Mynd i'r prif gynnwys
Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Y llywodraeth sy’n darparu Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, a gall roi arian ychwanegol i chi ar ben Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Efallai fod gennych bensiwn sy’n golygu eich bod wedi cael eich contractio allan o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Yma cewch fwy o wybodaeth am Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth a beth yw ystyr contractio allan.
Gallwch gronni Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth os ydych yn iau nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac os ydych:
Os ydych yn gyflogedig a bod gennych bensiwn, efallai y cewch eich contractio allan o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. O ganlyniad, mae’n debygol nad ydych yn cronni Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Cewch fwy o wybodaeth isod yn ‘Contractio allan o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth’.
Mae Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth wedi cael ei adnabod wrth enwau gwahanol yn y gorffennol. Roeddech chi’n arfer cael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth drwy’r Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion (SERPS).
Hyd nes i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth caiff eich SERPS ac Ail Bensiwn y Wladwriaeth eu hadbrisio bob blwyddyn yn unol â’r cynnydd yn yr enillion cyfartalog. Unwaith i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth bydd hyn fel arfer yn cynyddu’n unol â phrisiau.
Gweler ‘SERPS ac Ail Bensiwn y Wladwriaeth’ i gael gwybod mwy.
Etifeddu Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth
Os bydd eich priod neu’ch partner sifil yn marw, efallai y gallwch etifeddu rhywfaint o’u Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Gweler ‘SERPS ac Ail Bensiwn y Wladwriaeth’ i gael gwybod faint o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth y gellir etifeddu.
Os ydych yn gyflogedig a bod gennych bensiwn cwmni, pensiwn rhanddeiliaid neu bensiwn personol, efallai y gallai’r pensiwn hwn gael ei gontractio allan o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Pan benderfynir na fydd cynllun pensiwn yn cyfrannu at Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, gelwir hyn yn ‘gontractio allan’.
Tra byddwch chi wedi’ch contractio allan, gan amlaf ni fyddwch yn cronni Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, ond cewch eich digolledu am hyn. Bydd sut y byddwch yn cael eich digolledu’n dibynnu ar y math o bensiwn sydd gennych:
Os oes gennych bensiwn cwmni neu bensiwn galwedigaethol, byddwch chi a’ch cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd is.
Os oes gennych bensiwn personol neu bensiwn rhanddeiliaid, byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y gyfradd lawn. Ond bydd y llywodraeth yn talu cyfran o’r cyfraniadau hynny i’ch cynllun pensiwn ar eich rhan.
Os byddwch yn contractio allan o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, ni fydd hynny’n effeithio ar Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Does dim modd contractio allan o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.
Newidiadau mewn trefniadau contractio allan o 6 Ebrill 2012 ymlaen
O 6 Ebrill 2012 ymlaen, ni fydd modd contractio allan o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ar gyfer rhai mathau o bensiynau. O'r dyddiad hwn, ni fyddwch yn gallu contractio allan o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth mwyach drwy'r canlynol:
Os byddwch chi’n cael eich contractio allan drwy un o’r cynlluniau hyn ar 6 Ebrill 2012, byddwch yn ailymuno â Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn awtomatig. Byddwch yn dechrau cronni Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth o hynny ymlaen. Llwythwch ‘Pensiynau wedi’u contractio allan’ i gael gwybod rhagor. I gael gwybod beth yw ystyr pensiwn cyfraniad diffiniedig a phensiwn pwrcasu arian, gweler ‘Beth sy'n digwydd i'ch pensiwn cwmni pan fyddwch chi’n marw’.
Os oes gennych bensiwn cwmni, dylai’ch cyflogwr ddweud wrthych a yw wedi cael ei gontractio allan.
Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi hen bensiwn ond na allwch gofio’r manylion, efallai y gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau eich helpu.
Nid ydych yn cronni Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth os oes un o’r canlynol yn berthnasol i chi:
Mae’n bosib y cewch chi gredydau tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth pan nad ydych yn gweithio, ond ni fyddwch yn cronni Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.
Mewn rhai achosion, os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd, ni fyddwch yn cronni Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.
Os ydych wedi ennill yr hawl i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, dylech ei gael wrth hawlio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Gweler ‘Hawlio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth’ i gael mwy o wybodaeth am sut y gallwch chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth.
Os oes gennych hawl i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, gallwch ei hawlio pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’ i gael gwybod pryd y byddwch chi'n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Gallwch hefyd ddewis hawlio Pensiwn y Wladwriaeth yn nes ymlaen. Gweler 'Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth' i gael gwybod mwy.
Mae rhannau ychwanegol Pensiwn y Wladwriaeth yn codi’n unol â’r cynnydd. Mae'r rhain yn cynnwys:
Hyd nes i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd yr Ail Bensiwn y Wladwriaeth neu Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion yr ydych wedi cronni yn cynyddu’n raddol gyda’r cynnydd mewn enillion cyfartalog. Mae hwn hefyd yn cael ei hadnabod fel ailbrisio.
Yma cewch wybod beth y mae angen i chi roi gwybod amdano, megis newid cyfeiriad neu fanylion banc.