Mae'r Gwasanaeth Pensiwn yn cynnig Gwasanaeth Olrhain Pensiynau i'ch helpu i ddod o hyd i gynllun pensiwn personol neu gwmni rydych chi wedi'i golli.
Gall fod yn anodd olrhain eich pensiwn os ydych wedi newid swydd sawl gwaith yn ystod eich oes gweithio ac wedi colli cysylltiad â chyflogwr blaenorol a'i gynllun pensiwn.
Gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau eich helpu i ddod o hyd i hen gynllun pensiwn hyd yn oed os nad ydych chi'n siŵr am y manylion cysylltu. Mae'n gallu chwilio drwy gronfa ddata o dros 200,000 o gynlluniau pensiwn galwedigaethol a phersonol. Mae modd defnyddio'r gronfa ddata hon am ddim, i chwilio am gynllun.
Mae'n bosib y bydd y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau yn gallu rhoi manylion cysylltu cyfredol cynllun pensiwn i chi. Yna, gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon i gysylltu â'r darparwr pensiynau a sefydlu unrhyw hawl i bensiwn a all fod gennych.
Mwyaf o wybodaeth y gallwch chi ei rhoi i'r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau, mwyaf tebygol y bydd hi y cewch chi gyfeiriad cysylltu cyfoes ar gyfer y cynllun pensiwn rydych chi'n ceisio'i olrhain.
Os ydych chi'n ceisio olrhain cynllun pensiwn galwedigaethol, dechreuwch drwy weld:
Os ydych chi'n ceisio olrhain cynllun pensiwn personol, dechreuwch drwy weld:
Gallwch ffonio'r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau ar 0845 6002 537 (llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm), +44 191 218 2466 o dramor, ffôn testun ar 0845 3000 169 neu wrth lenwi ffurflen ar-lein.