod yn cael Pensiwn y Wladwriaeth ac unrhyw fudd-daliadau cysylltiedig ag oed y gall fod gennych yr hawl iddynt. Hefyd, bydd rhaid i chi gysylltu â'ch Swyddfa Dreth i sicrhau eich bod yn cael cynnydd yn y lwfansau a'ch bod yn talu'r swm iawn o dreth.

Pensiwn a budd-daliadau cysylltiedig ag oed

Hawlio Pensiwn y Wladwriaeth

Bedwar mis cyn ichi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn derbyn llythyr yn nodi'r dewisiadau sydd gennych o ran pryd i hawlio eich Pensiwn ac yn eich gwahodd i'w hawlio.

Os na fyddwch yn clywed dim, ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 731 7898. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am a 1.00 pm ar ddydd Sadwrn. Hefyd, gallwch lwytho ffurflen gais oddi ar wefan Y Gwasanaeth Pensiwn.

Bydd angen ichi anfon y ffurflen i'ch canolfan bensiynau agosaf. Gallwch chwilio am hon ar-lein neu yn eich llyfr ffôn lleol dan 'Pension Service'.

Hawlio'r Taliad Tanwydd Gaeaf

Os ydych yn 60 neu fwy, efallai fod gennych hawl i Daliad Tanwydd Gaeaf tuag at gost eich biliau gwresogi.

Yn y rhan fwyaf o achosion, telir hwn yn awtomatig, ond gallwch ganfod a oes gennych hawl i daliad drwy ffonio'r llinell gymorth ar 0845 915 1515. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.30 am a 4.30 pm.

Gwneud cais am Gredyd Pensiwn os ydych chi ar incwm isel

Mae Credyd Pensiwn yn gwarantu i bobl sy’n 60 oed a hŷn ac yn byw ym Mhrydain Fawr incwm wythnosol o £130 o leiaf os ydych yn sengl a £198.45 os oes gennych bartner. Os yw eich incwm o dan hwn, gall Credyd Pensiwn ychwanegu at eich incwm.
I gael rhagor o fanylion, ffoniwch llinell gais Credyd Pensiwn ar 0800 991 234 (am ddim) neu ffôn testun ar 0800 169 0133. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn. Neu gallwch lwytho ffurflen oddi ar y we a'i phostio i'ch canolfan bensiynau yn ddi-dâl.

O 6 Ebrill 2010 bydd yr oed y gallwch dderbyn Credyd Pensiwn yn codi yn unol â chynnydd yn oed Pensiwn y Wladwriaeth i ferched o 60 i 65 erbyn 2020. Defnyddiwch y cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth i gael gwybod mwy ynghylch y codiad yn oedran pensiwn y wladwriaeth i ferched a phryd y gallwch wneud cais am Bensiwn Credyd.

Taliadau Tywydd Oer

Efallai eich bod yn gymwys i gael Taliad Tywydd Oer o’r Gronfa Gymdeithasol am bob wythnos o dywydd oer iawn yn eich ardal os ydych yn derbyn Credyd Pensiwn neu fudd-daliadau ar sail incwm penodol eraill.

Telir Taliadau Tywydd Oer yn ystod cyfnodau o dywydd oer iawn er mwyn helpu gyda’r costau gwresogi ychwanegol. Gwneir y taliadau’n awtomatig ac felly does dim angen i chi eu hawlio.

Budd-daliadau eraill y gallech chi fod â hawl iddynt

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai fod gennych hawl i fudd-daliadau eraill pan fyddwch yn ymddeol, megis Lwfans Gofalwr, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor.

Hysbysu eich Swyddfa Dreth

Fel arfer bydd eich cyflogwr neu eich darparwr pensiwn yn hysbysu Cyllid a Thollau EM pan fyddwch yn ymddeol. Ond er mwyn osgoi oedi a allai olygu eich bod yn talu gormod neu rhy ychydig o dreth, mae'n well i chithau hefyd gysylltu â hwy.

Os ydych yn hunangyflogedig ac ar fin ymddeol, rhaid i chi gysylltu â'ch Swyddfa Dreth eich hun.

Beth sydd angen ichi ddweud wrth eich Swyddfa Dreth a pham

Bydd angen ichi gadarnhau'r wybodaeth ganlynol:

  • eich cyfeirnod treth a'ch rhif Yswiriant Gwladol (mae'r rhain ar eich P60 os oeddech yn gyflogedig ac ar eich Datganiad o Gyfrif a gohebiaeth arall os oeddech yn hunangyflogedig)
  • eich dyddiad geni - i sicrhau eich bod yn cael y lwfansau cysylltiedig ag oed mwy hael o'r dyddiad cywir
  • y dyddiad cychwyn a maint eich Pensiwn gan y Wladwriaeth - er mwyn iddynt sicrhau eich bod yn talu'r dreth gywir arno os ydych yn talu treth
  • y dyddiad cychwyn a maint unrhyw bensiynau personol neu gwmni y byddwch yn eu derbyn - i sicrhau eich bod yn talu'r dreth gywir ar y rhain

Os oes gennych incwm o ffynonellau eraill, megis buddsoddiadau, gallwch holi hefyd a oes angen ichi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad os nad ydych yn gwneud hynny eisoes.

Os na fyddwch yn cysylltu â'ch Swyddfa Dreth, efallai y byddant yn anfon ffurflen P161 atoch i gadarnhau'r manylion a roddwyd gan eich cyflogwr a darparwr eich pensiwn.

Eich pensiynau a threth

Telir Pensiwn y Wladwriaeth ichi heb i dreth gael ei didynnu. Ond gyda phensiynau eraill mae'r dreth wedi'i didynnu fel arfer cyn ichi eu derbyn. Dyna pam ei bod yn bwysig dweud wrth y Swyddfa Dreth faint yr ydych yn ei dderbyn gan bob pensiwn a phryd y dechreuodd y taliadau. Os ydych yn talu treth, bydd angen ichi dalu treth ar Bensiwn y Wladwriaeth. Os nad ydych yn talu treth efallai y bydd ad-daliad treth yn ddyledus i chi ar bensiynau eraill.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU